Arddangosfa’r Grŵp Gwneuthurwyr Cynaliadwy yng Ngholeg Celf Abertawe
Mae’r Grŵp Gwneuthurwyr Cynaliadwy o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn arddangos ei gwaith ar hyn o bryd yng nghyntedd Adeilad Alex, tan 2 Mai. Mae’r casgliad hwn o artistiaid, archifwyr, addysgwyr, ymchwilwyr, myfyrwyr, gwneuthurwyr a churadiaid wedi dod at ei gilydd er mwyn datblygu mentrau a digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar arferion tecstilau cynaliadwy.

Mae’r prosiect a ysbrydolwyd gan Chwyldro Ffasiwn 2024 wedi sbarduno trafodaethau sy’n archwilio materion holl bwysig ynghylch yr amgylchedd, yr unigolyn a’r economi drwy wneuthur araf a chydweithredol. Mae themâu allweddol yn cynnwys archwilio ‘pwy sydd wedi gwneud ein ffabrig’ a ‘pwy sydd wedi gwneud ein dillad’, gyda ffocws ar gyweirio ac ail-wneud tecstilau. Mae arddangosfa hon yn amlygu arferion arloesol, arbrofol sy’n dod i’r amlwg o’r gymuned ac yn ymateb i’r arddangosfa gyfredol ‘Come as You Really Are’ yn Oriel Gelf Glyn Vivian, gan ymchwilio i’n cysylltiad â’r gwrthrychau rydym yn eu casglu a’u cadw, gan gynnwys offer ein crefft.
Mae baneri tecstilau sy’n cael eu harddangos yn y ffenestri yn hyrwyddo Diwrnod Ailgylchu Byd-eang, Diwrnod Cenedlaethol y Merched a’r Wythnos Gynaliadwyedd gan arwain at Wythnos Chwyldro Ffasiwn ar ddiwedd mis Ebrill. Trwy arferion archifwyr celf, nod y grŵp yw mynd i’r afael â materion cyfoes megis caethwasiaeth modern, defnydd ymwybodol, dad-drefedigaethu, rhyw a hil.
Adfyfyriodd Kath Clewett, artist a chyfarwyddwr rhaglen celf a dylunio sylfaen yn PCYDDS fod:
“Traddodiadaeth ddiwylliannol yn ffurfio cyfrwng diddorol iawn ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth ac offer deinameg ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae’r traddodiadau hyn yn mynd y tu hwnt i ffiniau daearyddol a darparu cyfleoedd cyfoethog i fyfyrwyr archwilio syniadau yn ymwneud ag iaith, arferion crefyddol, cerdd, dawns, coginio ac agweddau eraill o fywyd bob dydd.”
Mae deall sut y caiff pethau eu gwneud neu eu crefftio wedi’u cysylltu’n ddwfn â gwerthoedd hanesyddol. Mae’r dull hwn yn caniatáu i fyfyrwyr werthfawrogi nid yn unig agweddau technegol creadigaeth, ond hefyd yr arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol sydd wedi’i ymgorffori yn yr arferion hyn. Drwy archwilio sut y caiff yr wybodaeth hon ei throsglwyddo drwy’r cenedlaethau, gall addysgwyr ymgysylltu myfyrwyr â dysgu gweithredol, gan eu hannog i adfyfyrio ar y rhyng-gysylltiadau rhwng hanes, diwylliant a chymuned. Mae’r dull hwn nid yn unig yn dyfnhau eu dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol, ond hefyd yn meithrin meddwl beirniadol, empathi a pharch at safbwyntiau byd-eang amrywiol.

Shellie Holden, artist, lecturer and Ph.D Candidate, suggests, you cannot be a fashion/textile practitioner of the future without thinking about ethical and sustainable implications, and endorses slow making methods, collective and activist making in her own and others’ work.
Liz Tucker, textile artist and MA student, said:
“Sustainable making is not just a practice. In this space, we are creating more than art; we are echoing grassroots movements like Greenham Common through collective making and mending. By examining the stories behind the fabrics and clothes we wear, we are working toward a future where ethical consumption and social justice are a priority.”
The Sustainable Makers Meet gathers every Tuesday from 5:00 - 8:00 p.m. during term time in the Makers Room, Alex Building. If you are interested in joining this community, please contact Shellie Holden at shellie.holden@uwtsd.ac.uk for more details.

Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476