O Ddadansoddwr i Uwch Reolwr: Sut y gwnaeth Prentisiaeth yn PCYDDS drawsnewid gyrfa mewn Data a Dadansoddeg
Mae Lowrie Proctor wedi camu ymlaen yn llwyddiannus o fod yn ddadansoddwr i fod yn uwch reolwr yn Heddlu Dyfed Powys, diolch i’r sgiliau, yr hyder a’r wybodaeth a gafodd drwy Radd-brentisiaeth mewn Systemau Data a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Ar ôl gweithio mewn rolau amrywiol ar draws y meysydd manwerthu, bancio, y gwasanaeth sifil a recriwtio, ymunodd â Heddlu Dyfed Powys yn 2014 a datblygodd ddiddordeb brwd mewn dadansoddi data a systemau gwybodaeth. Pan ddaeth swydd ar gael fel dadansoddwr, bachodd ar y cyfle, gan gofrestru’n ddiweddarach ar y rhaglen brentisiaeth i wella ei sgiliau a’i datblygiad proffesiynol.
Meddai Lowri: “Doeddwn i erioed wedi mynychu prifysgol, ond roeddwn i’n gwybod y byddai’r cwrs hwn yn rhoi’r offer i mi wella fy ngwaith a fy hyder. Hefyd, roedd y ffaith ei fod wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a’i gefnogi gan fy nghyflogwr yn ei gwneud yn benderfyniad hawdd ac yn gyfle na allwn ei wrthod.”
Fel llawer o brentisiaid, bu’n rhaid iddi ymdopi â’r heriau o gydbwyso gwaith, astudio a bywyd teuluol. Pan darodd y pandemig, bu’n rhaid iddi jyglo dysgu ar-lein â helpu ei merch saith oed gyda’i haddysg gartref.
“Roedd fy ngliniadur personol yn cael trafferth ymdopi â gofynion technegol y cwrs, ond roedd PCYDDS yn wych wrth fy nghyfeirio at opsiynau ariannu i gael dyfais addas. Roedd cefnogaeth y brifysgol, yn academaidd ac yn bersonol, yn amhrisiadwy .”
Er gwaethaf yr heriau hyn, ffynnodd Lowrie, gan elwa o rwydweithio gyda chymheiriaid, ennill mewnwelediadau newydd i systemau data, a meithrin yr hyder i ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb.
Ers dechrau’r brentisiaeth, mae wedi cael dyrchafiad o fod yn ddadansoddwr i fod yn Rheolwr Perfformiad Gweithredol ac erbyn hyn mae ganddi swydd uwch reolwr yn adran Perfformiad a Dadansoddeg Heddlu Dyfed Powys.
“Mae’r wybodaeth o’r cwrs yn fy ngalluogi i arwain fy nhimau’n effeithiol a deall penderfyniadau cymhleth sy’n cael eu gyrru gan ddata. Mae’r hyder sydd gen i yn fy rôl heddiw yn ganlyniad uniongyrchol i gwblhau fy ngradd-brentisiaeth,” meddai.
Gyda’i gradd bellach wedi’i chwblhau, mae Lowrie’n awyddus i barhau i ddysgu ac yn ystyried gradd meistr mewn Arfer Proffesiynol. Mae hi hefyd yn cymryd rhan weithredol yng Ngrŵp Cyswllt Cyflogwyr Digidol PCYDDS, gan helpu i gryfhau cydweithio rhwng y brifysgol a phartneriaid mewn diwydiant.
“I unrhyw un sy’n ystyried y cwrs hwn, byddwn yn ei argymell yn llwyr. Nid yn unig y gwnes i ennill gradd a chael llun o’r diwedd yn fy nghap a gŵn graddio, fe wnes i hefyd ddatblygu’n broffesiynol, meithrin cysylltiadau cryf â diwydiant a chael persbectif newydd ar systemau data a gwybodaeth.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071