Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Brook Fox, myfyriwr Lefel 6 Technoleg Cerddoriaeth Greadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei yrfa gerddorol wrth i’w sengl ddiweddaraf, When You Fall, gael ei hychwanegu at Restr A BBC Radio Wales.

A student dressed in black jeans and a black t-shirt standing against a wall.

Darganfu Brook, canwr-gyfansoddwr o Borth Tywyn, ei angerdd am gyfansoddi caneuon yn ystod Covid. Gan dynnu ei ysbrydoliaeth o artistiaid megis Sam Fender a Gerry Cinnamon, datblygodd sain unigryw sy’n cyfuno indie pop/roc gyda sain delynegol amrwd, traed ar y ddaear.

Cafodd ei sengl gyntaf, Time, glod gan y beirniaid, gan sicrhau dros 30,000 o ffrydiau ar draws 139 o wledydd a chan arwain at ei chynnwys ar BBC Introducing a llwyfannau cyfryngau mawr eraill.

Meddai Brook: “Roedd bod ar y rhestr A yn nod pwysig i mi, ac mae cyflawni hynny gyda’r trac hwn wedi bod yn brofiad arbennig i mi. Fel cyfansoddwr caneuon, mae’n wych  bod fy nhrac i wedi ei ddarlledu i filiynau drwy gydol yr wythnos!”

Ble i wrando:

Mae When You Fall ar gael ar bob un o’r prif lwyfannau ffrydio a bydd yn ymddangos ar BBC Radio Wales drwy gydol yr wythnos ar y sioeau canlynol:

Dydd Llun – Wynne Evans (9 AM - 12 PM)

Dydd Mawrth - The Phone In gyda Jason Mohammad (12 PM - 2 PM)

Dydd Mercher – Behnaz Akhgar (2 PM - 5 PM)

Dydd Iau – Wynne Evans (9 AM - 12 PM)

Dydd Gwener – Eleri Sion (2 PM - 5 PM)

Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn PCYDDS – Sylfaen ar gyfer Llwyddiant

Y tu hwnt i’w lwyddiannau fel artist, mae Fox wedi defnyddio ei astudiaethau academaidd i archwilio’r dirwedd marchnata cerddoriaeth sy’n esblygu. Yn rhan o’i ymchwil Lefel 6 Technoleg Cerddoriaeth Greadigol, gwerthusodd strategaethau datblygu artistiaid traddodiadol o’u cymharu â strategaethau modern, gan ganolbwyntio ar effaith offer digidol megis SEO, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, a hysbysebu.

“Roedd archwilio datblygiad artistiaid cerddoriaeth yn yr oes ddigidol yn fodd i mi gael profiad uniongyrchol wrth lywio marchnad orlawn,” meddai Brook. “Ar y dechrau, roedd hi’n ymddangos yn frawychus, ond trwy ddefnyddio cynnwys ffurf fer a meta-hysbysebion, llwyddes i wneud cynnydd ystyrlon.”

Mae ei astudiaethau wedi rhoi dealltwriaeth ddofn iddo o seicoleg cynulleidfa a marchnata cerddoriaeth annibynnol, gan ddangos y gall artistiaid adeiladu momentwm heb gyllid allanol.

Mae gyrfa Brook yn dal i fagu momentwm, ar ôl cefnogi’r cyfansoddwyr caneuon enwog o Gymru Maldwyn Pope a Steve Balsamo yn ddiweddar. When You Fall yw’r drydedd sengl iddo ei rhyddhau, felly mae’n dechrau ymddangos mai 2025 yw ei flwyddyn fwyaf eto, gyda cherddoriaeth newydd a gigs byw ar y gorwel.

Am ragor o wybodaeth, ymholiadau i’r wasg, neu geisiadau am gyfweliad, cysylltwch â:
d.bird@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon