Cydnabod Rhagoriaeth Chwaraeon yng Ngwobrau Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant 2024/25
Dathlodd Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) flwyddyn o lwyddiant chwaraeon eithriadol yn ei Noson Wobrwyo Flynyddol 2024/25, a gynhaliwyd yn Ystafell Cothi yng Nghanolfan Gynadledda Halliwell ar gampws Caerfyrddin. Roedd y digwyddiad yn nodi trydydd tymor y Brifysgol yn ôl yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ac yn gyfle i roi teyrnged i gyflawniadau rhyfeddol athletwyr myfyrwyr, timau a staff cymorth sydd wedi gwneud hon yn flwyddyn amlwg i chwaraeon PCYDDS.

Roedd y noson yn ddathliad o ddoniau, ymroddiad ac ysbryd chwaraeon, gan ddod â myfyrwyr, hyfforddwyr a staff ynghyd i fyfyrio ar flwyddyn nodedig i raglen chwaraeon y Brifysgol.
Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant:
“Ers lansio’r Academi Chwaraeon ar ddechrau blwyddyn academaidd 2022/23, a thrwy ein cydweithrediad agos ag Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant, rydym wedi gweld twf anhygoel. Nawr yn ein trydydd tymor o gystadlaethau BUCS, mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld myfyrwyr yn ffynnu ar draws ystod o ddigwyddiadau. Roedd ein trydedd noson wobrwyo flynyddol yn achlysur gwych i ddod at ein gilydd, dathlu llwyddiant, a nodi blwyddyn ryfeddol arall.”

Roedd enillwyr y noson yn cynnwys:
- Pêl-droed Dynion – Chwaraewr y Flwyddyn: Luke McDonald

- Pêl-rwyd Menywod – Chwaraewr y Flwyddyn: Cassy Rumbelow

- Rygbi Dynion – Chwaraewr y Flwyddyn: Dafydd Jones

- Chwaraeon Unigol – Person Chwaraeon y Flwyddyn: Jordan Discombe

- Staff Cymorth – Myfyriwr y Flwyddyn: James Dillon

- Academi Chwaraeon – Myfyriwr y Flwyddyn: Noah Potter

Yn ogystal ag anrhydeddau unigol, anrhydeddwyd nifer o dimau PCYDDS am berfformiadau rhagorol:
- Coronwyd y Tîm Pêl-droed Dynion yn Bencampwyr Tlws Cynhadledd y Gorllewin BUCS.
- Cwblhaodd y Tîm Pêl-rwyd Menywod dymor heb eu curo i hawlio Teitl Cynghrair Haen 6B y Gorllewin BUCS.
- Cyflawnodd y Tîm Rygbi Dynion dymor hanesyddol heb eu trechu, gan sicrhau Teitl Cynghrair Haen 4 y Gorllewin BUCS a Thlws Cynhadledd y Gorllewin BUCS.

Meddai Lee Tregoning:
“Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr, staff, ac yn enwedig enillwyr ein gwobrau. Hoffwn i hefyd roi diolch i bawb a helpodd i wneud y noson hon - a’r flwyddyn chwaraeon hon - yn llwyddiant mor gofiadwy.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476