Ҵý

Skip page header and navigation

Ymyrraeth Blynyddoedd Cynnar sy’n gwneud Gwahaniaeth yng Nghasnewydd

Mae’r BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd am weithio gyda phlant, teuluoedd, neu mewn meysydd cysylltiedig. Un o gryfderau’r cwrs yw ei ffocws ar ddysgu o arfer ac mae Ken Dicks, darlithydd ar y rhaglen, yn rhannu sut mae cysylltiadau’r tîm addysgu yn helpu i lywio eu haddysgu yn ogystal â chefnogi prosiectau yn y gymuned.

Teddy Bears Picnic at Baby & Me a Barnardo's and Newport County Council partnership

Yn ogystal â bod yn Ddarlithydd yn y Addysg a Gofal y Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), rwy’n ddigon ffodus i fod yn aelod o’r .  Yn y rôl hon rwy’n rhan o dîm sy’n cefnogi Uwch Dîm Rheoli Barnardo’s Cymru o ran y Strategaeth Gorfforaethol, a’u cynghori a’u herio ar ddarparu gwasanaethau, yn ogystal â rhoi cefnogaeth benodol i brosiectau a gwasanaethau. 

Yn ddiweddar, ymwelodd aelodau o’r Bwrdd Cynghori, a Breid O’Brien, ein Hymddiriedolwr cyswllt, â Babi a Fi, partneriaeth ysbrydoledig rhwng Barnardo’s a Chyngor Dinas Casnewydd. Mae’r gwasanaeth yn rhoi cymorth i rieni o wythnos 12 y feichiogrwydd tan chwe mis ar ôl genedigaeth, mewn sefyllfaoedd lle mae pryderon diogelu ar gyfer y plentyn heb ei eni a risg bosibl y bydd y babi yn cael ei symud o ofal rhiant adeg ei eni.

Roedd ein hymweliad yn cyd-daro â Phicnic gyda Tedi, un o’r digwyddiadau rheolaidd a gynhelir gan y tîm i ganiatáu i rieni a babanod gymdeithasu â’i gilydd, ac roedd yn brofiad teimladwy clywed straeon teuluoedd yr oedd eu bywydau wedi’u newid er gwell gan y prosiect. Yn y straeon hynny roedd yr ymdeimlad cryf o ymddiriedaeth a chefnogaeth rhwng staff a theuluoedd yn amlwg, fel yn yr hanes a adroddwyd gan un fam am y modd yr oedd un o’r gweithwyr wedi eistedd gyda hi am bedair awr yn ystod y broses brysbennu i’w helpu i ddelio â chymhlethdodau’r broses.

Mae gwerthusiad mewnol o’r rhaglen wedi dangos, “In the 22 months following the first birth of an infant to mother/parents working with Baby and Me, our analysis found a 31% reduction in the number of infants entering care in Newport within 14 days of birth”. (Barnardo’s Cymru, 2022). Mae hyn yn dangos sut mae’r gwasanaeth yn helpu i gyflawni nod datganedig Llywodraeth Cymru i “leihau’r angen i blant fynd i ofal a chynyddu’r defnydd o ailuno teuluoedd ar gyfer plant sydd wedi profi gofal” (Llywodraeth Cymru, 2019, t.11)Mae’r canlyniadau anhygoel yn deillio o waith caled y tîm, sy’n cynnwys staff Barnardo’s a staff o dîm Gofal Cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio ochr yn ochr ac mewn cydweithrediad â Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd.

Pwysleisir gwerth y model integredig hwn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol mewn ymchwil gan de Matos et al (2024) yn eu papur  ‘Implementation and impact of integrated health and social care services: an umbrella review’. Yn y papur maent yn datgan y gall y model hwn hyrwyddo gwelliannau sylweddol o ran mynediad ac argaeledd gwasanaethau. Mae pwysigrwydd gwaith o’r fath hefyd yn cael ei gydnabod mewn deddfwriaeth fel Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) (2010) sy’n darparu fframwaith ar gyfer “sefydlu timau a byrddau integredig ar gyfer cymorth i deuluoedd” a “gwella safonau mewn gwaith cymdeithasol ar gyfer plant a’r personau sy’n gofalu amdanynt” yng Nghymru.

Cydnabuwyd llwyddiant y gwasanaeth yn 2024 pan ddyfarnodd Gofal Cymdeithasol Cymru, y corff rheoleiddio ac arolygu statudol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, Wobr ‘Gweithio mewn Partneriaeth’ i’r tîm (). Cydnabu Gofal Cymdeithasol Cymru fod “ymyriadau arbenigol [y gwasanaeth] yn cynnwys gwasanaethau sy’n cefnogi rhieni beichiog y mae eu babanod mewn perygl o gael eu geni mewn gofal, tîm ymateb cyflym sy’n helpu i atal teuluoedd rhag chwalu, a fforymau lle mae’r bobl ifanc a’r rhieni y mae’n eu cefnogi yn gallu chwarae rhan i gyd-gynhyrchu datblygiadau’r bartneriaeth”. Mae’r ffaith bod y gwasanaeth wedi’i gydnabod am gynnwys syniadau teuluoedd a phobl ifanc yn ei waith cynllunio yn cyd-fynd ag agenda Diwygio Radical Llywodraeth Cymru sy’n nodi “Byddwn yn gweithio’n agos gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gyda’r sefydliadau hynny sy’n eu cefnogi, i roi clust i’w lleisiau” (Llywodraeth Cymru, 2023, t.10)

Eglurodd y staff a oedd yn rhan o’r gwasanaeth fod llwyddiant y prosiect yn ddyledus, nid yn unig i’r ffaith bod ymarferwyr yn gweithio ac yn cynllunio gyda’i gilydd, ond hefyd eu bod yn canolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau’r teuluoedd yn ogystal â’u cynnwys wrth lunio’r rhaglen, fel y cydnabuwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei ddyfyniad. Mae’r ffordd hon o weithio, sydd wedi’i galw’n fodel Grymuso - Cyfranogi - Cryfderau (EPS), wedi’i chydnabod yn arfer gorau gan ymchwilwyr fel Ping Kwong Kam yn y British Journal of Social Work, wrth iddynt nodi y gall dulliau o’r fath chwarae rhan mewn “strongly affirming service users’ strengths, promoting service users’ participation and focusing on helping service users empower themselves and others ” (KAM, 2021). Roedd yn amlwg, wrth gymryd rhan yn y picnic, fod y cysylltiadau a oedd wedi datblygu rhwng y gwasanaeth a’r teuluoedd wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i’r cyfranogwyr yn unol â’r model EPS o weithio.

Mae’r ymweliad buddiol hwn yn enghraifft o’r ffordd y gall y cysylltiadau rhwng y tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r ddarpariaeth bresennol fod o fudd i’r ddwy ochr. Bydd y dysgu a’r wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymweliad yn cyfoethogi’r addysgu ar y rhaglen ac rydym hefyd yn archwilio ffyrdd y gall PCYDDS gefnogi’r rhaglen trwy ymchwil a gwerthuso yn unol â galwad KAM (2021) am “Further research […] to determine its [the EPS approach] capacity to respond more broadly to the changes and development of social work practice”.

Cyfeiriadau:

Barnardo’s Cymru (2022) Evaluation of the Baby and Me Service Ar gael yn: 

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) (2010), nawm 1, Caerdydd: Y Senedd Ar gael yn: 

de Matos, R.C. et al. (2024) ‘Implementation and impact of integrated health and social care services: an umbrella review’.  Journal of Public Health Policy  Vol.45, pp.14–29 Ar gael yn: 

Kam, P.K. (2021) ‘From the Strengths Perspective to an Empowerment–Participation–Strengths Model in Social Work Practice’, The British Journal of Social Work, 51(4), pp. 1425–1444. Ar gael yn: 

Gofal Cymdeithasol Cymru (2025) 2024 Seremoni wobrwyo Gwobrau 2024, enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol Ar gael yn: 

Llywodraeth Cymru (2019) Adroddiad:Lleihau nifer y plant sydd angen gofal Ar gael yn: 

Llywodraeth Cymru (2023) Datgan diwygiad radical o ofal plant a phobl ifanc Ar gael yn: 


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;01267&Բ;676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon