Arddangosfa "Gwaith Merched" yn herio canfyddiadau am waith menywod yng Nghymru
Mae Viv Collis, sydd yn un o raddedigion Coleg Celf Abertawe PCYDDS, yn ail-lunio safbwyntiau gyda’i harddangosfa ddiweddaraf, Gwaith Merched yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Wedi’i lansio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae’n cyfuno deunyddiau archifol â ffotograffau cyfoes i sbarduno sgwrs ac adfyfyrio ar rôl menywod yng ngweithlu Cymru.
I’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe tan 7 Medi 2025 ac mae mynediad am ddim.
Chwaraeodd amser Viv ar BA Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol ac MA Ffotograffiaeth – Deialogau Cyfoes rôl sylfaenol wrth lunio ei hymagwedd at ffotograffiaeth ddogfennol a gweithredaeth weledol.
“Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol, ond roedd eu cysylltu â’r gweledol yn ystod fy ngradd yn ddysgu newydd a chyffrous i mi,” meddai Viv. “Darganfyddais rym delweddau, celf ddogfennol a chysyniadol trwy fy astudiaethau. Gwnes i hefyd ddarganfod fod gen i gariad at bortreadau ac archwilio sut y gellid gwneud hynny mewn ffordd fwy diddorol a deinamig.”
Yn ystod ei gradd baglor hefyd dechreuodd hi ymchwilio i rôl menywod yn y gweithle, thema sy’n cael lle blaenllaw yn ei harddangosfa bresennol.
“Cafodd un o’m delweddau o fenyw, yn gweithio ar ei phen ei hun, ar ei fferm ei dewis i’w harddangos mewn arddangosfa fewnol. Pan oedd cyd-fyfyrwyr wedi’u drysu ynghylch pam fy mod wedi tynnu llun o ffermwr, atebais i, ‘oherwydd ei bod hi’n fenyw sy’n gweithio ar ei phen ei hun.’ Achosodd hyn syndod - nid ei bod hi’n gweithio ar ei phen ei hun, ond ei bod yn fenyw. Rydw i wastad wedi bod â diddordeb yn yr hyn y mae pobl yn ei weld a’i ddarllen mewn delweddau.”
Wedi’i dylanwadu gan ochr ddamcaniaethol ei hastudiaethau, datblygodd ddealltwriaeth o sut mae delweddau’n cael eu darllen a’u dehongli, oedd yn hwb iddi i dynnu sylw at y diffyg cynrychiolaeth o fenywod mewn rolau anhraddodiadol. Mae ei gwaith yn cyd-fynd yn ddi-drafferth ag ethos y rhaglen Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol, gan eirioli dros y pynciau y mae’n eu portreadu.
“Fel menyw sydd wedi gweithio mewn rolau confensiynol ac anghonfensiynol, roedd yn bwysig i mi agor deialog weledol ehangach trwy Gwaith Merched,” esboniodd Viv. Gwnes i gyfweld â’r menywod roeddwn i’n tynnu eu lluniau, gan sicrhau bod eu lleisiau a’u straeon yn cael eu cynrychioli ochr yn ochr â’u portreadau, gan roi dyfnder pellach i’r naratif.”
Mae Gwaith Merched yn cyflwyno cyfuniad grymus o ffotograffau Viv ei hun o fenywod mewn rolau lle mae dynion yn tra-arglwyddiaethu - fel coedyddwyr, plastrwyr, a gweithwyr carchar cyfoes - ochr yn ochr â delweddau archifol hanesyddol y cafodd fynediad atynt gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Gyda’i gilydd, maen nhw’n datgelu bod menywod wedi bod yn rhan o’r diwydiannau hyn ers amser maith.
Mae’r arddangosfa yn codi cwestiynau beirniadol am sut y mae menywod yn cael eu cynrychioli yn y gweithlu, gan herio stereoteipiau a thaflu goleuni ar gyfraniadau menywod sydd yn aml wedi cael eu hanwybyddu trwy gydol hanes. Mae’r cyfosodiad o ddelweddau cyfoes a hanesyddol yn annog adfyfyrio ar y rolau hyn a anwybyddwyd a’u harwyddocâd wrth lunio gweithlu heddiw.
Dywedodd y darlithydd ffotograffiaeth, Ryan Moule: “Llongyfarchiadau i Viv Collis a’i harddangosfa sy’n ysgogi’r meddwl, Gwaith Merched, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gwaith Viv yn dangos yn rymus effaith a pherthnasedd ffotograffiaeth ddogfennol wrth lunio disgwrs cyhoeddus. Mae ymroddiad ac adrodd straeon treiddgar Viv yn tynnu sylw at gyfraniadau hanfodol menywod yn ein cymunedau, gan atgyfnerthu pwysigrwydd gweithredaeth weledol fel offeryn ar gyfer newid cymdeithasol.”
Am ragor o wybodaeth am arddangosfa Viv, ewch i .
Gallwch hefyd ddarganfod rhagor am BA Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol ac MA Ffotograffiaeth – Deialogau Cyfoes – y ddau gwrs a arweiniodd Viv at ble y mae hi.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;+447482256996