Stacey Poultney o PCYDDS yn arddangos ei waith yn Arddangosfa Chwythu Gwydr Arloesol yn Llundain
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi bod Stacey Poultney, artist ac ymarferydd gwydr o fri sydd wedi’i leoli yng Ngholeg Celf Abertawe, wedi cael ei ddewis i arddangos ei waith ym Mirage: Glass in the 4th Dimension, arddangosfa neilltuol a gyflwynir gan London Glassblowing mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Gwydr Cyfoes (CGS).

Mae Mirage a gynhelir rhwng Mehefin 6 a 29, 2025, yn dod â gwaith 70 o aelodau CGS eithriadol o’r DU ynghyd, ochr yn ochr ag artistiaid gwydr enwog sy’n cynnwys Peter Layton, Tim Rawlooinson, Layne Rowe a Katherine Coleman MBE. Mae’r arddangosfa hon sy’n cael ei beirniadu, yn archwilio’r rhithweliadau optegol sy’n bosibl ym maes gwydr cyfoes, sut mae’n plygu golau, ac yn chwarae gyda ffurf i newid ein canfyddiadau a denu’r llygad.
“Po fwyaf rwy’n gweld yr hyn y mae pobl yn ei wneud gyda gwydr, y mwyaf anhygoel rwy’n ei ganfod,” meddai Will Budgett, Cynorthwyydd Galeri yn London Glassblowing a’r meddwl creadigol y tu ôl i thema’r arddangosfa. “Gall gwydr eich twyllo a’ch swyno, y plygiannau, yr adlewyrchiadau a’r rhithwelediadau sy’n denu pobl iddo. Gall artistiaid sy’n canolbwyntio ar y nodweddion hudol hyn greu rhywbeth gwirioneddol drawiadol.”
Mae Stacey Poultney yn ymuno â’r grŵp mawreddog hwn o artistiaid, sydd hefyd yn cynnwys graddedigion diweddar BA Crefftau Dylunio, Nancy Farrington a Bethan Yates, gyda gwaith sy’n enghraifft o feistrolaeth dechnegol ac arloesedd cysyniadol. Mae Stacey sydd wedi’i leoli ym Mhort Talbot, yn dod â dros 15 mlynedd o brofiad o fod yn ymarferwr ac addysgwr ym maes addysg uwch. Mae ei bortffolio yn cynnwys cyfraniadau at safleoedd treftadaeth y byd, amgueddfeydd cenedlaethol a mannau pensaernïol cysegredig a chyfoes.
Er bod ei wreiddiau mewn gwydr lliw a phensaernïol, mae arfer cyfredol Stacey wedi’i wreiddio mewn gwaith gwydr tri dimensiwn, gyda ffocws penodol ar integreiddio deunyddiau diwydiannol, awtomeiddio a symudiad. Mae ei weithiau diweddar yn archwiliadau beiddgar o raddfa a rhyngweithio, gosodiadau sy’n trawsnewid wrth i’r gwyliwr symud, gan bylu’r ffin rhwng celf disymud a phrofiad cinetig.
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn PCYDDS: “Mae’r detholiad hwn ar gyfer Mirage yn gerrig filltir bwysig i Stacey ac yn dyst i’r lefel uchel o dalent a feithrinir yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS. Yn ogystal, mae’n tanlinellu ymrwymiad ehangach y brifysgol i arloesi yn y celfyddydau a’i chefnogaeth i artistiaid sy’n herio cyfyngiadau eu cyfrwng.”
Cynhelir arddangosfa Mirage yn London Glassblowing, 62-66 Stryd Bermondsey, Llundain, SE1 3UD. Mae ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn o 10am i 5pm a dydd Sul o 11am i 5pm.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071