Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Katie Day, gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes hyfforddi a datblygu, wedi cwblhau MA mewn Arfer Proffesiynol yn llwyddiannus o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r cyflawniad academaidd hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn ei gyrfa, gan adlewyrchu ei hymroddiad i dwf personol a’i hymrwymiad i hyrwyddo ei maes. 

An image of Katie Day

Yn ôl Katie fe wnaeth y rhaglen, dan y Fframwaith Arfer Proffesiynol, ei galluogi i archwilio sut mae ei phrofiad o ddechrau busnes a chaffael sgiliau newydd, wedi siapio ei hymagwedd at hyfforddiant. Meddai: 

“Fe wnaeth y cwrs ganiatáu i mi gydnabod dyfnder y wybodaeth rwyf wedi’i hennill dros y blynyddoedd, rhywbeth roeddwn i bob amser wedi’i chymryd yn ganiataol.” 

Mae hyn wedi ei galluogi i rannu ei phrofiadau gyda’r menywod y mae’n gweithio gyda nhw, yn enwedig yng nghyd-destun y cyfnod ôl-menopos, gan amlygu’r posibiliadau y gall y cyfnod hwn mewn bywyd eu cynnig.

Mae hwn wedi ei grymuso a’i hannog i rannu’r daith MA gyda’r menywod mae’n gweithio gyda nhw, gan ddangos yn glir bod bywyd ar ôl y menopos yn cynnig  cyfoeth o bosibiliadau a chyfleoedd.

Yn ôl Katie mae’r MA wedi gwella ei statws fel arbenigwr ym maes hyfforddiant menopos, maes y mae wedi ymroi iddo ers blynyddoedd lawer.  Ychwanega: 

“Mae meddu ar y radd Meistr yn helpu sicrhau fy lle ymhlith ‘arbenigwyr’ yn y maes ac yn gymorth i mi o ran derbyn cydnabyddiaeth, ymddiriedaeth a hyder gan eraill.” 

Gwnaeth y cwrs hefyd ysgogi Katie i ailasesu ei dulliau hyfforddi, gan ganiatáu iddi wneud addasiadau sydd o fudd i’w chleientiaid a hi ei hun. Er gwaethaf dros 30 mlynedd o brofiad yn darparu hyfforddiant, canfu Katie fod y cwrs yn darparu cyfleoedd newydd ar gyfer twf a datblygiad. 

“Mae cwblhau’r MA wedi dangos i mi, pan fyddaf yn canolbwyntio ac yn rhoi fy meddwl ar rywbeth, nad oes fawr ddim nad ydw i’n gallu’i gyflawni, ac mae hynny’n wir am unrhyw un arall hefyd. Roedd yn garreg filltir enfawr i mi’n bersonol ac yn profi fod llu o gyfleoedd ar gael i fenywod ar ôl y menopos, os ydynt yn dymuno bachu arnynt ac ymchwilio pa rai sy’n gweddu orau iddyn nhw.”

Roedd rhedeg ei busnes ei hun yn cyflwyno heriau a chyfleoedd unigryw drwy gydol y cwrs. 

Ychwanegodd Katie:

“Roedd yr effaith ar fy ngwaith yn sylweddol. Roedd cydbwyso gofynion y cwrs â’m cyfrifoldebau busnes yn heriol, ond roedd hefyd yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr yr wyf wedi’u hymgorffori yn fy sesiynau hyfforddi.”

Dywedodd Katie ei bod wedi darganfod sgiliau newydd trwy’r cwrs, yn enwedig ym maes ymchwil, rheoli amser, ac ysgrifennu academaidd.  

“Roedd ymestyn fy ngallu meddyliol i ysgrifennu ar safon academaidd Lefel 7 yn brofiad newydd a heriol. Fodd bynnag, roedd yn rhoi boddhad eithriadol i ddatblygu’r ffordd newydd hon o feddwl ac ysgrifennu,” meddai.

Lluniwyd yr MA i fodloni anghenion Katie o fewn ei gweithle.

“Roedd rhedeg fy musnes fy hun yn golygu nad oedd yn rhaid i mi ymgynghori â rhywun arall o ran trefnu amser i gwblhau gofynion y radd. Fy nghyfrifoldeb i oedd jyglo a rheoli fy amser a gofynion y busnes.”  

Fe wnaeth yr hyblygrwydd hwn, ynghyd â chefnogaeth ei phartner busnes, ganiatáu i Katie reoli ei hamser yn llwyddiannus a chwblhau ei gradd.

Mae Katie’n disgrifio’r MA mewn Arfer Proffesiynol fel profiad a newidiodd ei bywyd.  

“Roedd yn anodd. Mae i fod yn anodd: mae’n radd MA. Fodd bynnag, roedd yr ymdeimlad o gyflawniad yn enfawr. Mae’n cynrychioli cyfle i herio’ch hun, gyda chefnogaeth anhygoel y Brifysgol a phawb o’i mewn. Dydyn ni byth wir yn gwybod beth gallwn ei gyflawni oni bai ein bod yn rhoi cynnig arni.”

“Tra’r oedd adegau pan oeddwn i’n amau a allwn barhau a chwblhau’r radd, rydw i mor falch fy mod wedi dal ati a goresgyn yr amheuon hynny.  Rydw i wrth fy modd i wybod bod gen i radd MA (gyda Rhagoriaeth!), gan fod hyn yn rhywbeth roeddwn i, ar ddechrau’r daith, yn amau fy mod yn gallu ei wneud.”

Mae Katie’n mynegi ei diolchgarwch dwfn i dîm cyfan y Fframwaith Arfer Proffesiynol yn y Drindod Dewi Sant am eu cefnogaeth yn ystod ei hastudiaethau. 

“Roedd astudio am yr MA yn y Drindod Dewi Sant fel bod yn rhan o deulu mawr lle roedd pob aelod yn gefn i chi ac yn eich cefnogi i lwyddo. Teimlwn bob amser fy mod yn cael fy nghlywed a’m cefnogi gan bawb, o fy nhiwtoriaid anhygoel i’r holl staff gweinyddol a’r bobl yn y llyfrgell. Roedd adegau pan oeddwn i’n teimlo mai fi oedd yr unig fyfyriwr, cymaint oedd y sylw a’r gefnogaeth roeddwn i’n eu derbyn.”

Meddai Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd yn nhîm y Fframwaith Arfer Proffesiynol yn y Drindod Dewi Sant: 

“Mae taith Katie trwy’r MA mewn Arfer Proffesiynol wedi bod yn ddim byd llai nag ysbrydoliaeth. Mae ei gallu i gydbwyso gofynion ei busnes, tra’n rhagori yn ei hastudiaethau, yn dyst i’w phenderfyniad a’i hangerdd am dwf personol a phroffesiynol. Mae ymrwymiad Katie i ehangu ei harbenigedd, yn enwedig ym maes hyfforddiant menopos, yn eithriadol o werthfawr, ac rydym yn falch o fod yn rhan o’i thaith.”

Meddai Lowri Harris, Uwch Ddarlithydd yn nhîm y Fframwaith Arfer Proffesiynol:

“Mae cyflawniadau Katie yn adlewyrchu natur drawsnewidiol y Fframwaith Arfer Proffesiynol. Mae ei gwaith o fewn ei busnes a’i hymroddiad i wella ei sgiliau nid yn unig wedi cyfoethogi ei harfer proffesiynol, ond hefyd y cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Mae wedi bod yn fraint i gefnogi Katie drwy gydol ei MA, ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith bositif y bydd ei harbenigedd yn parhau i’w chael yn ei maes.”

Mae Katie’n edrych ymlaen at barhau â’i thaith academaidd gyda Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf) yn y Drindod Dewi Sant.  Mae ei phrosiect ymchwil eisoes wedi dylanwadu ar ei gwaith, gan arwain at gyrsiau newydd fel “The Menopause Mind” a meithrin cysylltiadau ag arbenigwyr meddygol. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau