Ҵý

Skip page header and navigation

Bydd Susan Seidelman, Cyfarwyddwraig, yn ymuno â myfyrwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, a chefnogwyr yng nghynhadledd academaidd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) sydd ar ddod i ddathlu Desperately Seeking Susan a chyfeillgarwch benywaidd ar y sgrin. Ar y 10fed a’r 11eg Ebrill, 20205, yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, bydd y digwyddiad yn nodi 40 mlynedd ers rhyddhau’r ffilm eiconig. 

a cartoon image of the iconic Desperately Seeking Susan logo

Bydd Seidelman, oedd wrth lyw ffilm arloesol 1985, yn ymuno ar-lein gan gyflwyno’r ffilm a chymryd rhan mewn sesiwn Cwestiwn ac Ateb wedi’i recordio ymlaen llaw, gan gynnig mewnwelediadau i’w heffaith ddiwylliannol barhaus. Bydd y gynhadledd yn archwilio themâu cameraderie benywaidd a hunan-ddarganfyddiad, nid yn unig yn Desperately Seeking Susan, ond ar draws tirlun ffilm a theledu yn ehangach – thema sy’n cael ei esgeuluso’n aml.

Er bod cyfeillgarwch gwrywaidd wedi’i ddathlu mewn ffilm ers blynyddoedd – p’un a yw hynny trwy ffilmiau bydi llawn antur neu “bramantau” – mae naratifau sinematig sy’n canolbwyntio ar gyfeillgarwch benywaidd yn parhau’n gymharol brin. Fel y nododd Dr. Yvonne Tasker yn 2012, nid yw dyfnder emosiynol a chymhlethdod cyfeillgarwch menywod wedi’u harchwilio mor eang â’u cymheiriaid gwrywaidd.

Ceisia’r gynhadledd hon fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwnnw, gan ddefnyddio Desperately Seeking Susan yn sbardun ar gyfer trafodaeth ehangach ynglŷn â sut caiff camaraderie ac ailddyfeisio eu darlunio ar y sgrin.

Meddai trefnydd y gynhadledd, Becky Ellis: “Mae’n bleser gen i ddod â chynhadledd ar gyfeillgarwch benywaidd ar y sgrin i Abertawe, gyda dathliad 40 mlwyddiant Desperately Seeking Susan yn rheswm perffaith i ddathlu crewyr, straeon a camaraderie benywaidd. Er bod ‘bramant’ yn bodoli fel trosiad naratif cyffredin, anaml y mae cyfeillgarwch benywaidd yn cael ei ddathlu yn sinematig. Bydd y gynhadledd hon yn archwilio a dathlu cyfeillgarwch benywaidd ar y sgrin gan ystod gyffrous o siaradwyr, gan gynnwys y gyfarwyddwraig ei hun.”

Bydd Susan Seidelman, sy’n enwog am ei hymagwedd unigryw at naratifau sy’n canolbwyntio ar fenywod (Sex and the City, She-Devil), yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i sut y cafodd y ffilm ei chreu a’i heffaith ddiwylliannol barhaus. Gan adfyfyrio ar Desperately Seeking Susan, meddai:

 “Pan wnes i Desperately Seeking Susan yn ôl yn 1984, yr hyn â’m denodd yn wreiddiol at y prosiect oedd thema ailddyfeisio a grym trawsnewidiol cyfeillgarwch benywaidd. Ond nid dim ond ar gellwloid roedd hynny’n digwydd – roedd yn digwydd tu ôl i’r llen hefyd. Roedd gan y ffilm ddau gynhyrchydd benywaidd, sgriptiwr ffilmiau benywaidd, dau brif gymeriad benywaidd, a fi, cyfarwyddwr benywaidd. Roedd hyd yn oed swyddog gweithredol Orion a roddodd ‘olau gwyrdd’ i ni yn fenyw. Roedd cael cynhyrchiad dan arweiniad menywod fel hyn yn radical bryd hynny.

 “Mae’r ffilm yn herio syniadau traddodiadol am fenywdod trwy daith Roberta. Mae hi’n wraig tŷ gonfensiynol, yn anesmwyth yn ei bywyd beunyddiol, nes iddi gamu i fyd llawn ysbryd rhydd Susan. Nid dim ond edmygedd yw ei chwilfrydedd tuag at Susan – y mae hefyd yn sbarduno ei thrawsnewidiad ei hun. Wrth ei wraidd, mae Desperately Seeking Susan yn amlygu sut mae menywod yn aml yn ffeindio eu hunain trwy ei gilydd.”

Uchafbwyntiau a Phrif Banelau’r Gynhadledd

Bydd y digwyddiad deuddydd yn cynnwys casgliad deinamig o siaradwyr, trafodaethau panel diddorol, a dadansoddiad dwfn o gyfeillgarwch benywaidd mewn ffilm a theledu.

Panel 1: Material Girls – Gal Pals on Screen

 (Wedi’i Gadeirio gan Hilary Jaques)

Desperately Seeking Better Friends: Astudiaethau achos o gyfeillgarwch menywod ‘gwael’ yn Valley Girl (1983)

Female Friendship and Solidarity on Wall StreetThe Associate (1997) a Working Girl (1988)

• ‘Maybe we could be each other’s soulmates,’ or maybe… not: Cyfeillgarwch a chwympo mas yn Sex and the City ac And Just Like That

Not so Pretty in PinkFemale friendship in the rom-com – Astudiaeth agos o Bridesmaids (2011)

Panel 2: Beautiful Stranger – Framing Oppositions

 (Wedi’i Gadeirio gan Becky Ellis)

Desperately Seeking SauronMale vs. female friendships in Desperately Seeking Susan and The Lord of the Rings trilogy

The Attraction of Opposites: Cyfeillgarwch Benywaidd yn Gentlemen Prefer Blondes

Panel 3: Who’s That Girl – Star Images

 (Wedi’i Gadeirio gan Jenny Stewart)

Blurred Lines: Into the Groove in Desperately Seeking Susan

Ladies We Talk About: Cyfeillgarwch Benywaidd yn rolau ‘pre-code’ Barbara Stanwyck

Express Yourself: Making Stories about Women – A Filmmaker’s Perspective

 (Wedi’i Gadeirio gan Becky Ellis)

Women Talking and You Are Listening: Proses gwneud Victoria (2024) – J Sivaranjini (AR-LEIN)

Os hoffech fynychu’r digwyddiad, 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon