Cysylltiad rhwng canser y bledren ar ôl amlygiad i ordnans ffrwydrol ymhlith swyddogion gwaredu bomiau sy’n gyn-filwyr y Fyddin
Gall fod gan gyn-filwyr gwaredu bomiau’r Fyddin risg sylweddol uwch o ddatblygu canser y bledren o gymharu â’r cyhoedd yn gyffredinol, yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Mae llythyr ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn meddygol BJU International a Chynhadledd Flynyddol Cymdeithas Ewropeaidd Wroleg ym Madrid yn awgrymu y gallai’r achosion o ganser y bledren ymhlith swyddogion gwaredu bomiau sy’n gyn-filwyr Byddin Prydain o dan 70 fod pum gwaith yn uwch nag yr achosion ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol. Mae hyn yn codi pryderon brys am amlygiad galwedigaethol i sylweddau peryglus.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan dîm o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Prifysgol Birmingham, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Glasgow ac Ymddiriedaeth y GIG De Cymru. Mae’r astudiaeth wedi nodi cyfradd uchel o ganser y bledren ymhlith carfan o gyn-weithredwyr gwaredu bomiau yn dilyn arolwg o tua 30% (688 allan o 2300) o gyn-filwyr a oedd wedi gwasanaethu yn yr adran Gwaredu Ordnans Ffrwydrol ers 1970.
Meddai Dr Gareth Collett CBE, Cyfarwyddwr Gweithredol Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA) PCYDDS ac awdur arweiniol yr astudiaeth:
“Nid yw’r ymchwil yn ymwneud â bwrw bai; mae’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth ymhlith cyn-filwyr ac ymarferwyr cyffredinol, gan ddiogelu’r sawl sy’n gwasanaethu o hyd, a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu. Mae ein darganfyddiadau’n awgrymu bod cysylltiad arwyddocaol rhwng amlygiad i rai ffrwydron y mae technegwyr bwledi yn dod ar eu traws yn ystod eu gyrfaoedd a chanser y bledren. O ganlyniad, gallai astudiaeth ddiffiniol yn seiliedig ar y darganfyddiadau hyn arwain at newid gwirioneddol sy’n achub bywydau.”
Meddai’r Athro Rib Bryan, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser y Bledren ym Mhrifysgol Birmingham a chydawdur yr astudiaeth:
“Er gwaethaf maint cymharol fach yr astudiaeth gychwynnol hon, mae’r darganfyddiadau’n darparu arwydd cryf bod risg gynyddol o ganser y bledren ymhlith aelodau’r proffesiwn technegydd bwledi sy’n cael eu hamlygu i rai ffrwydron yn rheolaidd. Mae’r risg yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau ymchwiliad pellach brys ac astudiaeth bendant sy’n gweithio gyda chymaint o gyn-filwyr â phosibl.
“Mae canser y bledren yn ganser cyffredin, ond efallai na fydd pobl yn ymwybodol bod arwyddion eraill o’r clefyd, ar wahân i waed yn yr wrin, megis newid mewn troethi a llid y bledren sy’n dynwared symptomau haint wrin neu cystitis. Nid yw canser y bledren ar y mwyafrif o gleifion sydd â’r symptomau hyn, ond dylid cychwyn archwiliadau, yn enwedig mewn poblogaethau sydd mewn risg o’r clefyd hwn. Gyda’r astudiaeth hon, mae’r arwyddion yn pwyntio at grŵp o unigolion arwrol sydd wedi gwasanaethu ein gwlad, o fod mewn mwy o risg o ddatblygu canser y bledren. Byddwn yn argymell felly fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fwy ymwybodol o’r risg bosibl ymhlith cyn-filwyr.
Ysbrydolwyd yr ymchwil gan brofiad personol Dr Collett, Brigadydd Byddin Prydain a chyn-bennaeth gwaredu bomiau’r DU sydd bellach wedi ymddeol. Ar ôl cael diagnosis o ganser y bledren ym mis Tachwedd 2023, rhannodd Gareth ei ddiagnosis mewn grŵp preifat ar gyfer technolegwyr ffrwydron rhyfel presennol a’r sawl sydd wedi’u hymddeol ar y cyfryngau cymdeithasol .
O fewn diwrnod, roedd aelodau eraill o’r grŵp hwn wedi rhoi gwybod am ddiagnosis tebyg, gan arwain Dr Collett a thîm o wrolegwyr, epidemiolegwyr a gwyddonwyr i archwilio i weld a oes achosion uwch ymhlith y boblogaeth honno gan fod yr achosion oes o ganser y bledren yn y boblogaeth yn gyffredinol yn is na 1%.
Meddai Dr Gareth Collett:
“Cefais ddiagnosis o ganser y bledren yn 56 oed, bues i’n swyddog technegol ffrwydron rhyfel am 33 o flynyddoedd, gan wasanaethu yng Ngogledd Iwerddon, Y Balcanau, Iraq, Afghanistan, yn ogystal â gweithrediadau llai adnabyddus yn fyd eang. Roeddwn yn ffodus i oroesi pan nad oedd llawer o’m ffrindiau a’m cydweithwyr wedi gwneud hynny. Fodd bynnag, mae gennyf greithiau seicolegol ac nid oeddwn yn disgwyl delio â chanlyniad diangen arall o wasanaeth milwrol. Roedd y diagnosis yn rhywfaint o sioc ac roedd y driniaeth yn eithaf ymosodol.
“Mae’n effeithio ar eich bywyd a’r sawl sydd o’ch cwmpas. Mae imiwnotherapi ac echdoriad trawswrethrol o diwmorau yn cael effaith gorfforol a seicolegol. Gall eich atal rhag cael perthnasoedd agos â’ch partner, ymyrryd â’ch patrymau cysgu, a newid y ffordd yr ydych yn pasio dŵr – yn yr achosion mwyaf difrifol, gall gynnwys tynnu’ch pledren, eich prostad, eich nodau lymff a’ch wrethra.
“Y rhagdybiaeth gychwynnol gan weithwyr meddygol proffesiynol oedd ei fod yn glefyd ysmygwyr trwm. Nid oedd hwn yn wir yn fy achos i, a arweiniodd at y posibiliad y gallai fod yn ymwneud â’m swydd o ystyried hanes fy ngwasanaeth ac ymweliadau cyson i’r Swyddog Meddygol Catrodol gyda phyliau o bledren gorweithredol am dros ddegawd. Roedd tystiolaeth anecdotaidd eisoes wedi’i chasglu gan y proffesiwn technegol ffrwydron rhyfel, gan godi pryderon am y cysylltiad rhwng ffrwydron a chanserau wrolegol. Food bynnag, ychydig iawn o dystiolaeth epidemiolegol oedd ar gael i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ystyried bod hyn yn fater o bryder. Ac felly, penderfynais gasglu tystiolaeth ffeithiol a rhagarweiniol, gan siarad ag elusennau’r gwasanaeth amddiffyn, athrawon wroleg profiadol a gweithwyr proffesiynol masnach er mwyn llunio arolwg epidemiolegol cychwynnol. Arweiniodd yr arolwg hwn at y cymarebau digwyddiad safonol a’r cyfyngau hyder a adroddwyd yn y papur, a’r angen am weithredu pellach.
“Crynhoir y proffesiwn i’r dim gan y dywediad ‘daith unig,’ yr hyn rydych yn ei wneud ar eich pen eich hun wrth ddelio â ffrwydron anrhagweladwy. Awgryma’r ymchwil y gallai’r sawl sydd wedi gweithio gyda ffrwydron, neu sydd wedi dinistrio ffrwydron rhyfel yn ystod eu gyrfaoedd gael un daith unig arall i’w teithio amser maith ar ôl i’w cyfnod yn y gwasanaeth ddod i ben. Gadewch i ni sicrhau fod gennym y mecanweithiau cymorth ar waith i helpu’r sawl sydd wedi rhoi cymaint i’w gwlad”.
Roedd ymchwil bellach wedi cysylltu amlygiad i waredu ffrwydron rhyfel yn cynnwys ffrwydron nitro megis TNT, a’u cynhyrchion tanio. Mae astudiaethau wedi hir sefydlu bod amlygiad galwedigaethol i gemegau penodol yn cynyddu’r risg o ganser y bledren, yn enwedig ymhlith galwedigaethau megis gweithwyr y diwydiannau teiars a chemegau ond mae’r tîm yn credu mai hon yw’r astudiaeth gyntaf sy’n cysylltu’r clefyd â gwaredu ffrwydron rhyfel.
Goblygiadau ar gyfer Iechyd Cyn-filwyr a Newidiadau i Bolisi
Ers i’r ymchwil gychwyn, mae dau gyn-filwr arall wedi cael diagnosis o ganser y bledren, gan amlygu’r angen dybryd am well sgrinio a mesurau ataliol ar gyfer y sawl sy’n wynebu’r risg o ganser y bledren. Mae elusennau’r gwasanaeth eisoes wedi gweithredu canllawiau hunangymorth ar ganfod materion yn gynnar, gan achub bywydau o bosibl drwy alluogi diagnosis cynharach.
Mae awduron yr astudiaeth yn galw am:
- Ymchwil bellach ar raddfa fawr i effeithiau iechyd hirdymor o ganlyniad i amlygiad i ffrwydron rhyfel.
- Newid mewn rheoliadau diogelwch milwrol ynghylch gwaredu ffrwydron a’u trin.
- Rhaglenni sgrinio rheolaidd ar gyfer unigolion sy’n wynebu’r risg hon, gan ddefnyddio profion dadansoddi dŵr i ganfod canser y bledren yn gynnar.
- Codi ymwybyddiaeth ymhlith meddygon teulu wrth ddelio â chyn-filwyr sydd wedi cael eu hamlygi i ffrwydron rhyfel yn ystod eu gyrfaoedd, yn enwedig os maent o dan 70 oed ac wedi gweld gwaed yn eu troeth.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071