PCYDDS i gynnal Cynhadledd Gydweithredol AI mewn Addysg yng Nghymru 2025
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mewn partneriaeth ag ASA Cymru a Medr, yn cynnal Cynhadledd Gydweithredol Cymru: AI mewn Addysg 2025, digwyddiad deuddydd ar-lein sy’n dwyn ynghyd arweinwyr ym maes addysg, technoleg a pholisi i archwilio potensial trawsnewidiol Deallusrwydd Artiffisial ar draws sectorau addysg uwch ac addysg bellach Cymru a thu hwnt.

Bydd y gynhadledd gwbl rithwir hon yn dod ag addysgwyr, technolegwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisi ynghyd i rannu arferion gorau, mynd i’r afael â heriau allweddol, ac adeiladu gallu sector cyfan mewn AI a dysgu ymdrochol.
Digwyddiad hwn rhad ac am ddim yw hyn a gynhelir ar 1 a 2 Gorffennaf, ac sy’n agored i bob gweithiwr proffesiynol sydd â diddordeb yn rôl esblygol AI mewn addysg. Mae sesiynau wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer pob lefel o brofiad - os ydych chi’n ymgorffori AI yn eich ymarfer neu’n dechrau archwilio ei botensial.
Bydd cynadleddwyr yn elwa o’r cyfle i glywed yn uniongyrchol gan arweinwyr meddwl cenedlaethol a rhyngwladol ar flaen y gad ym maes AI ac addysg. Mae’r rhaglen yn cynnig canfyddiadau gwerthfawr ar arferion sy’n dod i’r amlwg a chymwysiadau ymarferol, yn ogystal â thrafodaethau beirniadol ynghylch goblygiadau moesegol, diwylliannol ac ieithyddol AI, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru. Nod y digwyddiad yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer rôl AI yn addysg Cymru.
Bydd y gynhadledd yn mynd i’r afael â phum maes allweddol sy’n llunio dyfodol dysgu:
- Pam mae AI yn Bwysig mewn Addysg?
- Galluoedd Addysg a Dylunio Dysgu
- Ystyriaethau Moesegol ym maes AI, gan gynnwys asesu ac uniondeb academaidd
- AI a’r Gymraeg
- Dysgu Ymdrochol yn yr Oes Ddigidol
Bydd y gynhadledd hon yn cynnwys rhestr o brif siaradwyr a chyfranwyr arbenigol o bob cwr o’r DU ac yn rhyngwladol.
Bydd Tim Bashford, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Ymchwil yn Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) yn PCYDDS, yn rhoi cyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial, gan archwilio ei ddatblygiad hanesyddol a’i arwyddocâd cynyddol mewn addysg gyfoes.
Bydd yr Athro Danny Liu o Brifysgol Sydney yn archwilio’r ymgysylltiad sefydliadol ag AI trwy lens fframwaith CRAFT—Diwylliant, Rheolau, Mynediad, Cynefindra, ac Ymddiriedaeth.
Cynhelir trafodaeth banel ar ddeallusrwydd artiffisial a’r Gymraeg, gyda Kara Lewis, Jeremy Evas, Gareth Morlais, Gruffudd Prys, Dr Cynog Prys, a Dr Neil Mac Parthaláin, gan archwilio’r croestoriad rhwng technoleg, iaith a hunaniaeth ddiwylliannol mewn oes ddigidol, a chan ganolbwyntio’n benodol ar y cyfleoedd a’r heriau ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill.
Bydd Joe Houghton, o Houghton Consulting a Choleg Prifysgol Dulyn, yn trafod effaith y presennol ar alluoedd addysg a’r fframweithiau esblygol sydd eu hangen i gefnogi dylunio dysgu mewn amgylchedd wedi’i wella gan AI.
Bydd Michael Webb, Cyfarwyddwr Technoleg a Dadansoddeg yn Jisc, yn edrych ar y cyfleoedd y mae Deallusrwydd Artiffisial yn eu cyflwyno ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru, gan fyfyrio ar y datblygiadau cyflym yn y dirwedd AI a’u goblygiadau i’r sector.
Meddai Chris Rees, Pennaeth Gweithredol Creadigrwydd a Dysgu Digidol yn PCYDDS:
“Mae’r Gynhadledd AI yn gam mawr ymlaen yn ein Prosiect Gwella Cydweithredol, a ddarperir gyda chymorth MEDR ac mewn partneriaeth agos â phob sefydliad addysg uwch yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn ganlyniad cydweithredu parhaus, meddylgar i sicrhau ei fod yn siarad â’r blaenoriaethau a’r cyfleoedd go iawn rydyn ni’n eu hwynebu gyda’n gilydd.
Rydyn ni’n falch o groesawu lleisiau dylanwadol megis Danny Liu (Prifysgol Sydney) a Joe Houghton (Coleg Prifysgol Dulyn), y mae eu gwaith yn llunio sut mae AI yn cael ei ddefnyddio ym maes dysgu ac addysgu. Nid mater o arddangos syniadau yn unig mo hwn - mae’n ymwneud â chreu lle ar gyfer cyfeiriad a deialog a rennir mewn maes sy’n symud yn gyflym.â€
Gwahoddir cyfranogwyr i gofrestru’n unigol ar gyfer pob prif sesiwn. Caiff pob sesiwn ei recordio a threfnir eu bod nhw ar gael i’r rhai a fydd yn cofrestru ymlaen llaw. I’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu’n fyw, bydd yr holl sesiynau yn cael eu recordio a threfnir eu bod nhw ar gael i gyfranogwyr cofrestredig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: /events/welsh-collective-ai-education-conference-2025
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476