Cyn-fyfyriwr o PCYDDS yn codi i Rôl Is-lywydd gyda Sodexo Live, Arweinydd Byd-eang yn y maes Lletygarwch
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o ddathlu llwyddiant un o’i chyn-fyfyrwyr Rheolaeth Hamdden nodedig, Craig Jarrett, a benodwyd yn ddiweddar yn Is-lywydd Gweithrediadau yn Sodexo Live, i oruchwylio portffolio lolfa maes awyr American Express.

Dechreuodd taith broffesiynol Craig gyda’i yrfa gynnar yn Rheolwr Cynorthwyol yng Nghanolfan Hamdden Abertawe (LC erbyn hyn). Yn sgil ei awydd i fynd ymhellach yn ei yrfa, daeth i PCYDDS, lle manteisiodd ar y cyfle i fynd â’i addysg ymhellach.
“Gwelodd arweinwyr Canolfan Hamdden Abertawe f’uchelgais, a phan gododd cyfle i astudio yn PCYDDS, penderfynais ei mentro hi. Roeddwn i’n gwybod am enw da’r brifysgol ac roeddwn yn un o dri’n unig a ddewiswyd o Ddinas a Sir Abertawe ar gyfer y cwrs,” meddai Craig.
Gan ddewis cwrs a oedd yn cyd-fynd yn hwylus â’i yrfa yn y sector hamdden a thwristiaeth, ystyriai Craig ei astudiaethau’n fodd o bontio’r bwlch yn sgil mynd i weithio’n syth ar ôl yr ysgol uwchradd.
“Roeddwn i eisiau dilysu fy ngwaith caled a phrofi fy mod i’n gallu cydbwyso gwaith â dysgu academaidd. Darparai PCYDDS yr amgylchedd i wneud hynny’n union,” meddai.
Astudiodd yn rhan-amser dros dair blynedd, ac yn y cyfnod hwnnw enillodd Craig wybodaeth ddamcaniaethol werthfawr, gan gael budd hefyd o’r profiad ymarferol a’r ddealltwriaeth o fywyd go iawn a rannwyd gan ddarlithwyr.
“Doedd y darlithwyr ddim yn siarad wrthym ni’n unig, roedden nhw’n siarad â ni, gan feithrin trafodaethau a oedd yn cyfoethogi ein dysgu. Roedd yr awyrgylch cydweithredol hwn yn un o uchafbwyntiau fy mhrofiad yn PCYDDS.”
Mae Craig wedi bod mewn nifer o rolau arwain arbenigol, yn cynnwys Uwch Reolwr, ac yn ddiweddarach Cyfarwyddwr Gwerthiannau CMI a Gweithrediadau Siarter Byd-eang gyda Royal Caribbean International.
Meddai: “Mae fy mhrofiadau dros y 15 mlynedd ddiwethaf, yn enwedig gyda Royal Caribbean, wedi addysgu cymaint i mi am arweinyddiaeth, gwaith tîm, a phrofiad cwsmeriaid. Mae pob swydd a gefais, o Reolwr Cynorthwyol yn y Ganolfan Hamdden i Reolwr Gwledda mewn digwyddiadau byd-eang, wedi fy siapio i fod yr arweinydd yr wyf heddiw.”
Dywedodd Craig fod rheoli amser a dyfalbarhad wedi helpu i oresgyn heriau cydbwyso gwaith amser llawn ag astudio rhan-amser, gan ychwanegu bod cwrs PCYDDS wedi rhoi’r sgiliau ymarferol iddo ar gyfer ei yrfa ac wedi gosod y sylfaen am dwf proffesiynol yn y dyfodol.
“Rwy’n dal i gymhwyso’r egwyddorion a ddysgais yn PCYDDDS yn fy mhenderfyniadau rheoli heddiw. Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol,” ychwanegodd.
Ac yntau’n Is-lywydd Gweithrediadau i un o gwmnïau lletygarwch mwyaf y byd, mae Craig yn canolbwyntio ar barhau i feistroli’i rôl gan ddysgu gan ei gydweithwyr a’i arweinwyr. Ei fwriad yw aros ar lwybr arweinyddiaeth a thwf o fewn Sodexo.
“Mae Sodexo Live yn gwmni eiconig, ac rwy’n fy ngweld fy hun yn cael gyrfa hir a boddhaus yma. Mae fy nod yn parhau fel arfer, sef parhau i dyfu, dysgu, a darparu profiadau eithriadol ar gyfer gwesteion.”
Dywedodd Craig ei fod yn argymell cwrs PCYDDS yn fawr i bobl eraill sy’n dymuno adeiladu gyrfa ym maes teithio, hamdden, neu dwristiaeth.
“Bydd unrhyw un sy’n ceisio gweithio yn y sector hwn yn cael llawer o fudd o’r rhaglen. Mae’r cwricwlwm yn esblygu’n barhaus er mwyn cyd-fynd â thueddiadau yn y diwydiant, ac mae’r darlithwyr heb eu hail.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071