Myfyriwr Doethurol yn cael ei wahodd i’r Ŵyl Ffilm Nollywood ym Mharis
Yn ddiweddar mynychodd myfyriwr Doethuriaeth Broffesiynol Tunji Offeyi o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Ŵyl Ffilm NollywoodWeek 2025 ym Mharis, gan gynrychioli’r brifysgol yn y digwyddiad rhyngwladol mawreddog.

Mae’r gwahoddiad hwn yn cydnabod ymchwil doethuriaeth ragorol Tunji o’r enw Nollywood: Heriau, Treftadaeth, Ymarfer, a Storïau. Dyma’r ail dro i Tunji gael ei anrhydeddu am ei ymchwil yn y maes, ar ôl mynychu Gŵyl Ffilm Nollywood yn Frankfurt, yr Almaen, y llynedd. Mae ei waith yn parhau i ddenu sylw am ei archwiliad craff o arwyddocâd diwylliannol ac arferion adrodd straeon Nollywood.
Myfyriwr Doethurol ym maes astudiaethau treftadaeth yw Tunji Offeyi. Wrth siarad am y gwahoddiad, dywedodd:
“Mae’n anrhydedd wirioneddol cael fy ngwahodd i NollywoodWeek ym Mharis. Mae’r gydnabyddiaeth hon nid yn unig yn dilysu fy ymchwil ond hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd adrodd straeon a threftadaeth o fewn sinema Affricanaidd. Rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydw i wedi’i derbyn yn PCDDS ac yn falch bod ein gwaith yn cael ei gydnabod o fewn y diwydiant.”
Canmolodd yr Athro Bettina Schmidt, Cyfarwyddwr Astudiaethau Tunji yn Y Drindod Dewi Sant, ei gyflawniad:
“Rydym yn hynod falch o Tunji a’r gydnabyddiaeth haeddiannol hon o’i waith. Mae ei wahoddiad i ŵyl ryngwladol mor fawreddog yn dyst i berthnasedd ac ansawdd yr ymchwil rydym yn ei meithrin yn Y Drindod Dewi Sant. Bydd y cyfle hwn yn amhrisiadwy ar gyfer ei ddatblygiad proffesiynol ac ymgysylltiad pellach â’r cymunedau treftadaeth a ffilm ehangach.”
Yn ddiweddar, derbyniodd Tunji newyddion bod ei bapur hefyd wedi’i dderbyn i’w gyflwyno yng Nghynhadledd Ryngwladol Residuum sydd ar ddod, gan nodi cam arwyddocaol arall yn ei daith academaidd.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076