Ymchwilydd Doethurol Y Drindod Dewi Sant yn Archwilio Rôl Adweitheg wrth Drawsnewid Ffrwythlondeb a Gofal Atgenhedlol
Mae Barbara Scott, myfyrwraig Doethuriaeth mewn Ymarfer Proffesiynol (DProf) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn cynnal ymchwil i archwilio manteision posibl adweitheg i gleifion sy’n wynebu heriau ffrwythlondeb a phroblemau iechyd atgenhedlu.

A’r galw’n cynyddu am adweitheg a hynny heb fod ymchwil digonol yn y maes hwn, nod gwaith Barbara yw sefydlu sylfaen dystiolaeth i wneud y therapi integreiddiol hwn yn fwy hygyrch a sicrhau cydnabyddiaeth ehangach iddo mewn cylchoedd meddygol.
Mae ymchwil Barbara yn defnyddio dulliau cymysg i asesu effeithiau corfforol a seicogymdeithasol adweitheg ar iechyd atgenhedlu. Bydd cleifion yn cwblhau holiadur safon diwydiant cyn ac ar ôl cyfres o sesiynau adweitheg, ac wedyn cynhelir cyfweliadau manwl i gasglu canfyddiadau personol ar effaith adweitheg.
Meddai:
“Pwrpas a chymhelliant yr ymchwil yw sicrhau bod adweitheg ar gael yn ehangach, addysgu cleifion a rhanddeiliaid ynghylch y defnydd arni a darparu’r sylfaen ar gyfer ymchwil pellach yn y maes hwn. Os bydd yr ymchwil, fel rwy’n ei ddisgwyl, yn nodi budd clir o ddefnyddio adweitheg yn yr arbenigedd hwn, mae ganddo’r gallu i ddarparu math cost-effeithiol o driniaeth sydd â llawer o fanteision sy’n mynd y tu hwnt i’r unigolyn.”
Ffocws Barbara yw archwilio effeithiolrwydd adweitheg ar gyfer cleifion sy’n delio â heriau ffrwythlondeb a materion iechyd atgenhedlu. Er gwaethaf ei phoblogrwydd cynyddol, nid oes digon o waith ymchwil yn y maes hwn i ategu adweitheg. Nod Barbara yw darparu tystiolaeth ar fuddion posibl y dull er mwyn ei wneud yn fwy hygyrch, yn enwedig i gleifion sy’n ariannu triniaethau yn breifat. Meddai:
“Y cymhelliant dros gynnal yr ymchwil penodol hwn yw darparu addysg a dylanwadu ar randdeiliaid a allai ganiatáu i hyn fod ar gael yn ehangach i’r rhai nad oes ganddyn nhw fynediad at adweitheg ar hyn o bryd yn fath o gymorth ond a allai hoffi ei gynnwys yn rhan o’u protocol triniaeth.”
Mae hi eisoes wedi defnyddio rhai o’r darnau llai o ymchwil a wnaed yn rhan o’r modylau Rhan 1 i ddechrau eu cyflwyno i gynadleddau. Mae hi wedi cydweithio ar bapurau academaidd eraill ac wedi cyflwyno crynodebau i gynadleddau yn seiliedig ar y gwaith y mae hi wedi bod yn ei wneud yn rhan o’i DProf. Meddai Barbara:
“Mae hyn wedi cynyddu fy mhroffil academaidd yn y gymuned adweitheg a’r gymuned feddygol. Mae hyn yn amhrisiadwy gan fod y dull hwn wedi’i gynllunio i fod yn waith integreiddiol sy’n golygu bod modd i feddygaeth ac adweitheg ddarparu dull sy’n canolbwyntio ar y claf.”
Dechreuodd taith Barbara i’r Drindod Dewi Sant yn annisgwyl pan awgrymodd aelod o dîm gweinyddu’r DProf, a oedd yn fyfyriwr yng Nghaerfyrddin, lwybr doethuriaeth yn hytrach na gradd meistr. Meddai:
“Ces i gynnig trafodaeth gyda chyfarwyddwr y cwrs ar ôl anfon fy hanes academaidd a’m proffil a ches i fy nerbyn ar y rhaglen! Roeddwn i wrth fy modd o gael cyfle i wneud ymchwil yn fy maes proffesiynol.”
Mae’n canmol awyrgylch cynhwysol Y Drindod Dewi Sant, lle mae darlithwyr yn darparu cymorth a chymhelliant hanfodol, gan alluogi myfyrwyr i ymchwilio’n ddwfn i’w meysydd. A hithau wedi ei gosod gyda goruchwylwyr ymroddedig, mae Barbara yn gwerthfawrogi eu brwdfrydedd, gan ddweud:
“Mae’r darlithwyr i gyd ar bob modwl nid yn unig wedi bod yn gefnogol ond hefyd yn galonogol ac yn ysgogol. Maen nhw i gyd wedi helpu i’n galluogi ni i archwilio sut y bydd dulliau penodol naill ai’n cefnogi neu’n dylanwadu ar yr ymchwil rydyn ni’n ei gynnal. Maen nhw ar gael am drafodaeth ac arweiniad pan fyddwn ni’n mynd i rigol, fel y mae pawb yn ei wneud o bryd i’w gilydd. Mae dau oruchwyliwr rhagorol wedi eu penodi arna i sydd yr un mor frwdfrydig am fy ymchwil i ag ydw i. Mae hyn yn gwneud y sesiynau goruchwylio’n bleserus, yn ysgogol ac yn addysgiadol.”
Mae penwythnosau preswyl D Prof a gynhaliwyd ar Gampws Llambed hefyd wedi ei helpu hi i deimlo’n rhan o gymuned academaidd ehangach, gan ganiatáu iddi rannu canfyddiadau a mireinio ei dull ymchwil. Ychwanegodd:
“Mae cael rhannu syniadau a meddyliau fel hyn yn dylanwadu ar eich meddwl chi ac yn miniogi eich ymchwil eich hun.”
Mae’r rhaglen DProf wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo gyrfa Barbara, gan ganiatáu iddi gyflwyno ymchwil rhagarweiniol mewn cynadleddau a chydweithio ar bapurau academaidd. Mae hyn, yn ei dro, wedi gwella ei phroffil yn yr adweitheg a’r cymunedau meddygol, gan helpu i integreiddio adweitheg i arferion iechyd prif ffrwd.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476