Prosiect Llesiant Arloesol i Fyfyrwyr ar Gampws Caerfyrddin
Mae Aimee Williams, myfyriwr BA Drama Gymhwysol blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi lansio menter llesiant arloesol ar gyfer myfyrwyr ar Gampws Caerfyrddin.

Wedi’i sbarduno gan ei brwdfrydedd dros wella llesiant myfyrwyr, datblygodd a hwyluso âWonderWorldâ yn rhan o’i phrosiect terfynol. Mae’r lle unigryw hwn yn gwahodd myfyrwyr i fyd dychmygol o chwarae rĂ´l a drama, wedi’i ysbrydoli gan Dungeons and Dragons ac yn defnyddio technegau drama gymhwysol megis Drama Proses a Mantell yr Arbenigwr.
Am chwe wythnos, ymgasglodd myfyrwyr yn wythnosol mewn stiwdio ddrama i gychwyn ar anturiaethau dychmygol. Fe wnaethon nhw greu bydoedd, datrys problemau, ac ennill darnau arian gyda’i gilydd wrth fyfyrio ar themâu o WonderWorld a oedd yn cynnig canfyddiadau i’w bywydau go iawn.
Meddai Aimee:
âRwy’n hapus i rannu bod cyfanswm o 16 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan mewn un neu ragor o’r gweithdai hyn. Mynegodd llawer ohonyn nhw fod eu llesiant cyffredinol wedi gwella o ganlyniad, ac roedden nhwân dymuno’n eiddgar bob sesiwn gweithdy ddydd Mawrth. Mae’n bwysig nodi bod rhai myfyrwyr yn ymwybodol o’r gweithdai ond nad oedden nhwân gallu dod oherwydd asesiadau parhaus, gan fod y prosiect wedi dechrau yn ystod y tymor olaf. Nododd y myfyrwyr a gymerodd ran yn y gweithdai effaith gadarnhaol ar eu cyflwr meddyliol ac maen nhw hyd yn oed wedi gofyn i’r gweithdai hyn barhau yn y flwyddyn academaidd nesaf. Rwyf wedi derbyn yr adborth a ges i o bob sesiwn isod.â
Dyma rai o sylwadau’r myfyrwyr ar WonderWorld:
âGweithdy wythnosol sy’n ddibynadwy ac syân teimlo’n gefnogol. Yn cefnogi llesiant drwy wirio sut rydych chi’n gwneud, sydd yn aml yn cael ei anwybyddu ond mae’r gweithdy hwn yn caniatĂĄu i chi fod ar agor. Parth Dim Barnu.â
âDihangfa hwyliog lle galla i fod yn fi fy hun a gwneud cysylltiadau newydd.â
âGallu rhyddhau fy mhlentyn mewnol!â
âDwi’n anghofio am straen fy modwlâ
âMae’n caniatĂĄu i mi gael hoe rhag pryder a straen. Mae’n ffordd o wella gorffwys.â
âFel person sydd â gorbryder, roedd hiân help i mi adael i bethau dynnu fy sylw ac ymlacio. Hefyd, rwyân credu bod yr ymdeimlad o gymuned yn rhoi endorffinau gan eich bod chi am weld pawb yn llwyddo ac mae ganddo âdeimlad pawb ynddi gydaâi gilyddâ felly, mae’r gweithdy hwn yn helpu i beidio â theimlo’n unig, ac rydych chi’n ddiogel i rannu ac ymgolli.â
âMae angen cysylltiad i godi’r emosiynau a’r awyrgylch ac yn y gweithdy hwn roeddwn i’n hoffi nad oes neb ar ei ben ei hun. Mae pawb wedi eu cynnwys. Wrth i ni ddod yn fwy dyfeisgar, rydyn ni’n dod i adnabod ein gilydd yn fwy. Wrth wneud y gweithgareddau hyn rydyn niân cyfathrebu ag eraill a allai fod y tu allan i gylchoedd cymdeithasol ac yn gweld gwahanol safbwyntiau sy’n wych. Mae cysylltiad ac adnabod pobl - mae’n golygu llawer.â
Bydd Aimee yn graddio eleni a bydd yn parhau â’i hastudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant, gan gofrestru ar y cwrs newydd MA Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant. Y cwrs Ă´l-raddedig arloesol hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan gynnig llwyfan i artistiaid newydd ac ymarferwyr sefydledig archwilio effaith gymdeithasol drama a theatr mewn lleoliadau anhraddodiadol.
Dywedodd Ali Franks, Rheolwr y cwrs Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Lles yn Y Drindod Dewi Sant:
âDyfeisiodd Aimee brosiect hynod unigryw yma, sy’n dangos pĹľer theatr gymhwysol i ymgysylltu’n berffaith, gan ein galluogi i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu a chreu cymuned, ac effeithio ar ein hiechyd meddyliol ac emosiynol.â
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen MA Theatr Gymhwysol, e-bostiwch alison.franks@pcydds.ac.uk neu ewch i Raglen Theatr Gymhwysol PCYDDS.
Wrth i Aimee gychwyn ar ei thaith Ă´l-raddedig, mae’n bwriadu parhau â’i gweithdai llesiant wythnosol i gefnogi myfyrwyr. Os ydych chiân fyfyriwr ar Gampws Caerfyrddin ac yr hoffech chi gymryd rhan yn WonderWorld, e-bostiwch alison.franks@pcydds.ac.uk i gysylltu ag Aimee.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
šó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛őąč;07449&˛Ô˛ú˛őąč;998476