ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Our Facilities

Ein Cyfleusterau

Dewch i archwilio dyfnderoedd y meddwl dynol ac ysbrydolrwydd gyda’n rhaglenni Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol. Mae ein cyfleusterau wedi’u teilwra i wella eich profiad addysgol a meithrin dealltwriaeth ddofn o’r disgyblaethau hyn.

Our Facilities Include

Ein Cyfleusterau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Rydym yn darparu dosbarthiadau addysgu bach sy’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol sy’n canolbwyntio ar gymheiriaid. 

Mae pob darlith yn cael ei recordio a’i rhannu, gan sicrhau eich bod yn gallu gwylio eto pan mae’n gyfleus i chi. 

Bydd adnoddau llyfrgell cynhwysfawr ar gael i chi ar y campws ac ar-lein, sy’n hanfodol ar gyfer eich astudiaethau. Mae sesiynau tiwtorial personol rheolaidd yn cynnig arweiniad academaidd a chefnogaeth fugeiliol. Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs a chyflwyniadau, gan ddileu’r angen am arholiadau ffurfiol.  

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys ystod o offer TG, ystafell gyffredin i fyfyrwyr, a chyfleoedd i astudio dramor. 

Yn ogystal, cewch fynediad at gasgliadau arbennig sy’n cynnig cyfoeth o adnoddau academaidd unigryw.

Image of woman reading in a chair in front of sign for the Library and Archives in Lampeter
Image of students looking thoughtful in classroom
Image of Lampeter Bible showing Jonah and the Whale
Adnoddau Ymchwil

Archwiliwch Gasgliadau Arbennig ac Archifau PCYDDS am adnoddau amhrisiadwy mewn Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol. O lawysgrifau prin i destunau hanesyddol, mae’r casgliadau hyn yn cefnogi ymholi academaidd dwfn ac yn  cyfoethogi’ch astudiaethau gyda deunydd o ffynonellau gwreiddiol, unigryw. Dysgwch ragor yma.

Bywyd Myfyrwyr Llambed

Oriel Gyfleusterau 

Campus Life

Images of students enjoying a disco

Bywyd ar Gampws Llambed

Wedi’i sefydlu yn 1822, campws Llambed yw un o sefydliadau dyfarnu graddau hynaf Cymru. Mae ei adeiladau hanesyddol a’i diroedd ffrwythlon yn creu lleoliad hardd, sy’n cyfuno hanes cyfoethog gyda diwylliant myfyrwyr bywiog. Mae’r archifau a chasgliadau llyfrgell yn cynnig adnoddau ymchwil unigryw. Yn Llambed, cewch fwynhau cymuned glos wedi’i chefnogi gan gyfleusterau modern, gan gynnwys darlithfeydd o’r radd flaenaf, mannau astudio arbenigol, a gwahanol gyfleusterau chwaraeon a hamdden. Mae straeon a chwedlau cyfoethog y campws yn ychwanegu swyn unigryw at brofiad myfyrwyr.