Ҵý

Skip page header and navigation

I Luke Cotter, myfyriwr o Aberdâr yn Ne Cymru, roedd dewis Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ymwneud ag aildanio ei angerdd am greadigrwydd. 

Luke Cotter standing with a piece of hi work at Swansea College of Art

Mae Luke sy’n astudio Celfyddyd Gain drwy gyfrwng y Gymraeg yn cofio’r foment dyngedfennol yn glir a wnaeth lywio ei benderfyniad i wneud cais i astudio yn y Brifysgol – roedd yn mynychu diwrnod agored pan daniodd sesiwn gan un o diwtoriaid y cwrs ei angerdd i greu eto. Fe wnaeth y sesiwn hwnnw, ynghyd ag ymagwedd ymarferol y Brifysgol a’i chyfleusterau gweithdy gwych, gadarnhau ei ddewis i astudio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS. 

“Dewisais PCYDDS oherwydd sesiwn gan un o’r darlithwyr yn ystod y diwrnod agored a gafodd effaith fawr arna i. Roedd wedi aildanio fy angerdd dros greu.Yn ogystal, roedd gweithdai gwych y Brifysgol wedi creu argraff arna i oherwydd fy mod i’n mwynhau gweithio gyda fy nwylo,” esboniodd Luke.

Fe wnaeth penderfyniad Luke i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg chwarae rôl arwyddocaol yn ei brofiad. Mae’r cyfle i drafod ac archwilio syniadau creadigol yn Gymraeg gyda myfyrwyr eraill wedi ychwanegu dimensiwn unigryw i’w astudiaethau.  “Dewisais astudio yn Gymraeg oherwydd ei bod hi’n rhoi’r cyfle i siarad am bethau creadigol yn fy iaith fy hun.  Rwy’n mwynhau trafod fy gwaith gyda myfyrwyr eraill yn y Gymraeg a phan ddaeth i bethau fel y sioe celfyddyd gain yn yr ail flwyddyn mae wir wedi gwneud gwahaniaeth i’n gwaith,” ychwanegodd.

Gan fyfyrio ar ei amser yn PCYDDS, mae Luke yn pwysleisio’r rhyddid y mae’r cwrs Celfyddyd Gain yn ei gynnig. Mae’r gallu i greu drwy’r flwyddyn ac arbrofi gyda gwahanol ffurfiau o gelfyddyd wedi bod yn hynod werthfawr. “Mae’r cwrs yn wych. I mi, mae’r rhyddid i greu drwy’r flwyddyn a’r ysbrydoliaeth o artistiaid eraill o’m cwmpas wedi bod yn uchafbwynt.Pan ddechreuais y cwrs, roeddwn i’n peintio cestyll, nawr rwy’n creu cerfluniau mawr o bren ail law.Mae’r stiwdio yma’n rhoi’r gofod i chi wthio eich ffiniau creadigol.”

Mae taith Luke yn PCYDDS wedi agor drysau iddo arddangos ei waith mewn rhai o leoliadau mwyaf adnabyddus Abertawe. O Oriel Elysium i Glynn Vivian a Theatr Volcano, mae wedi cael y cyfle i gyflwyno ei waith i’r cyhoedd a bod yn rhan o’r byd celfyddyd lleol. “Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael y cyfle i arddangos fy ngwaith mewn lleoliadau megis Elysium ac Adeilad Alex y Brifysgol. Rwyf hefyd wedi creu gwobrau ar gyfer Gwobrau’r Selar yn 2023, a hyd yn oed wedi’u cyflwyno yn yr Eisteddfod - mae’r cyfleoedd yma’n anhygoel,” dywedodd.

Er bod ei amser yn y brifysgol wedi bod yn llawn cyfleoedd, mae wedi wynebu rhai heriau hefyd. Mae Luke yn cyfaddef ei fod yn anodd ysgrifennu traethodau academaidd ar y dechrau, ond gyda chymorth gan diwtoriaid roedd yn gallu gwella. “Roedd yr ysgrifennu academaidd yn her ar y dechrau, ond fe wnaeth y tiwtoriaid dangos i mi’r hyn sy’n gwneud traethawd da.  Yn ogystal, roedd yn heriol gweithio mewn grwpiau ar gyfer sioeau cyhoeddus, ond yn y diwedd, daeth pethau at ei gilydd yn berffaith.”

O ran bywyd ar ôl graddio, mae Luke yn gyffrous am y posibiliadau a gyda sector creadigol ffyniannus Abertawe, mae’n teimlo’n hyderus y bydd yn dod o hyd i’r llwybr cywir. “I ddweud y gwir, rwy’n dal i benderfynu ar fy nghamau nesaf, ond nid yw hynny’n beth drwg. Mae cymaint o opsiynau yn sector creadigol Abertawe, ac rwy’n gyffrous i weld lle mae’n mynd â mi. 

Pan ofynnir iddo a fyddai’n argymell cwrs Celfyddyd Gain PCYDDS, mae ateb Luke yn glir: “Wrth gwrs. Mae’r cwrs hwn yn agored i bawb ac mae’n rhoi’r rhyddid i chi greu’r gwaith rydych chi wedi bod eisiau ei wneud erioed. Mae’r cyfleoedd fan hyn yn anhygoel.”

Ychwanegodd Gwenllian Beynon, Uwch ddarlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe:

“Ers i Luke ddechrau yn y Coleg Celf Abertawe mae wedi bod yn frwd dros ddefnyddio’r Gymraeg yn ei astudiaethau, mae hyn wedi bod mor naturiol iddo. Mae ei datblygiad creadigol wedi ymgorffori ei wybodaeth gelfyddydol yn ogystal â gwybodaeth am Gymru a’r celfyddydau yma. Mae ei barn am Gymru a chelf yn gryf iawn ac mae trafod mewn tiwtorialau gyda Luke bob amser yn ddiddorol iawn.”

Luke Cotter riding a bike like piece of work created by himself

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon