Chwalu Rhwystrau mewn Chwaraeon Moduro: Fy Nhaith a’m Cenhadaeth i Ysbrydoli Newid
Mae Abi Penny, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro yn PCYDDS, ar berwyl i chwalu rhwystrau i ferched mewn chwaraeon moduro. Gyda bron i ddau ddegawd o brofiad ymarferol ac addysgu, mae Abi’n angerddol am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr benywaidd mewn diwydiant sy’n esblygu’n gyflym.Yn yr erthygl hon dywed bod peirianneg i bawb, gyda chymorth ac uchelgais, a bod y dyfodol yn fwy disglair nag erioed.

“Rwy wedi bod yn angerddol am chwaraeon moduro ers y gallaf gofio, ac rwy’n teimlo’n hynod o ffodus ei fod hefyd wedi dod yn yrfa i mi. Dros y 18 mlynedd diwethaf, rwy wedi cael y pleser o ddarlithio mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), ac am daith rwy wedi bod arni.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r maes wedi esblygu’n ddramatig. Gwelwyd datblygiadau technolegol cyflym a oedd weithiau’n torri tir newydd, o welliannau sylweddol mewn technegau efelychu i ddatblygu trenau pŵer hybrid. Mae rôl peiriannydd wedi ehangu ac arallgyfeirio ac mae’n gyfnod hynod gyffrous i fod yn rhan o’r diwydiant hwn.
Fodd bynnag, un peth sydd heb newid digon yw nifer y menywod sy’n dilyn gyrfa mewn peirianneg chwaraeon moduro. Dros y blynyddoedd, rwy wedi gweld rhai menywod ifanc eithriadol o dalentog yn cofrestru ar ein cyrsiau, yn graddio ac yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd boddhaus. Ond tan yn ddiweddar mae’r niferoedd wedi bod yn fach, tua 5 y cant o’i gymharu â’r dynion. Am flynyddoedd lawer, fi oedd yr unig fenyw yn ein hadran chwaraeon moduro. Rwy’n hapus i ddweud bod dwy ohonom erbyn hyn, ond mae gan y diwydiant ehangach waith i’w wneud o hyd.
Mae’r anghydbwysedd parhaus hwn yn codi cwestiwn pwysig: pam mae’r stereoteip yn parhau, a beth allwn ni ei wneud i’w newid?
Mae’r hen ddelwedd o beirianwyr wedi’u gorchuddio ag olew ac yn gwisgo oferôls wedi dyddio i raddau helaeth. Heddiw, mae rolau peirianneg yn amrywiol – mae rhai yn dal i olygu gwaith ymarferol, sy’n apelio at lawer, ond mae eraill yn canolbwyntio ar feddalwedd, dadansoddi data, ac efelychu. Gallwch ffynnu yn y diwydiant hwn a dal i wisgo sodlau uchel a chael ewinedd gwych os mynnwch! Mae chwaraeon moduro yn fyd-eang, yn cynnig cyfleoedd i deithio, adeiladu gyrfaoedd rhyngwladol, a gweithio gyda thimau blaenllaw yn y byd. Mae’n faes cyffrous, deinamig gyda chyflog ardderchog, buddion mamolaeth hael, ac ymdeimlad gwirioneddol o gyfeillgarwch.
Nid oes rhaid i chi fod yn gwirioni ar geir er mwyn llwyddo, er bod gallu mewn mathemateg yn sicr yn helpu!
Roeddwn i’n lwcus. Cefais fy magu gyda thad a oedd yn dwlu ar ralio ac a oedd wrth ei fodd pan ddewisais chwaraeon moduro, a mam annibynnol, ffeministaidd a oedd yn fy atgoffa’n gyson bod “menywod yn gallu gwneud unrhyw beth.” Ychwanegwch at hynny rai athrawon mathemateg gwych yn Ysgol Gyfun Llangatwg ac Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr ac roedd gen i’r gefnogaeth oedd ei hangen arnaf i gael fy Lefel A a sicrhau lle yn y brifysgol.
Ers fy nyddiau ysgol, mae’r cwricwlwm wedi newid i bwysleisio pynciau STEM, gan helpu i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau cenedlaethol. Ond gallwn wneud rhagor i gefnogi merched yn gynnar, gan eu hannog i barhau â mathemateg a gwyddoniaeth a’u helpu i weld peirianneg fel gyrfa hygyrch a chyffrous. Mae mentrau gwych fel F1 mewn Ysgolion a Green Power yn ysbrydoli pobl ifanc i freuddwydio’n fawr. Yma yn PCYDDS, rydym yn falch o gefnogi Girls on Track, rhaglen Motorsport UK sy’n cyflwyno merched oedran ysgol i fyd amrywiol chwaraeon moduro, o heriau’r ‘pit’ i rolau yn y cyfryngau a chyflwyno.
Mae newid ar droed. Bellach mae menywod yn ffurfio 10 y cant o’r gweithlu mewn chwaraeon moduro ac am y tro cyntaf, rydym wedi cyrraedd yr un ganran ar ein rhaglenni chwaraeon moduro yn PCYDDS. I ddathlu, rydym yn cynnal cyfres o weithgareddau i adeiladu cymuned gryfach o beirianwyr benywaidd, gan geisio creu rhwydwaith cefnogol sy’n annog hyd yn oed rhagor o ferched i ystyried yr yrfa arbennig hon.
Roedd y llynedd yn nodi 25 mlynedd ers sefydlu ein Rhaglen Radd BEng mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro, y gyntaf o’i bath yn y byd. Diolch i weledigaeth y cyn-ddarlithydd Roger Dowden, a ddechreuodd y cwrs, ac arweiniad gan Gymdeithas y Diwydiant Chwaraeon Moduro, mae ein graddedigion wedi dod yn asedau gwerthfawr ym maes chwaraeon moduro a diwydiannau modurol perfformiad uchel ledled y byd. Mae llawer wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau mawreddog fel McLaren, Gordon Murray, Bentley, Ford, Arc, a Toyota Gazoo Racing.
Mae ein cysylltiadau agos â chynghorwyr y diwydiant yn sicrhau bod ein cwrs yn parhau i fod yn berthnasol, yn ymarferol ac yn academaidd drylwyr. Mae’r cyfuniad hwn o theori a chymhwyso hynny yn y byd go iawn yn gryfder unigryw gennym, ac yn gwneud i’n graddedigion sefyll allan.
Rwy’n ffyddiog ein bod ar y trywydd iawn. Trwy barhau i herio stereoteipiau, adeiladu cymunedau cefnogol, a dathlu llwyddiannau menywod mewn chwaraeon moduro, gallwn greu dyfodol lle nad yw rhywedd yn rhwystr i ddilyn gyrfa gyffrous, foddhaus ym maes peirianneg.
Ac i’r holl ferched ifanc allan yno sy’n breuddwydio’n fawr: credwch fi pan ddywedaf y gallwch chi wneud unrhyw beth.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071