ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Mae ein Canolfan Seicoleg a Chwnsela yn cyfuno poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr gyda thîm o ddarlithwyr profiadol, gan greu amgylchedd dysgu ysgogol yn y cyrsiau sy’n gwella mwynhad myfyrwyr.

Dewch ar daith gyffrous gyda’n rhaglenni gradd Seicoleg a Chwnsela, lle daw myfyrwyr o bob lliw a llun a darlithwyr gwybodus, ymchwilgar ynghyd er mwyn creu amgylchedd dysgu dynamig.  

Mae ein casgliad o raglenni wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain* a bydd yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb; p’un a’ch bod yn ystyried gyrfa ym maes seicoleg neu wasanaethau troseddol, neu â’ch bryd ar weithio ym maes gofal dynol neu iechyd meddwl. Mae pob un o’n rhaglenni yn gyfuniadau cynhwysfawr o wybodaeth seicolegol, cymwysiadau byd go iawn sy’n benodol i’r pwnc, a datblygiad sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy.    

Cewch fod yn rhan o amgylcheddau dysgu rhyngweithiol a chydweithredol, lle mae addysgu mewn grwpiau bychain yn cael blaenoriaeth dros ddarlithfeydd mawrion, a lle cewch fagu hyder a meithrin amrywiaeth o sgiliau amrywiol a fydd yn sbardun i’ch gyrfa neu’ch astudiaethau Ã´l-raddedig.

Pam astudio Seicoleg a Chwnsela yn PCYDDS?

01
Rhaglenni gradd wedi'u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain*.
02
Ymrwymiad i addysgu mewn grwpiau bychain mewn amgylcheddau rhyngweithiol a chydweithredol sy'n ein galluogi i weithio'n agos gyda chi drwy gydol eich gradd.
03
Cyfle i deilwra eich gradd i gyd-fynd â'r meysydd sydd o ddiddordeb i chi, gyda modiwlau dewisol yn eich blwyddyn olaf*
04
Guardian University League Table (2025), PCYDDS 2il yng Nghymru ac yn y 20 uchaf yn y DU Seicoleg
05
Times Higher Education, Gorffennaf (2024), PCYDDS 1af yng Nghymru a chydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr
06
Cyfle i barhau at gyrsiau ôl-raddedig mewn Seicoleg, Cwnsela a Chyfiawnder Troseddol.

Spotlights

Myfyrwyr yn nodi syniadau o gwmpas bwrdd

Cyfleusterau

Yn fyfyriwr Seicoleg a Chwnsela, bydd gennych fynediad i ystod eang o fannau dysgu ac addysgu. Mae gan ein cyfleusterau seicoleg penodedig ar ein campws yn Abertawe gasgliad o labordai wedi’u dylunio i wella eich profiad dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys labordai seicometreg, ystafelloedd cyfweld a labordai ymddygiadol a biometreg. Ac mae gan ein holl fyfyrwyr fynediad at amrywiaeth o fannau dysgu ac addysgu ar draws ein campysau. 

Straeon Myfyrwyr Seicoleg a Chwnsela