Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Lucy Davies, a raddiodd yn ddiweddar o gwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) eisoes yn ennill ei lle trwy gyfuno ei chariad at chwaraeon eithafol â’i llygad creadigol.

Person yn dringo clogwyn yn hongian dros y môr

Daeth Lucy i’r Drindod Dewi Sant ar gyfer ei chwrs gwneud ffilmiau antur unigryw a oedd yn cydweddu’n berffaith â’i brwdfrydedd am antur ac adrodd straeon. 

A hithau’n wedi tyfu i fyny yn ardal arfordirol Gŵyr, Abertawe, mae Lucy bob amser wedi cael ei denu at chwaraeon antur fel syrffio a dringo creigiau, a daeth ffotograffiaeth yn ffordd naturiol o gipio’r profiadau hynny.  

Roedd cwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur y Drindod Dewi Sant yn un o’r ychydig o’i fath a oedd yn cyd-fynd â’i llwybr gyrfa ddymunol, ac roedd lleoliad y campws yn cynnig amgylchedd delfrydol a phosibiliadau diddiwedd.

Person mewn siwt wlyb yn gwenu ac yn cerdded ar draeth tra'n dal camera

Meddai Lucy:

“Roedd Y Drindod Dewi Sant yn cynnig yr unig gwrs creu ffilmiau antur y gallwn ddod o hyd iddo. Mae campws Caerfyrddin, sydd wedi’i leoli rhwng Gŵyr a Sir Benfro, yn berffaith i rywun sy’n astudio gradd gwneud ffilmiau antur. Mae cymaint i’w gynnig ar gyfer pobl sy’n caru cyffro neu ffotograffwyr bywyd gwyllt.  

Mae gan y campws gyfleusterau gwych sy’n gysylltiedig â’r cwrs hwn, fel labordai Mac, ystafelloedd golygu, yn ogystal ag ystafell drochi. Mae hefyd drws nesaf i bencadlys S4C sy’n darparu ystod eang o gyfleoedd.”

Yn ystod ei hamser ar y cwrs, ffynnai Lucy ar y profiadau deinamig, ymarferol a aeth â hi ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. O alldeithiau megis campau dringo yn Sbaen i ffilmio ar arfordir Cymru gyda myfyrwyr o raglen Addysg Antur Awyr Agored y Drindod Dewi Sant, dysgodd gyfuno ei chariad at yr awyr agored â’r sgiliau technegol sydd eu hangen i’w ddal ar gamera.   

A hithau bellach yn wneuthurwr ffilmiau llawrydd, mae Lucy yn creu gyrfa cyffroes, yn gwneud rhaglenni dogfen ar gyfer gwarchodfa natur ac wedi cwblhau ffilm ddringo yn ddiweddar. Ochr yn ochr â chreu ffilmiau, mae hi’n gweithio fel tywysydd arforgampau a dringo creigiau, gan fwynhau pob eiliad o weithio yn yr awyr agored. 

Mae’n rhoi clod i’w chwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur a’i darlithwyr am roi’r sgiliau a’r hyder iddi ddilyn gyrfa mewn gwneud ffilmiau antur.

Person yn dringo wal gerrig yn tynnu llun dringwr arall

Meddai Lucy:

“Mae fy mhrofiadau ar y cwrs wedi f’arwain i weithio o amgylch y DU ac yn fuan yn Kalymnos, Gwlad Groeg lle byddaf yn defnyddio’r union sgiliau hyn ar gyfer prosiect sydd ar ddod. 

Mae’n debyg y byddaf yn hongian oddi ar glogwyn 80m gyda fy nghamera yn ffilmio artist sidan o’r awyr yn perfformio wrth hongian uwchben clogwyn dringo o’r enw Grande Grotta. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys tîm o ddringwyr creigiau, gwneuthurwyr ffilm, ffotograffwyr, arbenigwyr mynediad rhaff, a pherfformiwr artist syrcas.”

Y tu hwnt i’r sgiliau a’r profiadau, cyflwynwyd hefyd gan y cwrs i anturiaethwyr o’r un anian a oedd yn rhannu’i brwdfrydedd. Roedd wedi’i hamgylchynu gan ffrindiau newydd a ddaeth yn ffigurau allweddol yn rhai o’i munudau mwyaf cofiadwy y tu ôl i’r camera, gan gynnwys y diwrnod y cipiodd Seaglass, llun sydd bellach ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ffotograffiaeth Prydain 2024.

Person ar fwrdd syrffio yn y môr yn edrych ar fachlud haul

Meddai Lucy:

“Cڴǻ Seaglass ei dynnu yn Llangynydd, Gŵyr. Adeg syrffio ola’r haf oedd hi, ac roedden ni i gyd eisiau gwneud yn fawr ohoni. Roedd y tonnau tua 3-4 troedfedd, gydag awel berffaith o’r tir yn creu’r tonnau gwydraidd hyn. Roedd gen i fy nghamera tanddwr gyda fi, ac yn ffodus i ni, fe drodd allan i fod yn un o fachludau haul gorau’r haf.”

Mae’r llun, sy’n dal eiliad llonydd, gonest wrth i’w ffrind syllu allan i’r môr, yn un y dywed y bydd hi’n ei drysori am byth gan ei fod yn dal atgofion mor annwyl.  

Gallwch gefnogi Lucy drwy bleidleisio dros Seaglass yng , a gallwch fwynhau mwy o’i gwaith drosodd ar . 

Wrth iddi baratoi am ei phrosiect sydd ar ddod yng Ngwlad Groeg a dathlu ei henwebiad ar gyfer Gwobrau Ffotograffiaeth Prydain, mae hi ar fin gyrfa gyffrous, un sy’n addo antur a chipio eiliadau bythgofiadwy trwy ei lens.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon