Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi agor y Matrics Arloesi yn swyddogol, sef cyfleuster arloesol 2,200 metr sgwâr yn SA1 y Glannau yn Abertawe. 

Image of guests during the Innovation Matrix opening which includes Cllr Rob Stewart (Leader of City and County of Swansea), Emlyn Dole (Chair of University Council), Professor Elwen Evans (Vice-Chancellor), Rebecca Evans MS (Cabinet Secretary for the Economy, Energy and Planning), Dame Nia Griffith DBE MP (Parliamentary Under-Secretary of State, Wales Office), Julie James MS, Dr Debra Williams (Pro Vice-Chancellor, Business and Commercial Relations)
O'r chwith i'r dde: Y Cynghorydd Rob Stewart (Arweinydd Dinas a Sir Abertawe), Emlyn Dole (Cadeirydd Cyngor y Brifysgol), yr Athro Elwen Evans CB (Is-Ganghellor), Rebecca Evans MS (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio), Y Fonesig Nia Griffith DBE AS (Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Swyddfa Cymru), Julie James MS, Dr Debra Williams (Dirprwy Is-ganghellor, Busnes a Chysylltiadau)

Wedi’i gynllunio i ysgogi arloesedd digidol, entrepreneuriaeth, a chydweithio diwydiannol, mae’r gofod newydd wedi’i leoli ochr yn ochr ag adeiladau cyfredol IQ ac Y Fforwm. Mae eisoes wedi denu naw busnes i’w lleoliadau gwaith sydd o ansawdd uchel, gan greu clwstwr deinamig gyda’r fantais ychwanegol o fynediad uniongyrchol i arbenigedd ac ymchwil y Brifysgol. 

Wedi’i ariannu drwy bartneriaeth strategol rhwng Y Drindod Dewi Sant a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae’r Matrics Arloesi yn cynnig cyfle unigryw i fusnesau sefydledig a busnesau newydd deinamig gyflymu datblygiad cynnyrch newydd, cael mynediad at gymorth technegol arbenigol, llogi talent graddedigion a chreu partneriaethau cyfnewid gwybodaeth gyda’r Brifysgol. 

Datblygwyd yr adeilad gan Kier Construction, a sicrhaodd werth £6 miliwn o gontractau i fusnesau yng Nghymru yn ystod y broses adeiladu.

Mynychwyd y digwyddiad lansio gan gynrychiolwyr llywodraethau Cymru a’r DU, arweinwyr dinesig a phartneriaid diwydiant, gan gynnwys:

  • Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru
  • Y Fonesig Nia Griffith DBE AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol y Senedd, Swyddfa Cymru, Llywodraeth y DU
  • Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, ac arweinydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith DBE  AS: “Mae’n wych bod cyllid Llywodraeth y DU, drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, wedi cyfrannu at adeiladu’r cyfleuster gwych hwn.  Ein prif genhadaeth, fel y nodir yn ein Cynllun ar gyfer Newid, yw twf economaidd.

“Bydd y Matrics Arloesi yn darparu lle i fusnesau sefydledig dyfu a busnesau newydd i ddechrau, gan greu swyddi yn niwydiannau uwch-dechnoleg y dyfodol.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Rydym am i Gymru fod ar flaen y gad o ran arloesi technolegau newydd sy’n ysgogi newid ystyrlon mewn cymdeithas ac sydd o fudd i bobl yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

“Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn meithrin ecosystem o’r radd flaenaf ar gyfer arloesedd digidol a menter a all fod yn gatalydd ar gyfer twf economaidd a ffyniant.

“Mae’n destament i’r rhagoriaeth y gall gweithio mewn partneriaeth ei chyflawni ar gyfer economïau rhanbarthol yng Nghymru, ac mae’n gam arall ymlaen ar ein taith i ddyfodol cryfach, tecach a gwyrddach.”

Dame Nia Griffiths and others guests watching dog robbot

Ymhlith y cwmnïau sydd eisoes wedi ymsefydlu yn y Matrics Arloesi, gan elwa o’r amgylchedd cydweithredol yw:

  1. Kaydiar Medical – Egin gwmni meddygol sy’n datblygu technoleg orthotig ar gyfer atal clwyfau.
  2. BroadReach Integrity – Gwneuthurwr sganwyr canfod cyrydiad arloesol.
  3. Rockfield - Cwmni technoleg uwch sy’n darparu systemau efelychu, rhifiadol blaenllaw ynghyd â’u cymwysiadau diwydiannol.
  4. Gwyr Films – Menter adrodd straeon nid-er-elw sy’n hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru.
  5. IDNS – darparwr datrysiadau digidol sy’n trawsnewid cydweithio ac ymgysylltu.
  6. Wolfestone – Darparwr blaenllaw gwasanaethau ieithyddol cynhwysfawr sy’n helpu busnesau i gyfathrebu ar draws marchnadoedd byd-eang.
  7. Visit Digital - Arbenigwyr ar harneisio pŵer data busnes, gan ddarparu mewnwelediadau gweithredadwy a strategaethau wedi’u teilwra i gleientiaid sy’n galluogi gwneud penderfyniadau cyflymach, mwy gwybodus.
  8. Purus – Darparwr gwasanaethau morwrol sy’n cefnogi ynni gwynt a charbon isel ar y môr. 
  9. ATiC – darparwr sy’n defnyddio’r cyfleusterau Gwerthuso Profiad a Defnyddioldeb diweddaraf i gefnogi prototeipio a datblygu technolegau iechyd newydd yn gyflym.
Tour of the new Innovation Matrix building with tenant speaking with guests about project

Meddai’r Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant: “Mae agor yr adeilad newydd hwn yn gam sylweddol mewn arloesi digidol, gan ddarparu cyfle unigryw i gydweithio, cyd-leoli a ffynnu mewn gofod o ansawdd uchel a gynlluniwyd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Trwy ddod â diwydiant ac addysg ynghyd, rydym yn meithrin amgylchedd lle gall syniadau blaengar ddatblygu, gall talent ffynnu, a gall arloesi ysgogi twf economaidd.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart: “Mae gan Abertawe hanes balch o arloesi ac entrepreneuriaeth, ond bu prinder yn ystod y blynyddoedd diwethaf o swyddfeydd o ansawdd uchel a mannau gwaith ar y cyd i ddiwallu anghenion pobl fusnes ac entrepreneuriaid uchelgeisiol.

“Gyda chefnogaeth cysylltedd digidol blaengar, bydd y Matrics Arloesi yn ategu sawl prosiect arall yn Abertawe i helpu i ddiwallu’r angen hwnnw gan roi mynediad hefyd i arbenigedd ac ymchwil prifysgol.

“Bydd yn cefnogi busnesau presennol, yn rhoi cyfle i fusnesau newydd ffynnu a helpu i greu swyddi i bobl leol.

“Bydd y Matrics Arloesi hefyd yn cyfuno â datblygiadau eraill fel cynllun swyddfa 71/72 Ffordd y Brenin i atgyfnerthu enw da Abertawe ymhellach fel dinas fusnes a buddsoddiad.”

Tour of the new Innovation Matrix building with guests watching somebody walking on a platform

Mae’r Matrics Arloesi yn cynrychioli ymrwymiad Y Drindod Dewi Sant i feithrin arloesedd digidol a thwf busnes, gan atgyfnerthu statws Abertawe fel chwaraewr allweddol yn nhirwedd technoleg ac entrepreneuriaeth y DU. Trwy bontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a diwydiant, bydd y cyfleuster yn dod yn gatalydd ar gyfer trawsnewid economaidd, gan gefnogi sgiliau, ymchwil a datblygu menter y rhanbarth yn y dyfodol.

External photo of Innovation Matrix building

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon