ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Jianlan Feng

Image and intro

staff portrait smiling

Rheolwr Rhaglen BA Dylunio Cyfathrebu Gweledol

Lanzhou Coleg Prifysgol Cymru

E-bost: j.feng@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Addysgu: Yn gyfrifol am addysgu cyrsiau dylunio ymdrochol, celf a dylunio cyfathrebu gweledol sy’n meithrin amgylcheddau dysgu creadigol a rhyngweithiol.
  • Ymchwil: ymgysylltu a datblygu cynigion a phrosiectau ymchwil gyda’r Drindod Dewi Sant a phrifysgolion partner academaidd eraill, gan ganolbwyntio ar faes celf a dylunio ymdrochol.
  • Cydweithio: cynorthwyo’r Deon Cyswllt, cefnogi mentrau adrannol a chymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu staff.
  • Datblygu’r Cwricwlwm: dylunio a mireinio deunyddiau cwrs i ymgorffori’r arferion diweddaraf a chanfyddiadau ymchwil mewn addysgu a dysgu.
  • Mentora Myfyrwyr: mentora a chefnogi myfyrwyr yn eu datblygiad academaidd a phroffesiynol, gan hyrwyddo meddwl beirniadol a chreadigrwydd.
  • Rhaglenni trawsddisgyblaethol: cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil sy’n archwilio safbwyntiau amlddiwylliannol ym maes cyfathrebu gweledol.

Cefndir

Rheolwr Rhaglen MA Celf a Dylunio Lanzhou Coleg Prifysgol Cymru. Darlithydd mewn Dylunio Cyfathrebu Gweledol, gan arbenigo mewn celf a dylunio trochol. Cyfarwyddwr Cymdeithas Caligraffwyr a Pheintwyr Tsieineaidd, aelod o Artistiaid Cain, Aelod o’r Gymdeithas Dyfrlliw. 

Graddiodd o Brifysgol Xiamen ac mae ganddo chwe blynedd o brofiad addysgu addysg uwch mewn Prifysgol yn Tsieina.  Cymerodd ran mewn cynadleddau rhyngwladol megis  Ail Gynhadledd y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mharis (PCAH2023) a Chynhadledd Kyoto ar y Celfyddydau, y Cyfryngau a Diwylliant (KAMC2024), ac eraill. 

Mae’n ymroddedig i gyfuno naratifau trochol gydag ymchwil gyfoes i hyrwyddo dysgu creadigol ac arloesedd i fyfyrwyr.  Mae ei waith yn cynnwys cydweithio â thimau rhyngddisgyblaethol a chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil traws-ddiwylliannol i wella ansawdd addysgol a dyfnder academaidd.

Cyhoeddiadau

Cynadleddau

  • The Absurdist Design Model (ADM): A Nonlinear Framework for Designing in Chaos (gyda Timi O’Neill) Y Gynhadledd Ewropeaidd ar Addysg (ECE2025)
  • Creadigrwydd abswrd mewn Addysg Dylunio yn Tsieina (gyda Jianlan Feng) 4ydd Cynhadledd Paris ar Addysg (PCE2025) Sorbonne; Mehefin 2025
  • We Are Eveline  4ydd Cynhadledd Paris ar y Celfyddydau a’r Dyniaethau (PCAH2025) Sorbonne; Mehefin 2025
  • Visual Heteroglossia in AI-Generated and Human Photography – Pumed Gynhadledd Kyoto ar Gelfyddydau, Cyfryngau a Diwylliant; Hydref 2024
  • AI in Visual Arts: grasping the rhythms of AI through Photography and Painting – Pumed Gynhadledd Kyoto ar Gelfyddydau, Cyfryngau a Diwylliant; Hydref 2024