Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cymryd cam arwyddocaol ymlaen yn ei strategaeth rhyngwladoli trwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd gyda CESI, un o’r sefydliadau pennaf sy’n arbenigo mewn addysg peirianneg, technoleg, a galwedigaethol, yn ystod ymweliad diweddar â Pharis. 

A group of smiling, happy people standing together in a room.

Mae’r ymweliad yn nodi cychwyn partneriaeth academaidd strategol â’r nod o gyfoethogi profiadau addysgiadol ac ehangu cyfleoedd cyfnewid rhwng y ddau sefydliad. O dan arweiniad staff Symudedd Rhyngwladol PCYDDS, Kath Griffiths a Hannah Clayton, bu’r trafodaethau’n canolbwyntio ar nodau cyffredin yn ymwneud â symudedd myfyrwyr, cydweithredu academaidd, ac arloesi ym maes addysg ac ymchwil.

“Mae ein hymweliad â CESI wedi bod yn hynod gynhyrchiol ac ysbrydoledig,” meddai Kath Griffiths, a oedd yn arwain dirprwyaeth PCYDDS. “Mae wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol a fydd yn cyfoethogi profiadau ein myfyrwyr a’n staff fel ei gilydd. Rydym yn edrych ymlaen at feithrin partneriaeth ddeinamig sy’n canolbwyntio ar addysg ryngwladol effeithiol.”

Fe wnaeth CESI estyn croeso cynnes i dîm PCYDDS, gan gynnig teithiau tywys o gwmpas ei amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf ac arddangos ei alluoedd ymchwil. Fe wnaeth Ruth Lied a Laurianne Giteau, Rheolwyr Cysylltiadau Rhyngwladol yn CESI, chwarae rolau allweddol wrth hwyluso’r ddeialog a sicrhau bod gweledigaethau’r ddau sefydliad yn cyd-fynd ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.

Dywedodd Ruth Lied: “Ymwelais â PCYDDS Abertawe ym mis Tachwedd 2024 ac mae gen i atgofion melys o’r croeso cynnes a’r trafodaethau cyffrous a gefais â staff academaidd a gweinyddol i archwilio posibiliadau cydweithredu. Felly, pleser o’r mwyaf oedd croesawu Kath a Hannah i CESI ym mis Ebrill, lle gwnaethom lwyddo treiddio’n ddyfnach i fanylion cyfnewid myfyrwyr a chyfadrannau ar ôl dod yn bartneriaid sefydliadol swyddogol! Rydym yn llawn cyffro i weld y trafodaethau hyn yn dod yn fyw ac i weithio er budd ein myfyrwyr, athrawon, ac ymchwilwyr gyda’r nod cyffredin o gyfrannu at fyd mwy arloesol, cydgysylltiedig, a chynhwysol.”

Mae’r bartneriaeth newydd yn cyflwyno sawl cyfle cyffrous i fyfyrwyr ar y ddwy ochr:

  • Bydd myfyrwyr CESI yn cael cyfle i astudio Technoleg Gwybodaeth a Seiberddiogelwch am semester ar gampws o’r radd flaenaf PCYDDS yng Nglannau Abertawe.
  • Bydd myfyrwyr PCYDDS yn cael eu gwahodd i fynychu Ysgolion Haf enwog CESI ym Mharis a Nice, gyda themâu arloesol ac amserol yn cynnwys:
  • Arloesi Gwyrdd a Datblygiad Cynaliadwy: Archwilio eco-ddylunio a thechnolegau ar gyfer trawsnewid ecolegol a datgarboneiddio.
  • BIM ar gyfer Adeiladu Cynaliadwy: Mynd i’r afael â dyfodol adeiladu cynaliadwy, dinasoedd clyfar, ac eco-gymdogaethau.
  • Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol: Trochi myfyrwyr yn yr hyn sy’n arwain arloesi AI gyda dull ymarferol a blaengar.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn ailddatgan cenhadaeth PCYDDS i baratoi myfyrwyr ar gyfer dyfodol byd-eang trwy hwyluso cyfnewid rhyngddiwylliannol, gwella symudedd academaidd, a hyrwyddo dysgu cydweithredol gyda phartneriaid rhyngwladol blaenllaw. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon