Artistiaid gwadd yn dod â “Lliw Gwyllt” i Goleg Celf Abertawe
Bydd Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) yn croesawu dau wneuthurwr crefftau talentog ar gyfer preswyliad yn rhan o brosiect Hwb Crefftau mewn partneriaeth â’r Brifysgol.

Dros gyfnod o ddwy wythnos, o’r 13eg Chwefror, bydd y gwneuthurwyr gwadd yn gweithio yn y stiwdios Dylunio Patrwm Arwyneb a Thecstilau i archwilio’r thema “Lliw Gwyllt” ac adeiladu ar eu gwybodaeth bresennol o lifo naturiol ac argraffu.
Bydd Karen Modeo, sy’n gweithio yn Matera, Yr Eidal, a Chloe Scadding, sy’n gweithio yn Sir Benfro, Cymru, yn dod ag arbenigedd yn y defnydd o ddefnyddiau cynaliadwy i ychwanegu lliw i decstilau. Yn ystod y preswyliad bydd ganddynt amser pwrpasol yn y stiwdio i arbrofi gyda defnyddiau a phrosesau newydd.
Bydd Karen a Chloe yn creu cyfres o samplau o ddefnydd i’w cynnwys yn ’Llyfrgell Defnyddiau’r Hwb Crefftau, yn ogystal â chyflwyno gweithdai i staff a myfyrwyr a fydd yn gyfle gwych i weithio gydag artistiaid proffil uchel sy’n gweithio’n rhyngwladol. Bydd myfyrwyr yn elwa o’u harbenigedd technegol yn ogystal â gwybodaeth ddiwydiannol am bynciau fel sut i sefydlu a chynnal arfer creadigol ffyniannus.
Meddai Catherine Hammerton, Darlithydd Dylunio Patrwm Arwyneb yn Y Drindod Dewi Sant: “Yn genhedlaeth o economyddion cylchol sy’n ymrwymo i wneud gwell dewisiadau o ran dylunio nad ydynt yn costio ffortiwn, mae ein myfyrwyr yn ddylunwyr angerddol sy’n awyddus i ddysgu am brosesau print a lliwio anghemegol sy’n deillio o wastraff bwyd lleol.
“Mae hwn yn gyfle dysgu gwych i ymestyn eu repertoire technegol a chael gwell dealltwriaeth o’r hyn y gallai preswyliad ei olygu i’w huchelgeisiau eu hunain ar gyfer eu gyrfaoedd, ac rydym yn ddiolchgar i’r prosiect Hwb Crefftau am hwyluso hyn.”

Am yr Hwb Crefftau
Mae’r Drindod Dewi Sant wedi llunio partneriaeth gyda’r Hwb Crefftau, sy’n brosiect Ewropeaidd a ariennir ar y cyd â Rhaglen Ewrop Creadigol. Mae’n ffocysu ar Grefft yng nghyd-destun treftadaeth ddiwylliannol a’i pherthnasedd parhaus ym maes arfer cyfoes.
Ymhlith gweithgareddau’r prosiect mae ymchwilio a dogfennu sgiliau a phrosesau crefft, y gwahanol ffyrdd o’u cymhwyso mewn arfer creadigol ar draws Ewrop a chwestiynau ynghylch penodoldeb diwylliannol a chymhelliant unigol ymarferwyr.
Hyd yma, mae’r prosiect Hwb Crefftau wedi cefnogi creu ac arbrofi trwy 42 o breswyliadau rhyngwladol, 305 o weithdai, creu llyfrgell defnyddiau, 1 gŵyl, 7 arddangosfa a 2 gynhadledd.
Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr cyrsiau cysylltiedig â Chelf, ac fe’i barnwyd yn 1af yng Nghymru mewn pedwar o bynciau Celf, 4ydd yn y DU am Ffilm a Ffotograffiaeth, 8fe yn y DU am Ddylunio Cynnyrch, a 10fed yn y DU am Ddylunio Graffeg.

Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: ella.staden@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384467078