Yr Athro Gary R. Bunt yn Ymweld ag Indonesia i Draddodi Darlithoedd Allweddol ar Ddeallusrwydd Artiffisial ac Islam
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi bod yr Athro Gary R. Bunt wedi cwblhau ymweliad llwyddiannus ag Indonesia yn ddiweddar, lle y traddododd dwy ddarlith arwyddocaol ar groestoriad deallusrwydd artiffisial (AI) ac Islam.

Ar ei ymweliad, traddododd yr Athro Bunt ddarlith gyweirnod yn Universitas Islam Internasional Indonesia yn Depok, Gorllewin Java. Roedd ei ddarlith, o dan y teitl From Sheikh Google to ImamAI, yn rhan o’r dosbarthiadau meistr blynyddol mawreddog a chyfres gweithdai ar Ddyfodol Deallusrwydd Artiffisial yn/ac Islam, a drefnwyd gan Brifysgol Leiden a KITLV-Jakarta. Roedd y cyweirnod yn ymdrin â rôl esblygol AI o fewn cyd-destunau Islamaidd, gan archwilio sut mae technolegau digidol yn ail-lunio arferion a disgyrsiau crefyddol.
Yn ogystal â’r cyweirnod, cymerodd yr Athro Bunt ran mewn seminar rhyngwladol ar y Dyniaethau Digidol Islamaidd a gynhaliwyd gan Fakultas Dakwah UIN Sultan Maulana Hasanuddin Banten. Roedd y seminar hwn yn cynnwys cydweithio â’r academydd uchel ei barch, yr Athro Bart Barendregt o Brifysgol Leiden. Yn ystod ei gyflwyniad, bu’r Athro Bunt yn trafod themâu o’i lyfr diweddar Islamic Algorithms, yn amlygu ymchwil newydd ar AI, ac yn rhannu mewnwelediadau o’i brosiectau ymchwil parhaus, gan gynnwys Islam Prydeinig Digidol ac Islam Digidol Ar Draws Ewrop. Ymhelaethodd hefyd ar ei gyfraniadau golygyddol i’r cylchgrawn Digital Muslim Review sydd newydd ei sefydlu.
Wrth fyfyrio ar ei ymweliad, dywedodd yr Athro Bunt, “Roedd hwn yn gyfle gwych i ymgysylltu ag ysgolheigion o Dde-ddwyrain Asia ac Ewrop sy’n gweithio ar flaen y gad o ran gwaith academaidd ar effaith technolegau digidol ar gymdeithasau Mwslemaidd. Edrychaf ymlaen at ymchwilio ymhellach i gyfleoedd ymchwil posibl ar draws sectorau amrywiol yn Indonesia.”
Mae’r Athro Gary R. Bunt yn ysgolhaig o fri sy’n adnabyddus am ei arbenigedd mewn astudiaethau Islamaidd a diwylliant digidol. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau clodwiw yn archwilio croestoriad Islam, technoleg, a chymdeithas, gan sefydlu ei hun fel llais blaenllaw yn y maes. Ef yw Prif Ymchwilydd y prosiect Islam Prydeinig Digidol a ariennir gan yr ESRC.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076