Ҵý

Skip page header and navigation

Yn 80 oed, mae Dr Peter Herbert, Athro ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn profi nad yw oed yn rhwystr i athletiaeth elît.  Mae’r arbenigwr ffitrwydd, academydd, ac athletwr gydol oes byd-enwog yn paratoi i ymgymryd ag un o heriau ffitrwydd caletaf y byd:  HYROX – yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 31 Mai 2025.

Peter Herbert sitting on a rowing machine

Bydd Dr. Herbert yn cystadlu yn y categori 80+ oed, gan osod cynsail hynod ym myd HYROX. Yn ystod hyfforddiant, mae eisoes wedi perfformio’n well na rhai athletwyr yn y grŵp 70+ oed, gan arddangos nid yn unig ffitrwydd eithriadol ond hefyd bŵer penderfyniad a chysondeb.  Er ei fod wedi cael pen-glin newydd, mae wedi gwneud addasiadau bach yn unig yn ei drefn ymarfer, ac mae’i berfformiad yn parhau i herio disgwyliadau.  Hyd yn hyn, mae’n bosibl mai ef fydd y cystadleuydd hynaf i gwblhau’r digwyddiad llawn – mae Dr Herbert ar y trywydd iawn i godi’r bar hyd yn oed yn uwch. 

Image of Peter practicing on machine

Meddai: 

“Os gallaf gwblhau’r her hon, rwy’n gobeithio y bydd yn anfon neges glir, sef drwy ymrwymiad i ffordd iach o fyw ac aros yn weithgar yn gorfforol, mae’n hollol bosibl cael yr egni, y cryfder, a’r gwytnwch i fwynhau gweithgareddau y mae llawer yn credu eu bod allan o’u cyrraedd wedi hanner cant.  P’un ai syrffio, beicio mynydd, rhwyfo, nofio, neu unrhyw beth arall sy’n dod â phleser i chi, nid oes rhaid i oed fod yn rhwystr – mae bywiogrwydd yn rhywbeth y gallwn ddewis ei feithrin bob dydd.”

Mae HYROX yn gystadleuaeth ffitrwydd byd-eang sy’n cyfuno ymarferion cryfder gweithredol a rhedeg/cerdded dygnwch.  Mae’n agored i athletwyr elît a selogion ffitrwydd pob dydd, gan ei wneud yn un o’r digwyddiadau mwyaf cynhwysol a chyffrous yn y byd ffitrwydd.  Yn adnabyddus am ei awyrgylch trydanol a’i ymagwedd gynhwysol, mae HYROX yn herio cyfranogwyr i gwblhau 8 rhediad cilomedr o hyd, gyda gorsaf ymarfer gweithredol yn dilyn pob un.  Mae’r rhain yn cynnwys SkiErg, Gwthio Sled, Tynnu Sled, Byrpis Neidiau Llydan, Rhwyfo, Ffarmwr yn Cario, Rhagwthion Bagiau Tywod a Pheli Wal. 

image of Peter pulling a rope

Mae cyfraniadau Peter yn chwedlonol yn y gymuned ffitrwydd yng Nghymru ac yn ymestyn dros ddegawdau.  Ac yntau’n gyn hyfforddwr ffitrwydd ar gyfer carfan rygbi genedlaethol Cymru a’r Scarlets, mae Peter wedi hyfforddi athletwyr elît ar y lefel uchaf.  Mae hefyd yn dal record y byd fel rhwyfwr Concept2, ac yn fwyaf diweddar torrodd y record am rwyfo 100m ar ei ben-blwydd yn 80 oed drwy siafio 0.5 eiliad syfrdanol oddi arni. 

Tu hwnt i’w gyraeddiadau personol, mae Dr Herbert wedi gwneud cyfraniadau academaidd i wyddor chwaraeon.  Mae’i ymchwil, a gafodd gydnabyddiaeth ryngwladol, yn canolbwyntio ar hyfforddiant dwysedd uchel i bobl sy’n heneiddio, gan ymddangos yn The Times a chyfryngau cenedlaethol eraill.  

Gwahoddir y gymuned i ddangos eu cefnogaeth i Dr. Peter Herbert wrth iddo ymgymryd â’r her ryfeddol hon yng Nghaerdydd.  Mae’i ymrwymiad parhaus i iechyd, perfformiad, ac ymchwil gwyddonol yn gosod esiampl bwerus o beth sy’n bosibl ar unrhyw oed. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon