ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc (Llawn amser) (DipAU)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi eisiau helpu plant a phobl ifanc i fyw bywydau iachach, hapusach? Mae ein DipAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Blant a Phobl Ifanc wedi’i chynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi wneud hynny.  Mae’r cwrs yn gymhwyster cydnabyddedig, sy’n agor llwybrau gyrfa cyffrous mewn iechyd, gofal ac addysg. 

Rydym yn darparu astudiaethau blaengar sy’n berthnasol i yrfaoedd mewn swyddogaethau sylfaenol gofal o fewn iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc sy’n gwella eich gallu i ddefnyddio pwerau ymchwil, myfyrio, dadansoddi a rhesymu yn eu cyd-destun. Byddwch yn dysgu am y syniadau a’r arferion allweddol sy’n helpu plant a phobl ifanc i dyfu a ffynnu.  Byddwch yn astudio damcaniaethau pwysig am eu datblygiad a’u lles, a dysgu sut i ddefnyddio’r wybodaeth honno mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn a chael effaith gadarnhaol.

Yn ogystal, byddwch yn archwilio materion cyfoes sy’n effeithio ar unigolion, sefydliadau, a chymunedau yn lleol ac yn fyd-eang.  Bydd hyn eich helpu i ddeall rôl Iechyd Cyhoeddus wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn a gwella iechyd a lles poblogaethau gwahanol. 

Mae ein cwrs yn ffocysu ar eich helpu i ddod yn ddysgwr annibynnol a datblygu sgiliau a fydd yn para oes.  Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddo yn eich astudiaethau a byddant hefyd yn cefnogi eich gyrfa yn y dyfodol.  Byddwch yn adeiladau sylfaen gref ar gyfer cyflogadwyedd, gan ddatblygu’r galluoedd sydd eu hangen i addasu a thyfu yn eich bywyd proffesiynol. 

Drwy ddewis DipAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Blant a Phobl Ifanc, byddwch yn ymuno â chymuned ddysgu gefnogol sydd wedi ymrwymo i’ch helpu i lwyddo.  P’un a ydych yn dechrau ar eich gyrfa neu’n chwilio i wella eich rôl bresennol, bydd y rhaglen hon yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn. 

Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i astudio’r holl fodylau drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
HCY5
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd.
02
Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi geisio cael y swydd a gyrfa rydych eu heisiau yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
03
Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hymagwedd at ddysgu ac addysgu yn seiliedig ar gyfuniad o theori ac ymarfer, gan sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ragori mewn iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu meddwl beirniadol, ymarfer adfyfyriol, a chymhwysedd proffesiynol. 

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfaeni ddatblygiad a lles plant. Byddwch yn dysgu am egwyddorion allweddol gofal iechyd a chymdeithasol, gan gynnwys dulliau plentyn-ganolog a thechnegau datrys problemau effeithiol.  Mae’r flwyddyn hon yn ffocysu ar Gydraddoldeb , cynhwysiant a thegwch digidol yn ogystal â rheoli, ymddygiad sefydliadol a newid digidol.

Datblygiad a Llesiant Plant a Phobl Ifanc

(20 credydau)

Seicoleg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Thegwch Digidol

(20 credydau)

Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o heriau cyfoes yn y sector.  Byddwch yn astudio iechyd y cyhoedd a’i effaith ar gymunedau, gan ddysgu i fynd i’r afael â materion iechyd byd-eang. Mae cwricwlwm yn cynnwys Diogelu a Chefnogi Teuluoedd mewn Iechyd a Gofal, gan ehangu eich cynhwysedd mewn lleoliadau byd go iawn.

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Diogelu a Chefnogi Teuluoedd ym maes Iechyd a Gofal

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Egwyddorion Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Iechyd, Llesiant a Gwytnwch Plant a Phobl Ifanc ac Ymgysylltu a'r Gymuned

(20 Credydau)

Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwil annibynnol

(20 Credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 32 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol a phortffolios proffesiynol.

    Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

  • Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gennym gymorth cyflogaeth cryf iawn a system profiad gwaith yn y Portffolio Iechyd.

    Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

    Yn arbennig, rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n gweithio gyda phlant a/neu bobl ifanc mewn rhyw ffordd yn barod

    Sylwch nad yw’r cwrs hwn yn cymryd lle’r cymhwyster Lefel 3 CCLD. Os ydy’ch swydd, rôl neu yrfa’n gofyn am y cymhwyster hwn, rydym yn argymell i chi ei wneud ar wahân.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau