Mae prosiect arloesol newydd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ailddiffinio sut mae cymorth seicolegol ac emosiynol yn cael ei gyflwyno i unigolion sy’n byw gyda cholli breichiau neu goesau. Lansiwyd prosiect Cerdded yn Ein Hesgidiau gan Canolfan Seicoleg a Chwnsela PCYDDS mewn cydweithrediad â’r Limbless Association, elusen flaenllaw yn y DU a ariannwyd gan The VTCT Foundation. Mae’r elusen hon wedi bod yn cefnogi pobl sydd wedi colli breichiau neu goesau ers dros 40 o flynyddoedd gan gyfuno pŵer profiad byw ag arloesi digidol blaengar i gyd-greu adnoddau seico-gymdeithasol ystyrlon.