ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Mae SKIP-Cymru yn rhaglen a arweinir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gefnogi datblygiad corfforol y blynyddoedd cynnar trwy chwarae. Gyda sesiynau hyfforddi newydd gyda’r nos ac adnoddau hygyrch, mae SKIP-Cymru yn arfogi ymarferwyr ar draws lleoliadau gofal plant i fynd i’r afael ag oedi mewn sgiliau echddygol ac ymgorffori symudiad mewn gweithgareddau bob dydd, gan helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.

Yma mae Dr Anna Stevenson, yn trafod ei effaith gynyddol.

Wrth i ymwybyddiaeth dyfu ynghylch pwysigrwydd datblygiad corfforol yn ystod plentyndod cynnar, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o ehangu ei darpariaeth o hyfforddiant SKIP-Cymru ar draws Abertawe – gyda darpariaeth wedi’i theilwra i anghenion gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a lleoliadau Dechrau’n Deg. Gyda chenhadaeth i hyrwyddo datblygu sgiliau echddygol trwy chwarae, mae ein sesiynau hyfforddi gyda’r nos bellach yn agor drysau newydd i’r rhai y mae cyfleoedd dysgu yn ystod y dydd yn aml yn anhygyrch iddynt. 

a group of teacher on a training course throwing bean bags to each other

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi croesawu’r garfan ddiweddaraf o weithwyr proffesiynol ymroddedig i hyfforddiant SKIP-Cymru (ar Lefel 3 a Lefel 4) - o barhau i gefnogi athrawon a chynorthwywyr addysgu, gweithio gydag ymarferwyr o leoliadau Dechrau’n Deg, i gefnogi gwarchodwyr plant lleol hefyd bellach. Mae’n wych gweld cynifer o ymarferwyr sy’n angerddol am helpu plant i adeiladu sylfeini cryf ar gyfer symud, dysgu a llesiant. Daw’r unigolion hyn â mewnwelediad ac egni gwych a chânt eu huno gan nod cyffredin - rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn trwy chwarae difyr a phwrpasol. 

 Creu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant gyda’r nos 

Gan weithio gyda thîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Awdurdod Lleol Abertawe, mae’r hyfforddiant diweddaraf yn ymateb i’r galw lleol, a thrwy gyflwyno sesiynau Lefel 3 gyda’r nos gallwn ddarparu ar gyfer gwarchodwyr plant a staff meithrin sydd ag ymrwymiadau yn ystod y dydd. Mae’r niferoedd sy’n cyfranogi yn wych. Mae’r sesiynau hyn yn fwy na datblygiad proffesiynol yn unig, gan eu bod wedi creu cymuned a rhwydwaith lle mae gweithwyr proffesiynol o’r un anian yn dod at ei gilydd i archwilio strategaethau ymarferol, myfyrio ar eu dulliau, a sbarduno syniadau newydd. 

Gan ddefnyddio’r ap MiniMovers, mae gan ymarferwyr offeryn hawdd ei ddefnyddio i gefnogi sgiliau symud sylfaenol mewn chwarae a gweithgareddau bob dydd. Mae’r cyfranogwyr nid yn unig yn cyfoethogi eu gwybodaeth eu hunain ond hefyd yn dod yn eiriolwyr dros ddatblygiad echddygol sy’n seiliedig ar chwarae yn eu lleoliadau ac yn grymuso rhieni. Trwy roi strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth iddynt ac adnoddau dysgu ar-lein hygyrch, rydym yn galluogi ymarferwyr i gefnogi plant a’u teuluoedd yn hyderus. 

Mynd i’r afael ag oedi mewn datblygiad trwy chwarae 

Ledled Cymru, y DU ac yn fyd-eang, mae pryder cynyddol am y cynnydd mewn oedi yn natblygiad sgiliau echddygol plant. I lawer o blant, mae cyfleoedd ar gyfer chwarae corfforol wedi gostwng yn sylweddol, gyda chynnydd mewn amser sgrin, rhieni prysur sy’n gweithio, a mannau llai diogel i chwarae. Mae hyn wedi effeithio ar bopeth o gydbwysedd a chydsymud i sylw a hunanddisgyblaeth, ac mae goblygiadau iechyd pryderus i hyn. Trwy ein hyfforddiant, rydym wedi gallu mynd i’r afael â’r heriau hyn trwy helpu ymarferwyr blynyddoedd cynnar i ddeall sut i adnabod bylchau mewn datblygiad corfforol ac ymateb gyda gweithgareddau chwareus, cynhwysol sy’n cael effaith sylweddol. Rydym wedi sicrhau bod gan ymarferwyr y wybodaeth i ddadansoddi symudiad plant, nodi’r hyn sydd ar goll fel y gallant addasu gweithgareddau gyda’r dasg a’r offer cywir, fel bod plant yn cael ymdeimlad o lwyddiant ac yn gwneud cynnydd.  

Rhaid datblygu sgiliau echddygol hanfodol, fel dal, taflu, cydbwyso a neidio, trwy gyfleoedd chwareus a’r math cywir o gyfarwyddyd. Gan dynnu ar waith prosiect SKIP yn America, dangoswyd bod ein strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn gwella datblygiad corfforol plant yn sylweddol. Pan fydd y sgiliau sylfaenol hyn yn cael eu meistroli’n gynnar, maent yn gosod y sylfeini ar gyfer ymwneud yn barhaus â gweithgarwch corfforol wrth i blant dyfu. Yn y pen draw, mae cefnogi datblygu sgiliau echddygol yn ystod plentyndod cynnar yn allweddol i adeiladu’r sylfeini ar gyfer dyfodol iach, egnïol. 

Un o gryfderau ychwanegol y dull hwn yw nad yw’r strategaethau hyn wedi’u cyfyngu i neuaddau chwaraeon neu wersi Addysg Gorfforol - maent wedi’u hymgorffori mewn chwarae dyddiol, straeon cyffrous, a gweithgareddau symud syml sy’n defnyddio offer hygyrch sy’n briodol yn ddatblygiadol. Mae symud yn bwysig, a gellir ei ymgorffori ym mhob eiliad o ddiwrnod plentyn! 

a group of teachers on a training course throwing scarves at each other

Dathlu arbenigedd ac arweinyddiaeth yn y sector 

Mae ein tîm yn parhau i hyrwyddo’r gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws Abertawe a thu hwnt. Mae Nalda Wainwright, Cyfarwyddwr Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru, sy’n arwain hyfforddiant SKIP-Cymru, yn chwarae rhan allweddol wrth lunio’r sgwrs genedlaethol ynghylch chwarae a datblygu’r blynyddoedd cynnar. Yn ddiweddar, cyflwynodd Nalda brif anerchiad yn y Gwobrau Chwaraeon yn Abertawe. Roedd ei neges yn tynnu sylw at yr angen brys i flaenoriaethu llythrennedd corfforol yn ystod plentyndod cynnar. Mae Nalda yn aelod o banel beirniadu gwobrau Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, sy’n cydnabod arloesedd a rhagoriaeth ar draws y sector gofal plant, a bydd yn cyflwyno gweithdy yn Fforwm Llythrennedd Corfforol Sport Ireland yn ddiweddarach y mis hwn yn Nulyn, cydnabyddiaeth deilwng o’i harweinyddiaeth ac effaith gyfunol rhwydwaith SKIP-Cymru.  

Cysylltu arfer, ymchwil, a chymuned 

Yr hyn sy’n gwneud dull SKIP-Cymru yn unigryw yw ei sylfaen mewn arfer sy’n seiliedig ar ymchwil. Mae ein hyfforddiant wedi’i wreiddio mewn tystiolaeth academaidd ond wedi’i gynllunio i gael effaith yn y byd go iawn. Trwy ddysgu rhyngweithiol ar-lein, trafodaethau wyneb yn wyneb a gweithgareddau ymarferol, ein nod yw gwneud dysgu’n ymarferol, yn adfyfyriol ac yn rymusol. 

Ond efallai mai’r hyn sydd fwyaf ysbrydoledig yw’r ysbryd o gydweithio sy’n rhedeg trwy bob cwrs hyfforddi. Daw gwarchodwyr plant a staff meithrinfeydd o wahanol leoliadau, gyda phrofiadau gwahanol o weithio gydag amrywiaeth o blant, ond maent yn rhannu syniadau, yn dathlu cynnydd ei gilydd, ac yn gadael gydag egni o’r newydd ar gyfer eu rolau. Mae’r ymdeimlad hwn o bwrpas cyffredin yn allweddol ar gyfer adeiladu sector blynyddoedd cynnar mwy cysylltiedig sy’n canolbwyntio ar blant yn Abertawe. 

a group of teachers carrying a ball throwing excercise

Edrych ymlaen 

Wrth i ni barhau i dyfu ein darpariaeth hyfforddi ledled Cymru a thu hwnt, rydym yn gyffrous am y dyfodol. Rydym yn datblygu partneriaethau newydd, yn archwilio cyfleoedd hyfforddi ychwanegol ar gyfer ystod o ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant, ac yn mireinio ein dull, er enghraifft trwy gynnig sesiynau gyda’r nos i gefnogi’r rhai ar lawr gwlad yn well. Ein nod yw nid yn unig darparu hyfforddiant, ond adeiladu mudiad… un lle mae datblygiad corfforol yn cael ei gydnabod fel rhywbeth sy’n hanfodol i ddysgu, llesiant ac iechyd gydol oes! 

Mae’r brwdfrydedd yr ydym wedi’i weld gan warchodwyr plant a thimau Dechrau’n Deg lleol, yn ogystal â’r addysgwyr niferus yr ydym yn gweithio gyda nhw, yn dangos i ni fod y gwaith hwn yn amserol, yn berthnasol a bod angen mawr amdano. Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud chwarae’n flaenoriaeth unwaith eto ac yn rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghymru symud, dysgu a ffynnu. 

a group of students in a lecture room

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon