Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol (Llawn amser) (BA Anrh)
Ein gradd Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS yw’r gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig. Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddod yn ffotograffydd dogfennol a gweithredwr gweledol medrus, gan eich annog i ail-werthuso a herio hanes ac arferion ffotograffiaeth. Byddwch yn dysgu deall y strwythurau pŵer mewn ffotograffiaeth a sut i’w defnyddio i adrodd straeon gweledol pwerus.
Mae’r cwrs yn moderneiddio sgiliau traddodiadol ac ymarferol mewn gwaith dogfennol a ffotonewyddiadurol. Rydym yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth fel proses gymdeithasol yn hytrach nag un unigol. Byddwch yn dod yn eiriolwr dros yr achosion a’r materion cymdeithasol sy’n bwysig i chi, gan gymryd rhan lawn yn y pynciau sydd o ddiddordeb i chi.
Drwy gydol eich astudiaethau, cewch eich annog i gydweithio â’r gymuned leol a meddwl am eich rôl fel dinesydd gweithredol mewn cymdeithas ddemocrataidd. Rydym yn rhoi sylw arbennig i ddatblygiad sgiliau gwrando sy’n galluogi myfyrwyr i fod yn ymwybodol o’u llais sonig arbennig ac unigryw.
Mae ein cwrs yn cynnwys ffotograffiaeth yn ei ystyr ehangaf, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl a manteisio ar botensial cyfryngau digidol newydd. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gyflwyno eich gwaith mewn arddangosfeydd, gan eich helpu i feithrin cysylltiadau â diwydiant ac arddangos eich talent. Nod y rhaglen yw eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ffotograffiaeth ddogfennol a gweithredaeth weledol, gan eich galluogi i gyfrannu at newid cymdeithasol trwy eich celf.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar feithrin creadigrwydd, meddwl beirniadol ac ymgysylltu cymdeithasol. Rydym yn pwysleisio cyfrifoldebau moesegol ffotograffwyr, gan ganolbwyntio ar arferion cydweithredol a chymunedol. Ein nod yw datblygu eich sgiliau llais a thechnegol unigryw, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa ddeinamig mewn ffotograffiaeth ddogfennol a gweithredaeth weledol.
Yn eich blwyddyn gyntaf, mae’r ffocws ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol a thechnegol i ddarparu sylfaen er mwyn ymchwilio i bynciau o ddiddordeb personol. Mae’r meysydd yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys:
-
Technegau ystafell dywyll traddodiadol
-
Sut i ddefnyddio pecynnau meddalwedd Adobe
-
Technegau goleuo stiwdio a lleoliadau proffesiynol
-
Sut i ymateb i friffiau sydd wedi’u gosod
-
Sut i gyfuno sgiliau analog a digidol i greu canlyniadau arloesol
-
Hanes ffotograffiaeth a damcaniaeth diwylliant gweledol
Byddwch yn ymchwilio i hanfodion ymarfer dogfennol ac astudiaethau gweledol gan archwilio ffyrdd gwahanol o feddwl a chanfod, a fydd yn eich helpu i ailfeddwl am ffotonewyddiaduraeth. Bydd prosiectau’n cynnwys creu cylchgronau artistiaid a chymryd rhan yn eich arddangosfa gyntaf, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol.
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
Gan adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod eich blwyddyn gyntaf, mae’r ail flwyddyn yn amser ar gyfer mwy o arbrofi a chydweithio:
-
Gweithio mewn grwpiau bach i ddylunio a churadu eich arddangosfa gyhoeddus eich hun
-
Cysyniadu a chreu llyfr lluniau
-
Cael cyfleoedd i ddilyn interniaethau wedi’u hariannu
-
Canolbwyntio’n fwy ar ddatblygu llwyfan broffesiynol ar gyfer eich gwaith (gan gynnwys: strategaethau gwefan/cyfryngau cymdeithasol/arddangosfa)
-
Arbrofi â phrosesau ystafell dywyll amgen
-
Cael y dewis i astudio semester dramor
-
Defnyddio eich sgiliau ymchwil a dadansoddi beirniadol ar gyfer cynnig prosiect mawr
Byddwch yn archwilio modiwlau fel Gweithredaeth Gweledol: Lleoliad a Churadaeth ac Arddangosfa 2.0 a fydd yn eich galluogi i archwilio gweithredaeth weledol a churadaeth. Byddwch hefyd yn ymchwilio i gyhoeddi a phrotestio, gan ddysgu sut i ddefnyddio ffotograffiaeth fel arf ar gyfer newid cymdeithasol.
(20 Credyd)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Mae eich trydedd flwyddyn yn ymwneud â datblygu eich portffolio proffesiynol a pharatoi eich hun ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y diwydiannau creadigol ar ôl graddio. Byddwch yn cynnal ymholiad creadigol uwch ac yn datblygu prosiect annibynnol sy’n adlewyrchu eich diddordebau personol a’ch dyheadau proffesiynol. Y prosiect mawr fydd uchafbwynt eich astudiaethau, gan eich galluogi i arddangos eich sgiliau a’ch gweledigaeth. Mae’r flwyddyn hon wedi’i chynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer pontio llwyddiannus i’r byd proffesiynol, gan ddod i ben gyda chorff sylweddol o waith.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn dysgu technegau a llifoedd gwaith o safon y diwydiant, yn ennill profiad mewn gwahanol leoliadau creadigol, ac yn datblygu gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth yn y sectorau cyfryngau digidol a diwydiannau creadigol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio eich gwaith ar ystod eang o lwyfannau.
(20 credydau)
(40 credydau)
(60 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities & Exhibitions
Cyfleusterau ac Arddangosfeydd
Yn ogystal â chyfleusterau ac ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth traddodiadol helaeth, mae ein darpariaeth ddigidol yn cynnwys ystafelloedd digidol lliw-reoledig arbenigol a chanddynt y feddalwedd Adobe diweddaraf. Mae hyn yn cynnwys sganwyr ffilm Hasselblad cydraniad uchel, portffolio fformat canolig a mawr ac argraffu ar gyfer arddangosfa.

Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Oriel Ffotograffiaeth Ddogfennol
Gwybodaeth allweddol
-
120 o bwyntiau tariff UCAS 
-
e.e. Safon Uwch: ABB, BTEC: DDM, IB: 33 a Phortffolio
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
– Tystysgrif mewn Addysg Uwch (CertHE).
Cwrs blwyddyn yw hwn sy’n cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gelf a dylunio, gan sefydlu sail gadarn i’ch dyfodol creadigol. Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o ddisgyblaethau artistig a meysydd dylunio, gan eich helpu i ddarganfod eich diddordebau a mireinio eich sgiliau.  
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Cyfweliad
Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr Coleg Celf Abertawe gael cyfweliad.
Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn eich cyfweliad, cysylltwch â ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk
Portffolio
Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan roi sylw i’ch arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. P’un a ydyn nhw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn rhoi sylw i’ch potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.
Rydym yn deall bod llawer o ymgeiswyr yn parhau i fod ar ganol eu cymwysterau (e.e. Safon Uwch, BTEC, L3, Sylfaen) ac yn datblygu corff o waith, felly nid oes pwysau i bopeth fod wedi’i gwblhau nac yn gaboledig.
-
Mae’r asesu’n amrywio yn ôl y modwl a gall gynnwys portffolios, arddangosfeydd, aseiniadau ysgrifenedig, blogiau neu gyflwyniadau.
-
Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd pecyn celf a dylunio sylfaenol yn costio tua chan punt, ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod: cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.
Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio dewisol amrywio o ran cost o oddeutu deg punt i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i fwy na dau gant o bunnoedd am ymweliadau tramor – mae’r costau hyn am bethau fel cludiant, mynediad i leoliadau a llety, ac maen nhw fel arfer ar gyfraddau gostyngol i’n myfyrwyr.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Astudio Dramor
Gall myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i astudio am un semester yn UDA a Chanada.