Arddangosfa unigol o waith newydd gan yr artist arobryn Sue Williams
Mae arddangosfa newydd o waith â’r teitl Solo Symphony gan yr Athro Sue Williams i’w gweld yn TEN yng Nghaerdydd y mis yma, oriel gelf gyfoes sy’n arbenigo mewn artistiaid o Gymru ac sy’n byw yng Nghymru.

Mae’r Athro Williams yn Rheolwr Rhaglen Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys y corff diweddaraf o baentiadau cyfrwng cymysg ar gynfas. A hithau wedi’i hysbrydoli gan ei chomisiwn diweddar gan yr oriel i greu baner, mae ar ffurf cyfres o fenywod yn troelli o gwmpas polion, a hwythau wedi’u dal ym momentwm yr eiliad.
Hefyd mae cyfle i wylio fideos a wnaethpwyd mewn cydweithrediad â’r cyfansoddwr David Bird a’r artist-awdur Marilyn Allen. Mae’r elfennau gweledol yn deillio o baentiadau a lluniadau niferus yr Athro Williams, gan fflicio mewn stacato diddiwedd, gyda thameidiau o sgyrsiau rhwng yr Athro Williams ac Allen wrth iddynt drafod yn ddi-flewyn ar dafod eu profiadau o fod yn fenywod.
Meddai’r Athro Williams: “Yn yr arddangosfa hon, rwy’n archwilio’r ffrithiannau cyfoethog a chymhleth a grëir rhwng y cyfryngau cymdeithasol a bywyd go iawn. Mae’r gorlwytho o elfennau gweledol a’r synau’n pylu’r ffiniau, ac mae realiti a ffantasi’n cordeddu’n chwareus, gan archwilio camliwio a chamddehongli.
“Rwy’n chwilota i berthnasoedd rhywiol a serebrol, yr hyn sy’n gamweithredol, cyfathrebu rhwng y rhywiau a’n dibyniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae pob agwedd ar emosiwn dynol, llesiant, bywyd, marwolaeth, ego, a gwendid yn bodoli, gan wynebu craidd cyfoethog ymddygiad dynol a datgelu’r tywyllwch a’r hiwmor yn eu tro. Rwy’n denu’r gwyliwr i fyd o wleidyddiaeth rywiol ac emosiynol herfeiddiol, gan ddatod y cwestiynau a godir am lunio hunaniaeth yn y diwylliant cyfoes a’r effaith ar ein cyrff a’n meddyliau.”
Ganwyd yr Athro Williams yng Nghernyw ac mae wedi byw a dilyn gyrfa yng Nghymru dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Mae’n artist blaenllaw â chorff o waith cydnabyddedig a hanes o arddangosfeydd unigol a grŵp ar bum cyfandir.
Yn 2000 enillodd y Medal Aur am Gelf Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Sefydliad Rootstein Hopkins am baentio. Yn 2006 cyrhaeddodd y rhestr fer o wyth artist am wobr yr ail Artes Mundi a gynhelir bob dwy flynedd.
Mae Solo Symphony yn lansio ddydd Gwener 13 Medi ac mae i’w gweld tan 19 Hydref.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071