
Peirianneg Chwaraeon Moduro (Llawn amser) (BEng Anrh)
Ydych chi wedi’ch cyfareddu gan geir rasio cyflym ac am weithio yn y diwydiant peirianneg chwaraeon moduro? Mae ein gradd peirianneg chwaraeon moduro yn cynnig sylfaen gadarn mewn peirianneg fecanyddol a’r technolegau chwaraeon moduro diweddaraf. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar ddatrys problemau peirianneg yn y byd go iawn ac yn eich helpu i ddod yn beiriannydd dylunio medrus.
Mae’r radd yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel, gan eich dysgu am eu gofynion reidio a thrin yn ogystal â pherfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer. Byddwch yn dysgu defnyddio offer o safon y diwydiant fel Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur, Caffael Data, a meddalwedd efelychu uwch. Mae’r offer hyn yn cynnwys Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA), sy’n hanfodol ar gyfer ymchwilio a pherffeithio dylunio cerbydau.
Byddwch yn archwilio meysydd arbenigol megis dylunio injan uwch, dylunio trên pŵer, dynameg cerbydau, aerodynameg, a rheolaeth drydanol. Bydd prosiectau annibynnol a grŵp yn eich helpu i ddyfnhau eich gwybodaeth yn y meysydd hyn. Mae’r prosiectau hyn yn cynnig profiad ymarferol gwerthfawr i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y sectorau modurol a chwaraeon moduro.
Mae ystyriaethau amgylcheddol yn rhan allweddol o’n modylau, gan sicrhau eich bod yn dysgu am ddylunio a thechnoleg gynaliadwy. Mae’r wybodaeth hon yn agor ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. Yn ogystal, gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n eich galluogi i gymhwyso’ch gwybodaeth ddosbarth mewn sefyllfaoedd o fyd go iawn Chwaraeon Moduro.
Bydd y BEng (Anrh) yn cwrdd, yn rhannol, â’r gofynion meincnodi academaidd enghreifftiol ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig a bydd angen i fyfyrwyr gwblhau fformat cymeradwy o ddysgu pellach yn unol â gofynion UK-SPEC.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn ein prifysgol, rydym yn credu mewn dulliau dysgu ymarferol. Mae ein gradd peirianneg chwaraeon moduro yn cymysgu theori â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i ragori yn y diwydiant peirianneg chwaraeon moduro. Byddwch yn gweithio ar brosiectau yn y byd go iawn, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i egwyddorion craidd peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer Dylunio drwy gymorth Cyfrifiadur a dadansoddi data. Bydd y sylfaen hon yn eich paratoi ar gyfer pynciau uwch ac yn rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch ar gyfer profiad ymarferol yn y maes.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel a’u gofynion reidio a thrin. Byddwch yn astudio dynameg cerbydau, perfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer, ac aerodynameg. Defnyddir offer efelychu uwch fel Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA) i ymchwilio a gwella dylunio cerbydau.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio i feysydd arbenigol fel dylunio trenau pŵer, a rheolaeth drydanol. Byddwch yn gweithio ar brosiectau annibynnol a grŵp, gan gymhwyso’ch gwybodaeth i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn ym myd Chwaraeon Moduro. Mae’r cwrs hefyd yn ymdrin ag agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg, gan eich paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
112 o bwyntiau tariff UCAS 
-
e.g. A-levels: BBC, BTEC: DMM, IB: 32
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;
-
Uwch Dystysgrif Genedlaethol (HNC). Mae hwn yn gwrs un flwyddyn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor amser llawn tair blynedd. &²Ô²ú²õ±è;
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau HNC yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen am y ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael swyddi ar draws y diwydiant chwaraeon moduro, o weithgynhyrchwyr cydrannau arbenigol i dimau Fformiwla 1 a WRC. Mae graddedigion yn gweithio nawr mewn rolau megis datblygu a chalibro peiriannau perfformiad uchel a dylunio aerodynameg.
Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir ar y cwrs i ddiwydiannau eraill ac mae llawer o fyfyrwyr wedi symud i’r diwydiant modurol ehangach yn ogystal â gweithio i weithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol (OEMs) fel Ford, Jaguar Land Rover a chyflenwyr haen un fel Mahle. Bob blwyddyn mae nifer o’n graddedigion wedi dewis parhau â’u hastudiaethau academaidd i lefel Meistr a PhD.