Ҵý

Skip page header and navigation

Aeth grŵp o 25 o staff a myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i Tsieina ar 22 Mehefin 2025 ar gyfer taith gyfnewid ddiwylliannol ac addysgol a gynhaliwyd gan Brifysgol Beijing Union (BUU), partner hirsefydlog Athrofa Confucius PCYDDS. 

Staff and students from UWTSD on their trip to China

Mae’r garfan o fyfyrwyr yn cynnwys dysgwyr israddedig ac ôl-raddedig o ystod eang o ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys celf, archeoleg a hanes yr hen fyd, athroniaeth, ysgrifennu creadigol, gastronomi a busnes.  Mae’r ymweliad yn rhoi cyfle unigryw iddynt ehangu eu gorwelion a chael cipolwg dyfnach i ddiwydiant, treftadaeth, a bywyd academaidd Tsieina. 

Mae’r ymweliad hwn o ganlyniad i’r bartneriaeth gref rhwng PCYDDS a BUU sy’n tyfu, ac sy’n adlewyrchu ymrwymiad y ddau sefydliad i gyflawni profiadau rhyngwladol trawsffurfiol.  Roedd llawer o’r myfyrwyr wedi mynegi diddordeb mewn datblygu dealltwriaeth fwy manwl o Tsieina a gobeithio y bydd hyn yn llywio eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Darparwyd y cyllid ar gyfer yr ymweliad yn hael iawn gan Athrofa Confucius, mewn cydweithrediad â rhaglen Taith Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi cyfleoedd taith gyfnewid i fyfyrwyr a staff ar draws Cymru. 

Mae’r daith yn cynnwys cymysgedd cyfoethog o weithgareddau diwylliannol ac academaidd, gan gynnwys ymweliadau i safleoedd nodedig megis y Ddinas Waharddedig, Ardal Celf 789, ac Amgueddfa Archeolegol Tsieina.  Yn ogystal, mae BUU wedi creu gweithdai pwrpasol i’r grŵp, gan gynnwys sesiynau ymarferol yn labordy archeoleg y brifysgol ac Amgueddfa Cerameg Beijing, lle bydd myfyrwyr yn dysgu’r grefft draddodiadol o dorri seliau, techneg gerfio stampiau cerrig a ddefnyddir mewn celf a dogfennaeth swyddogol sy’n dyddio’n  ôl dros gannoedd o flynyddoedd

Yn ogystal â chyfoethogi profiad academaidd y myfyrwyr, mae’r ymweliad yn darparu staff PCYDDS â’r cyfle i gychwyn prosiectau cydweithredol newydd gyda cholegau celf, twristiaeth a lletygarwch BUU. 

 Nod yw mentrau hyn yw dyfnhau cyfnewidiadau creadigol ac addysgol rhwng y ddwy brifysgol..

Meddai Krystyna Krajewska, Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Confucius PCYDDS:

“Mae’r ymweliad hwn yn esiampl wych o sut y dylai addysg ryngwladol fod – ymdrochol, ysbrydol ac wedi’i gwreiddio mewn cydweithrediad ystyrlon. Rydym yn falch i weithio gyda BUU i gynnig rhaglen mor gyfoethog ac amrywiol i’n myfyrwyr.  Dyma’r tro cyntaf i lawer o’n myfyrwyr fod yn Tsieina, ac rydym yn gobeithio y bydd gan y profiad effaith barhaol ar eu twf academaidd a phersonol.”

Ychwanegodd Kath Griffiths o dîm Go Global PCYDDS: 

“ Yn PCYDDS, rydym yn credu bod y dysgu mwyaf gwerthfawr yn aml yn digwydd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.  Mae’r daith hon i Tsieina yn rhoi’r cyfle i’n myfyrwyr a’n staff brofi diwylliant gwahanol yn uniongyrchol, adeiladu cyfeillgarwch rhyngwladol, a gweld y byd – a’u lle ynddo – o bersbectif newydd.  Rydym yn falch i gefnogi cyfleoedd fel hyn sy’n lledaenu gorwelion ac yn ysbrydoli dinasyddiaeth fyd-eang.”

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch k.krajewska@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon