ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Mae Bwydydd wedi’u Prosesu’n Helaeth, neu UPFs fel y’u talfyrrir yn aml, yn gynhyrchion sydd wedi mynd trwy brosesau diwydiannol lluosog ac sydd fel arfer â chynhwysion nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n gyffredin wrth goginio gartref, megis sylweddau gwella blas, lliwyddion, emwlsyddion, a chadwolion. Er bod y term yn cael ei gydnabod yn ehangach, gall ei ystyr a’i oblygiadau fod yn aneglur. Yn y darn hwn, mae Dr Chris Cashin, Maethegydd Cofrestredig a Rheolwr Rhaglen ar gyfer MSc Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig esboniad clir ac ymarferol o beth yw UPFs, pam maen nhw’n bwysig, a’r hyn sydd i’w gofio wrth wneud dewisiadau bwyd bob dydd.

image of Dr Chris Cashin

Dros y blynyddoedd diwethaf mae bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth neu UPFs wedi cael sylw parhaus yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond ydy hi mor syml ag y byddai’n ymddangos?

Yn ôl yn 2019 cyhoeddwyd system o’r enw dosbarthiad NOVA gan ymchwilwyr yn Ne America ond does dim canllawiau wedi’u cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) yn parhau i edrych ar y dystiolaeth a sut mae’n berthnasol i fwyd yn y DU.

Beth yw’r System Ddosbarthu?

Mae NOVA yn trefnu bwydydd yn 4 grŵp sy’n seiliedig ar ychydig o brosesu neu brosesu helaeth. Y grwpiau yw:

Dosbarth 1 – grawn cyflawn, cig, pysgod, wyau, llaeth, iogwrt plaen, bwydydd wedi’u prosesu ychydig iawn

Dosbarth 2 – siwgr, olewau planhigion, brasterau anifeiliaid, cynhwysion coginio eraill wedi’u prosesu

Dosbarth 3 – caws, ham, cigoedd wedi’u prosesu, llysiau a ffrwythau wedi’u prosesu mewn heli, siwgr neu surop, gwin a chwrw, rhai mathau o fara

Dosbarth 4 – diodydd siwgr a melysyddion a diodydd pefriog, y rhan fwyaf o brydau parod, y rhan fwyaf o fisgedi, bara a grawnfwydydd, bwydydd llaeth â blas ac amnewidyddion llaeth, bwydydd cyflym, cynhyrchion tatws.

Un o’r beirniadaethau ar y dosbarthiad hwn yw nad yw’n ystyried proffil maethol y bwydydd dan sylw. Byrbryd neu bryd clasurol sy’n cael ei fwyta’n gyffredin yn y DU yw ffa coch ar dost. Mae’n uchel mewn ffibr a phrotein ond mae’n cael ei ddosbarthu yn fwyd wedi’i brosesu’n helaeth oherwydd bod y ddau fwyd yn Nosbarth 3 a 4. Mae hwn yn bryder arbennig gan fod angen i ni hefyd ystyried costau bwyd yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Mae bwydydd sylfaenol eraill megis caws hefyd yn perthyn i’r grwpiau hyn ond maen nhw’n ffynonellau pwysig o brotein a chalsiwm.

Fodd bynnag, gwyddom o amrywiaeth o astudiaethau arsylwadol sydd wedi edrych ar yr hyn y mae pobl yn ei fwyta, bod llawer o bobl yn bwyta hyd at 60% o’u deiet o’r bwydydd hyn sydd wedi’u prosesu’n helaeth. Mewn gwirionedd, fe wnes i hefyd ddarganfod yn fy ymchwil Doethuriaeth fod llawer o blant yn bwyta llawer o fwydydd wedi’u prosesu’n helaeth a oedd yn cynnwys cludfwydydd, creision, melysion a grawnfwydydd.

Mae’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) yn adolygu’r sefyllfa ar hyn o bryd gan ei fod yn amlwg yn achosi llawer o ddryswch ymhlith y cyhoedd. Tynnwyd sylw at hyn mewn sawl astudiaeth gan Sefydliad Maetheg Prydain (2023), lle canfuwyd nad oedd hyd at 70% o oedolion yn gwybod beth oedd bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth. Mae ein myfyrwyr BSc Maeth Iechyd a Ffordd o Fyw yn PCYDDS yn sicr wedi canfod bod llawer o ddryswch pan gynhalion nhw ddigwyddiad hyrwyddo iechyd yn rhan o aseiniad modwl llynedd ar gampws Caerfyrddin.

Newyddion pryderus am godau bwyd babanod.

Yn ddiweddar, edrychodd rhaglen BBC Panorama ar godau babanod poblogaidd y mae llawer o rieni yn eu defnyddio i fwydo eu babanod. Dadansoddodd y rhaglen 6 o’r prif frandiau – edrychodd ar gynnwys siwgr a fitaminau a mwynau a geir yn y codau hyn. Maen nhw’n ffordd gyfleus iawn o roi bwyd i’ch rhai bach pan fyddwch chi’n mynd trwy’r broses o gyflwyno bwydydd solet ond ni ddylai hwn fod yr unig fwyd a gynigir i fabanod. Canfu’r ymchwiliad hwn fod llawer ohonyn nhw yn uchel iawn mewn siwgr ac nad oedd rhai yn cynnwys y lefelau o fitaminau neu fwynau a honnwyd gan y cynhyrchwyr. 

Er nad oes neb yn awgrymu peidio byth â’u defnyddio gan y gallan nhw fod yn gyfleus, mae’n debyg ei fod e’n well ac yn fwy cost-effeithiol i gynhyrchu eich bwyd eich hun. Efallai y bydd rhieni newydd yn gweld hyn yn frawychus ac yn gwybod ble i gael cyngor a chymorth ymarferol. Mae First Steps Nutrition yn wefan ddefnyddiol iawn gan ei fod yn cynnig cyngor i rieni ac mae llawer o wybodaeth ymarferol arni (). 

Beth dylech chi ei wneud?

Y cyngor gorau yw ceisio osgoi bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth os gallwch chi ac efallai mynd yn ôl i goginio o’r dechrau gartref. Hefyd ceisiwch fwyta’n dymhorol yn enwedig o ran ffrwythau a llysiau. Mae’r cyngor i fwyta o leiaf 5 o lysiau neu ffrwythau y dydd yn bwysig. 

Ble gallwch chi gael gwybodaeth? 

Yn sicr, mae llawer ar wefan SACN a sawl llyfr a ysgrifennwyd gan Faethegwyr Cofrestredig a fydd yn chwalu llawer o chwedlau. Mae cael cyngor gan Faethegwyr Cofrestredig cymwys yn hanfodol - mae myfyrwyr wedi astudio hyn fel pwnc a gallwch chi ddod o hyd i Faethegwyr Cofrestredig ar y Gofrestr Cymdeithas Maeth. Mae’r BSc Maeth, Iechyd a Gweithgarwch Corfforol ar hyn o bryd yn cael ei ail-achredu gan y Gymdeithas Maeth. Mae gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar wefan Sefydliad Maetheg Prydain.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon