Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu cyraeddiadau nodedig ei myfyrwyr a phartneriaid diwydiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, sydd wedi gosod y llwyfan ar gyfer rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn hwyrach yn y flwyddyn.

A group of students, staff and industry partners celebrating.

Gyda Chymru’n paratoi i gynnal rowndiau terfynol WorldSkills UK am y tro cyntaf, gwnaeth Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ddarparu cyfle allweddol ar gyfer darpar ymarferwyr proffesiynol i ddangos eu talentau ac ennill profiad hanfodol yn eu meysydd perthnasol. Wedi’i threfnu gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, nod y gystadleuaeth yw codi safon sgiliau ar draws nifer o sectorau drwy weithio’n agos â cholegau, darparwyr dysgu yn y gwaith, a sefydliadau a arweinir gan weithwyr.

Yn ystod y cystadlaethau, a gynhaliwyd o 21 Ionawr i 13 Chwefror, ac y cynhaliwyd rhai ohonynt yn Adeilad Dinefwr a champws Glannau Abertawe y Brifysgol, bu dros 1,000 o gystadleuwyr ar draws 20 o wahanol sectorau sgiliau, gyda 253 o gyfranogion yn ennill yr anrhydeddau uchaf. Yn eu plith, cyflawnodd cystadleuwyr a gefnogwyd gan PCYDDS a hyfforddeion diwydiant lwyddiant anhygoel, yn arbennig ym meysydd gweithgynhyrchu a pheirianneg.

Her Timau Gweithgynhyrchu – Gwobrau Tîm

Medal Aur: Tîm Valiant (Rhys Vaughan a Charlie Gallagher)

Medal Efydd: Tîm Valkyrie (James Levi, Ieuan Matthews, a Ben Hanks)

Canmoliaeth Uchel: Jack Simpkins, Dan John, a Ben Dale

Melino CNC

Medal Efydd: Lloyd Thomas (Safran Seats), hyfforddodd yn AMSA dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu ymrwymiad PCYDDS i weithio mewn partneriaeth gyda chyflogwyr blaenllaw fel Aston Martin a Safran Seats, gan sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant a phrofiad sy’n berthnasol i ddiwydiant.

Gan adfyfyrio ar lwyddiant y brifysgol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, pwysleisiodd Lee Pratt, Rheolwr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch PCYDDS, bwysigrwydd cydweithio’n gryf gyda’r diwydiant:

“Nawr bod rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ffantastig arall wedi dod i ben, gallwn adfyfyrio ar ein llwyddiant enfawr. Rydym yn falch iawn o’n cystadleuwyr. Mae’r llwyddiant hwn yn destament i’r perthnasau cryf rydym wedi’u sefydlu o fewn y diwydiant, gan ddarparu hyfforddiant o lefel uchel i fodloni eu hanghenion cynyddol am weithlu medrus. Dymunwn bob dymuniad da i’r timau o Aston Martin a Safran Seats i’r dyfodol.”

Gyda Chymru ar fin cynnal rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK ym mis Tachwedd, mae PCYDDS yn paratoi i groesawu cystadleuwyr, trefnwyr, ac ymwelwyr i gampws Glannau Abertawe a fydd yn lleoliad allweddol ar gyfer cystadlaethau sgiliau niferus.

 “Mae’r rhan y mae’r brifysgol yn ei chwarae yn y digwyddiad yn destament i’w harweinyddiaeth ym maes datblygu sgiliau a’i hymrwymiad i feithrin cenhedlaeth nesaf ymarferwyr proffesiynol medrus,” meddai Lee.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon