PCYDDS yn croesawu Cadeirydd McLaren Applied, Nick Fry
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu cadeirydd McLaren Applied, Nick Fry, i gampws SA1 y Brifysgol i roi cipolwg gwerthfawr ar ddiwydiant Fformwla 1 i fyfyrwyr chwaraeon moduro.

Drwy’i anerchiad rhoddodd Nick, a raddiodd o Brifysgol Cymru, safbwyntiau a gwersi am y byd go iawn ac ysbrydoliaeth i fyfyrwyr, gan eu helpu i ddeall y cymhlethdodau a’r cyfleoedd o fewn Fformwla 1. Hefyd cafodd ef daith o gwmpas y cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ein hadeilad IQ.
Gan dynnu ar ei brofiadau, trafododd Nick y gwytnwch sydd ei angen i ymdrin â’r pwysau niferus a geir yn y diwydiant chwaraeon moduro a’r cymhelliad a’r pendantrwydd y mae eu hangen i lwyddo ar y lefel uchaf.
Gan annerch y myfyrwyr meddai: “I symud ymlaen mae angen i chi wthio tu hwnt i feysydd yr hyn sy’n ‘hysbys’ i rywle lle mae gennych chi’r perfformiad go iawn. Mynnwch gael y bobl orau o’ch cwmpas, y tîm gorau gan sicrhau amcanion eglur a chyfathrebu effeithiol. Mae hefyd yn ymwneud â deall nad ennill neu golli a wnewch chi – rydych chi’n ennill, neu rydych chi’n dysgu. Y peth pwysicaf yw beth wnaethom ni ei ddysgu drwy hyn a beth fyddwn ni’n ei wneud y tro nesaf er mwyn osgoi cael hyn yn digwydd eto. Hefyd rhaid iddo fod yn hwyl am mai hwn fydd eich bywyd chi.â€
Ymunodd Nick â McLaren Applied yn Gadeirydd Anweithredol ym mis Medi 2021. Ac yntau’n Gadeirydd, tasg Nick yw arwain twf parhaus McLaren mewn marchnadoedd allweddol, yn cynnwys peirianneg chwaraeon moduro a modurol, a deallusrwydd cysylltiedig.
Wrth ochr ei rôl ym McLaren Applied, Nick oedd sylfaenydd Stonehaven Partners sy’n darparu cyngor masnachol a gwasanaethau ymgynghori ar gyfer amrywiaeth o sectorau modurol a pherfformiad uchel.
Cyn ymuno â McLaren, Nick oedd y Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer Tîm F1 Mercedes AMG Petronas a bu’n rhan o werthu’r tîm i Daimler a chronfa cyfoeth sofran Abu Dhabi. Mae hefyd wedi bod yn rolau’r Prif Swyddog Gweinyddol gyda Brawn GP a enillodd Bencampwriaeth Byd y Gyrwyr ac Adeiladwyr F1, Tîm Rasio F1 Honda, a British American Racing. Cyn F1, Nick oedd Prif Swyddog Gweithredol Tîm Ralïo Byd Subaru a enillodd Bencampwriaeth Ralïo’r Byd ar ddau achlysur.
Dechreuodd Nick ei yrfa gyda Ford lle cafodd nifer o uwch rolau gweithredol mewn Datblygu Cynnyrch, Marchnata a Gweithgynhyrchu yn ogystal â dod yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn Aston Martin lle bu’n gyfrifol am ddatblygu’r Aston Martin DB7, model a newidiodd ffawd y cwmni.
Meddai Dr Kerry Tudor, Cyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol (Peirianneg): “Roedd gan ddarlith ddeniadol Nick Fry i’n Myfyrwyr Peirianneg Chwaraeon Moduro israddedig gymysgedd gwerthfawr o ddoethineb a phrofiad, gan gynnig cipolwg ymarferol a fydd yn eu hysbrydoli a’u harwain ar eu taith ym maes deinamig chwaraeon moduro. Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Nick am ei ymweliad a’i gymorth ar gyfer ein Cyfres Datblygiad Proffesiynol. Wedi llwyddiant y rhaglen ddogfen ddiweddar, roedd ei glywed yn ailadrodd ei safbwynt personol ar stori Brawn GP yn hynod ddiddorol.â€
Daeth PCYDDS yn 1af yng Nghymru am Beirianneg Fecanyddol (yn cynnwys Peirianneg Fodurol, Beiciau Modur a Chwaraeon Moduro) yn y Guardian University Guide 2024.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071