Myfyrwyr PCYDDS yn Ennill Profiad Gwerthfawr yn Academi Chwaraeon PCYDDS
Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ennill profiad ymarferol amhrisiadwy trwy weithio gyda thimau perfformiad yr Academi Chwaraeon ac athletwyr unigol. Trwy rolau ym maes hyfforddi, therapi chwaraeon, a dadansoddi mae myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth academaidd mewn lleoliadau byd go iawn.

Mae’r cyfle unigryw hwn yn gwella sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr yn sylweddol. Trwy ymgysylltu’n uniongyrchol ag athletwyr, hyfforddwyr a staff cymorth, maen nhw’n datblygu cymwyseddau beirniadol megis cyfathrebu, gwaith tîm, arweinyddiaeth, a rheoli amser. Mae’r profiadau ymarferol hyn yn rhoi mantais gystadleuol i fyfyrwyr yn y diwydiant chwaraeon a thu hwnt.
Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:
“Mae’r Academi Chwaraeon yn cynnig amgylchedd proffesiynol lle gall myfyrwyr dyfu a rhoi prawf ar eu sgiliau. Maen nhw nid yn unig yn arsylwi - maen nhw’n cyfrannu’n ystyrlon, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr.â€

Eleni mae myfyrwyr sy’n ennill profiad yn yr Academi Chwaraeon wedi cynnwys y myfyriwr Addysg Gorfforol James Dillion a’r myfyriwr Hyfforddi Chwaraeon Stuart Edwards wedi cwblhau lleoliadau hyfforddi gyda Thîm Pêl-droed y Dynion a Thîm Rygbi’r Dynion yn y drefn honno. Ac mae’r myfyrwyr Chwaraeon a Therapi Ymarfer Corff Ffion Thomas a Joanna Catherside wedi bod yn gweithio gyda’r Timau Rygbi.

Meddai Joanna:
“Mae gweithio oddi ar y cae wedi fy helpu i ddeall sut i reoli pwysau a meddwl ar fy nhraed. Mae wedi bod yn addysg anhygoel ac rydw i wedi dysgu cymaint trwy fod yn rhan o’r staff hyfforddi a chymorth yn yr academi “
Os oes gan unrhyw fyfyrwyr yn PCYDDS ddiddordeb mewn lleoliadau mewn rolau ym maes hyfforddi, therapi chwaraeon, dadansoddi, datblygu chwaraeon, rheoli digwyddiadau, a sylw’r cyfryngau cymdeithasol/cyfryngau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 sydd i ddod. cysylltwch â academichwaraeon@pcydds.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476