Ҵý

Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) arddangos taith ysbrydoledig myfyriwr Gwneud Ffilmiau Antur, Nekorrah Raynor. Mae Korrah yn fyfyriwr rhyngwladol o Bermuda sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.  

A photo of Korrah looking over beautiful Welsh scenery

Wedi’u denu gan eu treftadaeth Geltaidd a’r cyfle i astudio mewn cenedl sy’n rhannu cyfoeth diwylliannol a naturiol dwfn, mae Korrah wedi cofleidio heriau academaidd ac anturiaethau awyr agored.  Mae eu profiad yn PCYDDS wedi darparu cyfleoedd heb eu hail ar gyfer twf personol, datblygu sgiliau a dyheadau proffesiynol ym meysydd gwneud ffilmiau a chadwraeth ecolegol. 

Gan fyfyrio ar eu taith o Bermuda i Gymru, meddai Korrah: 

“Roeddwn yn gyffrous iawn i symud i Gymru.  Roeddwn erioed eisiau byw mewn rhan weledig o’r DU, ac rwyf wedi cael llawer o brofiadau anhygoel sydd wedi newid fy mywyd ers i mi gyrraedd.  Er enghraifft, mae’n wlad sy’n llawer mwy ar ran maint ac yn llawer oerach.  Mae llawer mwy o fioamrywiaeth ac amrywiaeth yn y tirweddau.  Ond, rwyf wedi canfod ei bod hi’n eithaf tebyg o ran diwylliant ac os ydych chi’n ymdrechu, mae’r un mor hawdd i gael mynediad i fyd natur. Mae gan Gymru ei hud ei hun sy’n anodd ei disgrifio, ond rwyf yn ei charu.” 

Ar hyn o bryd, mae Korrah yn astudio ar y cwrs Gwneud Ffilm Antur yn PCYDDS, rhaglen nad oeddent wedi dod ar ei thraws cyn darganfod y brifysgol.  

“Mae’r rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur wedi rhoi cymaint o gyfleoedd unigryw i mi, na fyddai wedi’u cael unrhyw le arall yn y byd.  Rwyf wedi gweld tirweddau a natur yr oeddwn wedi breuddwydio amdanynt ers yn blentyn. Mae byw mewn ardal lle gallaf brofi’r cyfan, mewn rhaglen sy’n fy ngwthio i fynd ar ôl y gorwelion hyn yn fy llenwi â chymaint o lawenydd a gwerthfawrogiad.  

“ Roeddwn yn bryderus am fy mod yn dod o ddiwylliant a gwlad wahanol, yn ogystal â bod yn hŷn na’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr eraill ar y cwrs.  Ond, mae’r staff a’m cymheiriaid ar y rhaglen yn unigolion gwych sydd wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol ac maent wedi estyn croeso i mi.    

“Nid wyf erioed wedi bod mewn ysgol gyda rhaglenni arbenigol fel hyn.  Ers i mi ddechrau, rwyf wedi cael cymaint o brofiadau a chyfleoedd unigryw na fyddaf wedi’u cael unrhyw le arall.  Mae PCYDDS yn agor drysau mewn ffyrdd nad oeddwn yn meddwl oedd yn bosibl.”

Mae’r cwrs Gwneud Ffilmiau Antur ei hun yn gyfuniad perffaith o’r pethau sy’n cyffroi Korrah – ffilm, cyfryngau digidol a’r awyr agored.  

“Mae’n anhygoel bod y cwrs a’r darlithwyr yn caniatáu i fyfyrwyr fod yn annibynnol gyda’u dysgu.  Rydym yn cael y cyfle i lywio ein hunain yn seiliedig ar le rydym am fynd yn ein gyrfaoedd gan ddatblygu arbenigedd mewn meysydd eraill i gryfhau ein CVs.

Mae eu taith i’r maes hwn yn deillio o brofiad blaenorol mewn ffilm a chyfryngau digidol, ynghyd â diddordeb cryf mewn cadwraeth ecolegol.  

“Mae’r agwedd Addysg Awyr Agored yn rhoi profiad a gwybodaeth i mi ar sut i weithio mewn amgylcheddau awyr agored eithafol, tra bod yr agwedd Gwneud Ffilmiau yn darparu sgiliau technegol a busnes gwerthfawr.  Gyda’i gilydd, mae’r cwrs yn berffaith i mi fel rhywun sydd eisiau cyfuno byd natur gyda’r cyfryngau.”

Mae Korrah yn teimlo eu bod wedi tyfu’n bersonol ac yn broffesiynol yn ystod eu hastudiaethau. 

“Mae’r cwrs wedi fy ngwthio mewn ffyrdd na fyddwn erioed wedi meddwl amdanynt o’r blaen.   Rwy’n gallu gwneud cymaint mwy nag yr oeddwn yn meddwl ei fod yn bosibl, yn feddyliol ac yn gorfforol, ond rwyf hefyd wedi gweld meysydd y mae angen i mi wella ynddynt.  Rwyf wedi sylwi fy mod yn unigolyn mwy hyderus, cymwys a galluog ers ymuno â’r cwrs.”

Mae Korrah yn cydnabod bod darlithwyr y brifysgol yn ffactor allweddol yn eu profiad cadarnhaol.  

“Mae’r darlithwyr yn anhygoel. Maent wedi ymrwymo i’n helpu i dyfu gan roi’r hyder i ni lywio ein llwybrau ein hunain.  Mae’r perthnasoedd rwyf wedi’u datblygu gyda nhw wedi gwneud fy mhrofiad dysgu yn gyfoethocach o lawer.”

Meddai Dr. Brett Aggersberg, Uwch Ddarlithydd Gwneud Ffilmiau Antur BA PCYDDS: 

“Rydym mor falch i allu cefnogi Korrah i ddatblygu eu hangerdd dros natur, yr awyr agored a gwneud ffilmiau.  Mae’n gwrs unigryw go iawn , ac mae’n galonogol bod myfyrwyr yn dewis teithio o bob cwr o’r byd i astudio yng Ngorllewin Cymru.  Mae gennym gymaint i’w gynnig yn yr ardal, ac er y gall rhai agweddau ar fywyd yma deimlo’n gyfarwydd, mae hud i leoliad ein cwrs nad yw’n bosibl ei ailadrodd.   Rydym yn edrych ymlaen at weld yr hyn mae Korrah a’r myfyrwyr eraill yn ei gynhyrchu nesaf.  Ar hyn o bryd, maent yn gweithio gyda Choed Cadw ar ddatblygu eu cynnwys cyfryngau cymdeithasol i helpu i hyrwyddo’r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud.”

I’r rhai sy’n ystyried y cwrs Gwneud Ffilmiau Antur, mae Korrah yn cynnig y cyngor hwn: 

“Mae cymaint i’w wneud a’i ddysgu, waeth beth fo lefel eich sgiliau.  Manteisiwch ar bob cyfle, dysgwch wrth eich cyfoedion, ac yn bwysicach fyth, mwynhewch.  Mae amser yn hedfan!”

Am fwy o wybodaeth am y Cwrs Gwneud Ffilmiau Antur BA, ewch i:  Gwneud Ffilmiau Antur (Llan amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon