Prosiect “Nid Busnes Fel Arfer” yn cyflwyno Adeiladu Cynaliadwy i Fyfyrwyr
Yn rhan o’r fenter “Nid Busnes Fel Arfer” a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, cyflwynwyd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i ddyfodol adeiladu cynaliadwy mewn profiad diddorol, ymarferol ar gampws Glannau SA1 y Brifysgol. Yn y digwyddiad, cafodd myfyrwyr eu trochi mewn ymarferion ymarferol gyda defnyddiau ecogyfeillgar, fel pren a a gafwyd yn lleol ac inswleiddio cynaliadwy, gan ddangos sut y gall yr adnoddau hyn fod ar flaen y gad wrth greu diwydiant adeiladu sero-net.

Trwy arddangosiadau gweithredol, cafodd dysgwyr fewnwelediad i’r arferion gorau o ran gosod y defnyddiau hyn a gwnaethant archwilio eu rôl wrth leihau ôl-troed amgylcheddol adeiladau.
Nod y prosiect “Nid Busnes Fel Arfer”, a gynlluniwyd ar y cyd â Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) ac Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yw ysbrydoli adeiladwyr, penseiri a gweithwyr proffesiynol y diwydiant i fod yn ymwybodol o’r amgylchedd. Mae’r prosiect yn darparu sylfaen o sgiliau a gwybodaeth sy’n paratoi myfyrwyr i arwain y diwydiant adeiladu tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Esboniodd Gareth Evans, Pennaeth CWIC, ddiben y fenter: “Mae cynnal digwyddiad sy’n cyflwyno myfyrwyr i ddefnyddiau adeiladu cynaliadwy trwy ddysgu ymarferol, yn fuddsoddiad yn nyfodol ein diwydiant a’n planed. Trwy roi profiad uniongyrchol i fyfyrwyr o ddefnyddiau a thechnegau adeiladu ecogyfeillgar, rydym yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd u arloesi’n gyfrifol, gan flaenoriaethu cynaliadwyedd, a chyfrannu at fyd lle bydd adeiladu’n bodloni anghenion yr oes sydd ohoni heb beryglu adnoddau’r dyfodol.”
Meddai Jane Lewis, Rheolwr Partneriaeth y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol: “Mae datblygu gweithlu’r dyfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu mor bwysig, ac mae prosiectau fel hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu sut bydd ein cartrefi a’n hadeiladau yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol, gan ddefnyddio defnyddiau cynaliadwy a thechnoleg arloesol. Mae rhaglen Sgiliau a Thalent y Fargen Ddinesig wedi cefnogi nifer o brosiectau a fydd yn cynnig cyfle i unigolion o bob oed ddeall sut bydd gweithlu’r dyfodol yn edrych a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i fodloni ein targedau sero net. Llongyfarchiadau i chi gyd a gobeithiwn barhau â’n gwaith partneriaeth i’r dyfodol.”
Gan gydnabod “Nad yw’n gallu bod yn Fusnes fel Arfer!” o ran adeiladu, mae’r prosiect yn tanlinellu’r angen i ddiwydiannau fabwysiadu arferion sy’n gyfrifol yn amgylcheddol.
Gyda chyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae CWIC a PCYDDS yn cynnig hyfforddiant arbenigol i ddyfnhau dealltwriaeth cyfranogion o adeiladu cynaliadwy mewn ardaloedd ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro.
ڲɲԳپ’r&Բ;ڴڴǰ徱Գ
Wedi’i ddatblygu gan Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd PCYDDS, mae’r sesiynau hyfforddi yn cwmpasu’r prif bynciau a ganlyn:
• Draeniad trefol cynaliadwy a hydroleg dalgylch
• Dylunio amlen adeiladau
• Dulliau Adeiladu Modern
• Dylunio solar goddefol
• Ffiseg a pherfformiad adeiladau
• Gwres adnewyddadwy ac awyriad mecanyddol
• Defnyddiau adeiladu cynaliadwy
• System Gwybodaeth Ddaearegol
• Systemau amgylcheddol ar gyfer arolygu adeiladu
• Offer digidol arloesol yn yr amgylchedd adeiledig
Mae’r sesiynau ar agor i gynulleidfa eang, gan gynnwys crefftwyr y diwydiant, gweithwyr proffesiynol adeiladu, myfyrwyr adeiladu, myfyrwyr Safon Uwch, unigolion nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (NEET), a grwpiau cymunedol. Gall y sawl sy’n cymryd rhan fynychu cymaint o’r sesiynau hy ag y mynnant.
I ddysgu rhagor am hyfforddiant a sesiynau sydd ar ddod, cysylltwch â Julie Evans yn julie.evans@uwtsd.ac.uk.

Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071