Ҵý

Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr sy’n astudio Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant drwy gynllun interniaethau â thâl y Brifysgol. Mae’r cynllun yn caniatáu i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol a dod â safbwyntiau ffres ac arloesol i’r busnesau y maen nhw’n gweithio gyda nhw. 

A happy smiling student sitting in front of a book shelf filled with books.

The Cusp

Cafodd tri myfyriwr leoliad gyda’r asiantaeth farchnata a chyfathrebu arobryn, The Cusp, dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma nhw’n rhannu eu profiadau yma:

Jiayi Zheng, myfyriwr Dylunio Graffig :

 “Fe wnaeth y profiad interniaeth wella fy sgiliau dylunio graffig i a chryfhau fy nealltwriaeth i o frandio. Roedd gweithio gyda chydberchennog The Cusp, Louise, yn help i mi fynegi fy syniadau dylunio yn well.

“Gofynnon nhw i mi am fy nghryfderau a diddordebau ar y dechrau’n deg, gan sicrhau fy mod i’n gweithio mewn maes roeddwn i’n teimlo’n angerddol amdano. Fe wnaethon nhw fy annog i archwilio syniadau newydd heb gyfyngu ar fy ngalluoedd dylunio, a oedd yn wirioneddol rymusol. Roedd gweld fy nyluniadau’n cael eu cyhoeddi a’u defnyddio mewn bywyd go iawn yn hwb mawr i’m hyder. 

“Mae interniaethau yn gyfle anhygoel i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i brosiectau’r byd go iawn, gan ddatgelu’r meysydd lle mae angen i ni dyfu ein sgiliau. Mae cael y profiad ymarferol cyntaf hwnnw’n aml yn heriol, ond mae interniaeth yn rhoi dechrau mor werthfawr. Mae nid yn unig yn eich arfogi chi â gwybodaeth ymarferol ond mae hefyd yn rhoi hwb i’ch hyder ac yn eich paratoi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. 

“Roedd fy nghyfnod yn PCYDDS yn bleserus dros ben. Roeddwn i wrth fy modd â’r amgylchedd addysgu cefnogol a ches i brofiad gwych yn rhyngweithio ag athrawon a chyd-ddisgyblion.”

Svitlana Ulianych, myfyriwr Dylunio Graffig:

“Cydweithredais ag asiantaeth bartner The Cusp, Boxharry, ar brosiectau datblygu gwefannau a dylunio UX. Cynorthwyais i hefyd gyda chefnogi cynnig ar gyfer ysgol annibynnol a chyfrannu at ddatblygu cynnyrch marchnad recriwtio.

Roedd yn help i mi hogi fy sgiliau UX a datblygu gwefannau, a ches i gymaint o hyder mewn amgylchedd gwaith go iawn. Ces i gyfle hefyd i wella fy sgiliau cyfweld - bonws annisgwyl sydd wedi bod yn hynod werthfawr. Bellach rwy’n teimlo’n barotach a mwy hyderus o lawer ar gyfer rhyngweithio proffesiynol yn y dyfodol!

“Rhoddwyd hwb i’m hyder, ac roeddwn i’n teimlo’n hynod egnïol oherwydd brwdfrydedd Louise a’i hangerdd dros ddylunio. Mae’n ysbrydoledig gweld rhywun sy’n caru’r hyn maen nhw’n ei wneud, ac mae’r cymhelliant hwnnw’n heintus.

“Pan fyddwch chi’n dechrau arni, mae’n hawdd teimlo nad oes gennych chi ddigon o brofiad a’ch amau eich hun yn gyson. Fe wnaeth yr interniaeth hon fy helpu i dorri trwy fy syndrom twyllwr. Rwy’n parhau i weithio gyda Boxharry ar sail lawrydd. 

“Mae interniaethau yn gyfle mor wych am eu bod nhw’n torri’r cylch saethig hwnnw lle mae cyflogwyr am gael ymgeiswyr profiadol, ond nid oes gan fyfyrwyr y profiad hwnnw eto. Rydych chi’n cael adeiladu cysylltiadau, magu hyder, a defnyddio eich sgiliau mewn ffyrdd ystyrlon, sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr wrth ddechrau eich gyrfa!

“Rwy wedi cael amser gwych yn Y Drindod Dewi Sant - mae wedi bod yn lle i dyfu, dysgu, ac ysbrydoli pobl. Bob dydd dyma ddod â rhywbeth newydd, ac rwy’n ddiolchgar am y profiadau a’r cyfeillgarwch rwy wedi dod ar eu traws”.

Ers hynny, mae Kisha Dibba, myfyriwr arall a fu’n gweithio gyda The Cusp, wedi sicrhau swydd gyda Wernick, gan briodoli’n uniongyrchol ei chynnydd gyrfa i’w phrofiad interniaeth.

A happy, smiling student wearing a navy top, standing in front of a building.

Y Gweilch

Mae Lewis Hill wedi bod yn gweithio yn interniad i dîm rygbi’r Gweilch: 

“Fe fues i’n goruchwylio Ymgyrch Hysbyseb Gwig Hyfforddi a Theithio’r Gweilch 2024/2025. Roedd gen i reolaeth greadigol lawn a rhyddid dros y prosiect hwn gyda llawer o help ac adborth creadigol gan y tîm a wnaeth i’r prosiect a’r ymgyrch gyfan wireddu eu potensial mwyaf, ac rwy’n falch iawn o hyn.

“Gweithiais ar eu Big Screen Animations sy’n cael ei chwarae o flaen cynulleidfa fyw yn Stadiwm 20,000 sedd Swansea.com. Roedd yn anhygoel gweld fy ngwaith celf yn cael ei arddangos yng ngêm y Gweilch o flaen y dorf fawr.

“Gweithiais i hefyd ar gyfres ddogfen hynod lwyddiannus o’r enw “Behind the Mask”. Yn y rhaglen ddogfen ces i’r dasg o greu cyfres o graffeg symudol o sut mae’r Gweilch yn amrywio i fyny ac i lawr y tabl yn ystod tymor URC. Cronnodd y rhaglenni dogfen hyd at 20,000 o wyliadau ar YouTube yn eu tro.

“Rwy wedi dysgu am bwysau gweithio mewn diwydiant proffil uchel, yr heriau o ddod i mewn bob dydd gyda syniadau ffres, newydd ac unigryw a llawer o sgiliau newydd a fydd yn help i mi  gyflawni’r holl nodau yr wyf am eu cyflawni drwy gydol fy ngyrfa.

“Rydw i wedi dysgu mynd ati o ddifri i dorchi llewys a meddwl am bopeth rydw i wedi’i ddysgu yn ystod fy amser yn y brifysgol a rhoi o’m gorau i yn fy ngwaith. Mae interniaethau yn ffordd wych o roi un droed yn y drws a phrofi sut beth fydd bywyd ar ôl i ni raddio. 

“Gall graddio fod yn garreg filltir frawychus iawn i lawer o fyfyrwyr fel fi oherwydd natur anhysbys y byd y tu allan i’r brifysgol. Ond mae’r interniaeth hon wedi bod yn agoriad llygad i mi mewn sawl ffordd gadarnhaol ac erbyn hyn rydw i mor gyffrous i raddio a dechrau fy ngyrfa yn Ddylunydd Graffig a’r cyfan trwy ddiolch i fy interniaeth. Rwy’n teimlo bod fy sgiliau wedi tyfu’n aruthrol a hynny dim ond trwy gael bedydd tân. Mae’r profiad y mae wedi’i roi i mi yn fy rhoi i ar y blaen i fyfyrwyr eraill o ran y gystadleuaeth wrth chwilio am swydd ar ôl i mi raddio.”

Waters Creative

Ymunodd y myfyriwr Erin Harvey â Waters Creative Abertawe yn intern. Yn dilyn llwyddiant yr interniaeth, bellach mae hi wedi cael swydd yno. 

“Trwy gydol yr interniaeth, ces i gip amhrisiadwy ar waith y diwydiant. Rwy’n teimlo’n ffodus fy mod i wedi profi amrywiaeth mor eang o waith dylunio, a oedd yn help i’m sgiliau dylunio i a’m datblygiad proffesiynol i dros yr interniaeth tri mis. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle ac ni allwn ni fod wedi gofyn am well cydweithwyr. Rwy’n gallu gweld twf sylweddol yn fy set sgiliau.

“Rhoddodd y profiad gip i mi ar weithle proffesiynol a hon oedd fy rôl amser llawn gyntaf. Mae wir wedi cynyddu fy hyder yn fy ngwaith.

“Rwy’n credu bod interniaeth yn ffordd ardderchog o ennill profiad ac o bosibl sicrhau swydd yn dilyn y brifysgol. I ddechrau, roeddwn i’n bryderus am ddechrau swydd yn uniongyrchol ar ôl y brifysgol, gan ofni y byddai disgwyl i mi gael yr atebion i gyd. Fodd bynnag, roedd fy mhrofiad yn intern yn hollol wahanol. Roeddwn i’n teimlo’n fwy cyfforddus gan wybod ei bod hi’n dderbyniol peidio â chael yr holl wybodaeth a gofyn am gymorth gyda thasgau dylunio pan oedd ei angen. 

“Mae’r tîm yn Waters wedi bod yn hynod gefnogol, gan fy arwain i wrth i mi adeiladu ar y sgiliau a ddatblygais i yn ystod fy astudiaethau prifysgol. Byddwn i’n argymell mynd ar drywydd interniaeth os bydd y cyfle’n codi. Mae faint o wybodaeth a gafwyd mewn amser byr yn amhrisiadwy, heb sôn am y cysylltiadau rydych chi’n eu gwneud ar hyd y ffordd.

“Roedd fy amser yn PCYDDS yn brofiad cofiadwy lle cwrddais i â llwyth o bobl anhygoel a datblygu fy sgiliau. Fe wnaeth PCYDDS fy helpu i fagu rhagor o hyder yn fy ngwaith. Roedd yn brofiad gwych!”

Rachael Waters, Perchennog Waters Creative: 

“I fusnesau bach a chanolig yn y sector creadigol, mae cynlluniau interniaeth yn cynnig cyfle i fanteisio ar safbwyntiau ffres, arloesol a thalent sy’n dod i’r amlwg mewn unigolion sy’n awyddus i brofi prosiectau masnachol a chyfrannu syniadau newydd. 

“Dros y blynyddoedd yn gweithio gyda’r Drindod Dewi Sant rydyn ni wedi canfod y gall interniaid gefnogi prosiectau parhaus, dod â chanfyddiad digidol, sgiliau ar y cyfryngau cymdeithasol a darparu adnoddau ychwanegol lle mae eu hangen nhw arnoch chi fwyaf. I ni mae interniaethau yn ffordd risg isel o nodi a hyfforddi darpar weithwyr yn y dyfodol sydd eisoes yn gyfarwydd â diwylliant a dull gwaith y cwmni. Mae’n gyfle i ddod o hyd i’r union un a chawsom ni lwc, Erin yw’r union berson i ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael Erin yn weithiwr amser llawn a pharhaol yn 2025.”

Louise Rengozzi, Cyd-gyfarwyddwr The Cusp 

“Fe wnaeth ein partneriaeth ni â’r Drindod Dewi Sant ganiatáu i’r Cwnstabl ymuno yn gyflogwr ar eu rhaglen interniaeth i fyfyrwyr, gan agor drysau i gyfleoedd creadigol ymarferol yma yng Nghymru. Drwy’r fenter hon, gwnaethom ni ddarparu rolau dylunio a chreadigol o ansawdd, gan roi safbwyntiau a sgiliau yn y byd go iawn i fyfyrwyr lunio eu llwybrau proffesiynol.

“Rydym am gyfoethogi teithiau academaidd myfyrwyr trwy gynnig profiad ymarferol yn y diwydiant, mentora ac arweiniad i gynyddu eu ffactor cyflogadwyedd. Mae cyfraniadau pob interniad, nid yn unig wedi gwella brandio ac ymgyrchoedd ein cleientiaid ond hefyd wedi ysgogi ein twf busnes newydd ein hunain, gan gael effaith gadarnhaol yn ein hasiantaeth.”

Donna Williams, Rheolwr Rhaglen ar gyfer y cwrs BA (Anrh) Dylunio Graffig, Coleg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant:

“Mae’r cwrs yn gyfle gwych i’n myfyrwyr. Rwy’n hynod falch o’r nifer sydd wedi llwyddo i sicrhau swydd. Mae’r gwelliant yn eu hyder yn amlwg, ac mae hyn yn paratoi’n well ein graddedigion i fod yn barod i’r diwydiant gyda’r holl sgiliau cywir.”

Amanda Hayden, Uwch Reolwr Prosiect, Y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn paru myfyrwyr yn ofalus â busnesau a phrosiectau lle mae’r ddwy ochr yn ennill gwerth sylweddol. Mae’r ffaith fod llawer o’r interniaethau hyn yn arwain at swydd yn dyst i gryfder y rhaglen a thalent y myfyrwyr. Rydyn ni’n yn ymgorffori cyflogadwyedd a menter ar draws y cwrs, felly mae myfyrwyr yn graddio gyda phrofiad diwydiant da.”

Mae’r cynllun interniaeth ar gael i holl fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant ar draws pob maes pwnc.

A happy, smiling student wearing a cream coloured coat with countryside in the background.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon