Cerdded yn Ein Hesgidiau: Grymuso Bywydau Drwy Gyd-Gynhyrchu ac Arloesi
Mae prosiect arloesol newydd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ailddiffinio sut mae cymorth seicolegol ac emosiynol yn cael ei gyflwyno i unigolion sy’n byw gyda cholli breichiau neu goesau. Lansiwyd prosiect Cerdded yn Ein Hesgidiau gan Canolfan Seicoleg a Chwnsela PCYDDS mewn cydweithrediad â’r , elusen flaenllaw yn y DU a ariannwyd gan . Mae’r elusen hon wedi bod yn cefnogi pobl sydd wedi colli breichiau neu goesau ers dros 40 o flynyddoedd gan gyfuno pŵer profiad byw ag arloesi digidol blaengar i gyd-greu adnoddau seico-gymdeithasol ystyrlon.

Wrth wraidd y prosiect, mae ymrwymiad i gyd-gynhyrchu, gan osod lleisiau’r rheiny sydd â phrofiad byw yng nghanol y dylunio a’r broses gwneud penderfyniadau. Daeth gweithdy cyd-gynhyrchu cyntaf y fenter a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Cymunedol Y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd â 10 o wirfoddolwyr at ei gilydd, pob un a’i brofiad ei hun o golli breichiau neu goesau. Ynghyd â’r tîm ymchwil, fe wnaethant archwilio’r mathau o wybodaeth, offer a chymorth a allai helpu eraill sy’n wynebu heriau tebyg.
Dywed un o arbenigwyr profiad byw y prosiect, Barrie Evans sydd wedi colli aelod o’i gorff, “bod yn rhan o hwn yn rhoi’r cyfle i brofi bod bywyd ar ôl colli braich neu goes a bod eich bywyd yn gallu parhau, er ei fod mewn ffordd ychydig yn wahanol. Os gallaf helpu un person i beidio â mynd drwy’r hyn es i drwyddo, bydd yn gwneud i mi deimlo’n hapus.”
Meddai Dr Ceri Phelps, Seicolegydd Iechyd, Arweinydd Prosiect a Phrif Ddarlithydd mewn Seicoleg Gymhwysol yn PCYDDS: “Mae’r prosiect yn ymwneud â gwrando, yn gwrando go iawn ar y bobl y mae eu bywydau wedi cael eu trawsnewid ar ôl colli breichiau neu goesau. Ei nod yw datblygu adnodd seico-addysgol i gefnogi unigolion sy’n byw gyda cholli breichiau neu goesau, gan fanteisio ar fewnwelediadau a phrofiadau’r rheiny yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Drwy weithio’n agos gyda’n prosiect partner, the Limbless Association a rhanddeiliaid allweddol, rydym yn gobeithio harneisio profiad y rheiny sydd â phrofiad byw er mwyn creu adnodd ystyrlon ac effeithiol sy’n mynd i’r afael â’r heriau seico-gymdeithasol a wynebir gan y gymuned hon.”
Mynegodd Prif Swyddog Gweithredol y Limbless Association, Deborah Brent frwdfrydedd yr elusen ar gyfer y fenter, gan nodi ei ffocws amserol. “Dyma astudiaeth hanfodol i nodi a gwella ansawdd ac argaeledd ymyriadau i wella canlyniadau seicolegol ar gyfer y rheiny sy’n byw gyda cholli breichiau neu goesau. Mae colli breichiau neu goesau, beth bynnag fo’r achos a’r lefel, a beth bynnag fo’r oedran yn brofiad trawmatig iawn sy’n newid eich bywyd. Mae’n bleser gennym fod yn gydweithredwr ar y prosiect. Fel elusen sy’n cael ei harwain gan ddefnyddwyr – ymddiriedolwyr, staff, aelodau a gwirfoddolwr o dros 40 o flynyddoedd, gallem gefnogi pobl gyda chyfoeth o gyfleoedd ymgynghori â rhanddeiliaid sydd â phrofiadau byw. “
Gweithdy Caerdydd yw’r cyntaf mewn cyfres o weithgareddau cyd-greu, gyda’r syniadau a gasglwyd bellach yn cael eu dadansoddi i lywio cyfnod nesaf y prosiect. Ochr yn ochr â hyn, mae timau o Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol PCYDS (ATiC) ac Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) yn archwilio’r ffyrdd gorau o gyflwyno a chyflenwi’r adnodd hwn drwy blatfformau digidol, hygyrch, hawdd eu defnyddio.
Meddai Dr Fatma Layas, Cymrawd Arloesi yn ATiC y Brifysgol (Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol) : Rydym yn ymrwymo i gyd-dylunio atebion digidol yn ATiC sydd wedi’u gwreiddio mewn anghenion defnyddwyr go iawn. Mae ein gwaith ar y prosiect yn dod â’n harbenigedd mewn ymchwil sy’n canolbwyntio ar bobl a phrofion defnyddioldeb ynghyd i sicrhau y gall unigolion sydd wedi colli breichiau neu goesau gael mynediad at adnoddau ystyrlon, greddfol a grymusol. Drwy wrando ar brofiadau byw ac archwilio ar ryngweithiau go iawn, ein nod yw llywio platfform sydd wir yn cefnogi defnyddwyr ar bob cam o’u taith.”
Yn y misoedd i ddod, bydd y prosiect yn cynyddu ei ymgysylltiad, gan gynnal grwpiau ffocws ar draws y DU i ddeall anghenion emosiynol a seicolegol pobl sy’n byw gyda cholli breichiau neu goesau yn well, yn enwedig ar adegau hollbwysig yn eu taith. Yn ogystal, bydd yr ymchwil yn asesu effaith ehangach yr adnodd, gan gynnwys sut y gallu helpu i addysgu’r cyhoedd a hyrwyddo empathi a dealltwriaeth.
Fel y nododd yr Athro Cysylltiol Paul Hutchings: “Gall effaith seicolegol colli breichiau neu goesau fod mor ddwys â’r agwedd corfforol ohoni, yn enwedig wrth ryngweithio ag eraill, boed yn deulu agos neu ddieithriaid; mae’r effaith ar hunaniaeth a’ch lle yn y byd yn holl bwysig. Drwy archwilio sut y gallem hysbysu’r rheiny nad ydynt wedi profi colli breichiau neu goesau am y materion a wynebir, gobeithio y gallem greu amgylchedd gwybodus â mwy o ddealltwriaeth a fydd yn helpu cefnogi’r rheiny sydd wedi colli breichiau neu goesau.”
Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â Dr Ceri Phelps yn ceri.phelps@uwtsd.ac.uk. I ddysgu rhagor am y Limbless Association, ewch i .
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071