Ymarfer Gofal Iechyd (Rhan amser) (DipAU)
Mae’r Diploma Addysg Uwch (DipAU) mewn Ymarfer Gofal Iechyd yn gwrs sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd am ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd. Mae’r rhaglen sy’n cael ei chyflwyno ar gampws Abertawe yn darparu cymhwyster cydnabyddedig ar lefel pump, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwahanol rolau gofal iechyd. Mae ein dewis rhan-amser yn eich galluogi i gydbwyso astudiaethau ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill, tra hefyd yn ei gwneud yn bosibl cymhwyso’ch dysgu’n uniongyrchol i unrhyw rôl neu brofiad cyfredol yn y sector.
Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar gyflwyno gofal tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwch yn dysgu sut i ddarparu cymorth effeithiol mewn lleoliadau gofal iechyd gwahanol. Mae’r cwricwlwm yn ymdrin ag agweddau allweddol gofal iechyd, gan gynnwys gweithio integredig, arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a datblygiad proffesiynol. Yn ogystal, byddwch yn archwilio cysyniadau biolegol, cymdeithasol a seicolegol a damcaniaethau sy’n sail i ymarfer gofal iechyd.
Mae’r TystAU mewn Ymarfer Gofal Iechyd yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd am wella eu cymwysterau cyn gwneud cais am radd mewn gofal iechyd. Mae’r cwrs hwn yn cynyddu’ch siawns o gael eich derbyn i’ch rhaglen radd ddewisol. Byddwch yn parhau i wneud cais am eich gradd ddewisol tra byddwch yn astudio gyda ni, a gallwch adael ein cwrs ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf neu’r ail flwyddyn ar ôl sicrhau eich lle mewn rhaglen radd.
Ymunwch â ni yn PCYDDS a chymryd y cam cyntaf tuag at yrfa werthfawr ym maes gofal iechyd.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn cael gwybodaeth hanfodol mewn anatomeg, ffisioleg, iechyd a llesiant, a chyd-destun iechyd gofal yng Nghymru. Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau personol, academaidd a phroffesiynol tra’n archwilio gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a hanfodion gofal iechyd a chymdeithasol.
Byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn anatomeg ddynol, iechyd a llesiant, a gofal iechyd yng Nghymru. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu sgiliau academaidd, proffesiynol a phersonol hanfodol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Gorfodol
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Gorfodol
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg uwch, yn archwilio arweinyddiaeth mewn gofal iechyd, ac yn ymgysylltu â materion cyfoes ym maes iechyd meddwl. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil ac yn dysgu cymhwyso ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i hybu iechyd a llesiant o fewn y cyd-destun Cymreig.
Gorfodol
(20 Credydau)
(20 Credits)
(20 Credits)
Gorfodol
(10 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sydd â naill ai cymhwyster lefel 2 neu 3. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r ystod o lwybrau sydd ar gael o fewn y portffolio iechyd, caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Golyga hyn y gallwn gymryd eich profiad bywyd a gwaith yn eich swydd bresennol i ystyriaeth.
Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol yn glir yn eich datganiad personol.
- Os oes gennych neu os oes angen cymhwyster TGAU mathemateg (neu gyffelyb) arnoch
- Os ydych chi’n siarad Cymraeg
- Unrhyw brofiad gwaith neu gyflogaeth cysylltiedig
- Unrhyw brofiad o ofal neu gymorth yn y teulu
- Y math o rôl gofal iechyd yr hoffech ei chael.
Angen DBS Manwl Plant ac Oedolion.
80 o Bwyntiau Tariff UCAS
e.e. Safon Uwch: BB, BTEC: DMM, IB: 28
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;
 Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Ni ddefnyddir arholiadau’n drwm yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol yn yr amgylchedd nyrsio a gofal iechyd.
Gwaith cwrs yw’r brif strategaeth asesu.
Gosodir gwaith cwrs a thasgau ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau; sy’n cynnwys.
- Ymarferion sefydlog ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
- Chwarae rôl (e.e. cyfweliadau nyrsio ffug gyda phenaethiaid diwydiant)
- Cyflwyniadau
- Portffolio nyrsio proffesiynol (yn adlewyrchu gofynion y diwydiant)
- Prosiectau ymchwil
- Blogiau adfyfyriol
- Mentora gan gymheiriaid
- Beirniadaeth fideo
- Traethodau
- Adroddiadau
- Profiad gwaith/lleoliadau.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r Brifysgol wedi creu partneriaeth gyda Trinity Nursing Services, asiantaeth nyrsio a gofal cenedlaethol, er mwyn sicrhau hyfforddiant am ddim ar lefel gweithiwr cymorth gofal iechyd, gwasanaeth cynefino â blaenoriaeth, ac yn bwysicach oll, y cyfle i weithio fel cynorthwywyr nyrsio asiantaeth â thâl ledled Cymru.
Mae staff yn darparu arweiniad gyrfaoedd i ddysgwyr, yn ogystal â chynnig llwybr dilyniant diffwdan ar gyfer ein myfyrwyr nyrsio i unrhyw gwrs arall a gynigir o fewn y portffolio ehangach.
I’r rheiny sy’n symud ymlaen i gyrsiau bwrsariaeth y GIG, cyflogaeth â thâl, neu gyrsiau eraill yn Y Drindod, rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr staff gwasanaethau proffesiynol mewnol i hwyluso’r broses.