Pa un a ydych yn awyddus i achredu cymwysterau neu brofiad dysgu wedi’i addasu’n arbennig, mae ein fframwaith yn cynnig hyblygrwydd a chymorth wedi’i deilwra i anghenion eich sefydliad. Llunnir rhaglenni a modylau wedi’u teilwra i ddatblygu twf proffesiynol a gyrru llwyddiant sefydliadol.
Mae Rhianydd Barnes, Rheolwr Newid Rhaglen yn y proffesiwn Gwaith Cymdeithasol, bron â chwblhau ei gradd MA mewn Arfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).Mae’n canmol y rhaglen am wella ei sgiliau arwain a dyfnhau ei harbenigedd mewn hyfforddi yn ogystal â mireinio ei harfer adfyfyriol.
Gyda rhaglenni Prentisiaeth PCYDDS cewch barhau i weithio tra byddwch yn astudio, gan ddatblygu eich cymhwysedd yn y gweithle yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig (fel HNC, HND, gradd, neu Radd Meistr).