Aimee Rayner yn PCYDDS
Enw: Aimee Rayner
Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Astudiaethau Blaenorol: Blwyddyn gyntaf Gradd BSC Nyrsio Oedolion yn UWE
Tref eich cartref: Southampton
Profiad Aimee ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Mae Abertawe yn ddinas mor gyfeillgar ac mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr. Mae’n ddigon mawr gan fod llawer i’w archwilio, ond yn ddigon bach i deimlo fel cymuned. Mae’r cyfleusterau celf yn anhygoel, gan gwmpasu cymaint o brosesau gyda thechnegwyr hynod wybodus i’ch addysgu. Yn ogystal, roedd llawer o ryddid a chyfrifoldeb i gael eich hyfforddi i ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r offer eich hun mewn oriau mynediad agored nad yw rhai prifysgolion yn gadael i chi ei wneud.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Roeddwn i’n hoffi’r ymdeimlad bod PCYDDS yn fy meithrin gydag oriau addysgu gwych ar fy nghwrs. Mae’r cymorth gan y staff wedi bod yn wych yn ogystal â’r cymorth â llesiant ac astudio. Yn ogystal, mae ganddynt gysylltiadau gwych â’r diwydiant a chyfleoedd ar leoliadau i’r rheiny sy’n gwthio eu hunain o’u mannau cysurus ac yn mynd amdani! Mae undeb y myfyrwyr yn weithredol iawn hefyd ac yn gefnogol gyda chymaint yn digwydd ar draws y campysau.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Ymunais â chlwb rhedeg Swansea Harriers a chystadlu mewn cynghreiriau traws gwlad lleol a rasys cyfnewid ffordd. Yn ogystal, cefais gefnogaeth gan gymdeithas Chwaraeon Unigol y brifysgol a oedd wedi fy helpu i reoli sesiynau hyfforddi a chystadlaethau ochr yn ochr â’m hastudiaethau. Rwyf wedi mwynhau mynd allan i fyd natur hefyd – nofio gwyllt yn y Gŵyr, beicio a rhedeg ar hyd y llwybrau arfordirol a hyd yn oed roi cynnig (yn wael iawn) ar syrffio!
Roeddwn i a fy ffrindiau yn arfer mynd i dafarn gydag oriel yn y cefn a oedd yn cynnal sesiynau arlunio bywyd bob wythnos. Roedd hyn yn ffordd wych o gwrdd â phobl greadigol eraill.
Rwy’n rhan o’r tîm allgymorth artistiaid sy’n hwyluso gweithdai i grwpiau ac ysgolion yn y gymuned ac rwyf wrth fy modd yn cynnal y rhain gyda’r tîm.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Rwy’n ddigon ffodus i gael interniaeth â thâl gyda thîm dylunio pwrpasol Rolls Royce ac yn edrych ymlaen at ddechrau ym mis Gorffennaf. Byddaf yn gweithio mewn lliw a defnyddioldeb yn ogystal ag ochr yn ochr â’r tîm arloesi. Rwyf hefyd wedi meithrin cysylltiadau anhygoel â phobl ac artistiaid yn Abertawe ac o gwmpas y ddinas. Rwy’n gobeithio cadw mewn cysylltiad â’r rhain a pharhau i weithio gyda nhw. Yn ogystal, hoffwn barhau i redeg gweithdai creadigol.
Impact:
The CanSense-CRC test uses AI-based modelling to interpret spectral signals from blood-based biomarkers. Clinical trials suggest it could reduce the need for invasive colonoscopies by up to 65%, potentially saving the NHS £250 million annually and improving patient access to timely care.
This project, funded by Innovate UK, marks a major step toward delivering accessible, early-stage cancer diagnostics at scale—and highlights the power of collaboration between academia, healthcare, and industry in shaping the future of healthcare in Wales and beyond.