Llun a Chyflwyniad

Darlithydd mewn Addysg ac Ymchwil
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: +44 (0) 1792 481000
E-bost: c.obonyo@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Darlithydd mewn Addysg ac Ymchwil, yn addysgu ar y rhaglenni Meistr a Doethurol
- Arweinydd Modwl: Doethuriaeth mewn Addysg (EdD) (llwybr rhan-amser)
- Goruchwyliwr Traethodau Ymchwil MA, EdD, a PhD
- Aelod o’r Ganolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CDAPA)
- Aelod o Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch
Cefndir
Mae gen i PhD mewn Addysg o Brifysgol Canterbury, Seland Newydd. Roedd fy mhrosiect ymchwil yn archwilio addysgeg addysgwyr athrawon a’r defnydd o dechnolegau symudol mewn cyrsiau addysg gychwynnol i athrawon yn Seland Newydd. Enillais brofiad ymarferol yn defnyddio technolegau symudol i wella addysgu a dysgu o ganlyniad i’m hastudiaeth. Rhwng 2016 a 2020, bûm yn gweithio hefyd yn Gynorthwyydd Ymchwil ym Mhrifysgol Canterbury yn Seland Newydd, yn cefnogi Menter y Rhaglen AGA Ragorol: Meistr mewn Addysgu a Dysgu.
Mae gen i gyfuniad unigryw o brofiadau. Enillais radd Meistr yn y Celfyddydau mewn Addysg gan arbenigo mewn Technoleg Hyfforddi o Brifysgol Talaith Califfornia, San Bernardino, yn 2015. Yn ogystal, enillais Dystysgrif mewn e-Ddysgu. Am flwyddyn a hanner, bûm yn gweithio yn Gynorthwyydd Ymchwil Graddedig / Addysgu ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, San Bernardino, ar ôl gweithio’n flaenorol yn Ddarlithydd Rhan-amser ym Mhrifysgol Technegol Mombasa yn Kenya.
Ar ôl mwy na 16 o flynyddoedd o brofiad gwaith yn Kenya, UDA, Seland Newydd a’r DU, mae fy ngwaith proffesiynol, ffocws ymchwil, a phrofiadau personol mewn ysgolion a phrifysgolion wedi fy ngalluogi i fod yn rhywun sy’n canolbwyntio ar wybodaeth, sy’n seiliedig ar ymchwil, yn ddigidol gymwys, ac yn ddiwylliannol sensitif. Rwyf wedi cael y pleser a’r anrhydedd o addysgu mewn ysgol uwchradd ac addysg uwch (ar y lefelau cenedlaethol a rhyngwladol). Rwy’n gweithio’n galed i wella profiadau dysgu pob myfyriwr yn effeithiol.
Aelod O
- Cymdeithas Technoleg Gwybodaeth ac Addysg Athrawon (SITE), UDA: Sefydliad Proffesiynol (2015 – Presennol)
- Cymdeithas Dysgu Hyblyg Seland Newydd (FLANZ): Sefydliad Proffesiynol (2018 – Presennol)
- Cyngor Addysgu Seland Newydd: Sefydliad Proffesiynol (2017 – 2021)
- Labordy Ymchwil e-Ddysgu, Prifysgol Canterbury, Seland Newydd: Sefydliad Proffesiynol (2016 – 2019)
- Cymdeithas Anrhydedd Ryngwladol Golden Key, UDA: Sefydliad Proffesiynol (2014 – 2015)
Diddordebau Academaidd
Meysydd addysgu:
- Ymchwil addysg
- Integreiddio technoleg
- Addysgeg ac arweinyddiaeth ddigidol
- Dysgu symudol, addysg o bell, dysgu ar-lein
Mae’r modylau a addysgir yn cynnwys:
- ECDE70002: Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil mewn Addysg (EdD llwybr llawn amser)
- ECDE7015: Archwilio Materion Cyfoes mewn Addysg 1: Adolygiad Polisi a Dadansoddiad Beirniadol (EdD llwybr llawn amser)
- ECDE7012: Dylunio a Rheoli Ymchwil mewn Addysg (EdD llwybr rhan-amser)
- ECGE7005P: Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol (MA)
- Goruchwyliwr Traethodau Ymchwil MA, EdD, a PhD
Meysydd Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil presennol yn canolbwyntio ar bedwar maes o fewn addysg uwch, sydd i gyd yn ymwneud â’m brwdfrydedd at ddefnyddio technoleg i wella addysg a dysgu:
- Gwella arferion addysgegol gan ddefnyddio technolegau digidol
- Addysgu a dysgu gyda thechnoleg
- Dysgu proffesiynol athrawon cyn gwasanaethu
- Cynhwysiant a thegwch
Un o’r prif brosiectau ymchwil roeddwn i’n rhan ohonynt fel Cynorthwyydd Ymchwil Graddedig oedd Prosiect Ymchwil Rhyngwladol Cydweithredol yn ymwneud â saith gwlad (Seland Newydd, Awstralia, Sweden, Y Ffindir, Norwy, Gwlad Pwyl, a Lloegr) i ymchwilio i bartneriaeth a chydweithredu rhwng rhieni a Chanolfannau Plentyndod Cynnar.
Ar hyn o bryd, rwy’n ysgrifennu pennod llyfr o’r enw: “re-examining online learning practices now and beyond.” Nod y bennod yw ychwanegu at y corff gwybodaeth am ddysgu ar-lein trwy gynnig dealltwriaeth fanwl o’r egwyddorion dylunio a’r arferion sy’n hyrwyddo amrywiaeth, tegwch, cynhwysiant, a hygyrchedd mewn amgylcheddau ar-lein.
Cyhoeddiadau
Penodau Llyfrau
Obonyo, C. N. (2023). . Yn J. Keengwe (Gol.). Innovative Digital Practices and Globalization in Higher Education (tt. 36-54). Hershey, PA: IGI Global.
Obonyo, C. N. (2023). . Yn J. Keengwe (Gol.). Handbook of Research on Facilitating Collaborative Learning through Digital Content and Learning Technologies (tt. 62-83). Hershey, PA: IGI Global.
Obonyo, C. N. (2019).. Yn A. Forkosh Baruch, & H. Meishar Tal (Goln.). Mobile Technologies in Educational Organizations (tt. 42-62). Hershey, PA: IGI Global.
Traethawd Ymchwil Doethurol
Obonyo, C. N. (2020). Preparing Student Teachers To Use Mobile Technologies In Teaching And Learning: A Single Site Case Ҵý. Prifysgol Canterbury, Seland Newydd. (Heb ei gyhoeddi)
Cyfraniadau i Gynadleddau
Obonyo, C., Davis, N. & Fickel, L. (2020). Teacher educators’ practices with m-learning: A case study of ‘far transfer’ into schools of practices learned during preservice teacher education. Yn E. Langran (Gol.), Proceedings of SITE Interactive 2020 Online Conference (tt. 725-730). Ar-lein: Cymdeithas Hyrwyddo Cyfrifiadura mewn Addysg (AACE). (Papur Cyhoeddedig)
Obonyo, C., Fickel, L. & Davis, N. (Gorffennaf, 2018). Thriving through uncertainty: Teacher educators responding to ‘future-focused’ principles. Yn ATEA and TEFANZ Conference Booklet (tt. 29-30). Melbourne, Awstralia. (Crynodeb Cyhoeddedig)
Obonyo, C., Davis, N. & Fickel, L. (2018). Mobile learning practices in initial teacher education: Illustrations from three teacher educators. Yn E. Langran & J. Borup (Goln.), Proceedings of Society for Information Technology & Teacher Education (SITE) International Conference (tt. 2424-2429). Washington, D.C., Unol Daleithiau: Cymdeithas Hyrwyddo Cyfrifiadura mewn Addysg (AACE). (Papur Cyhoeddedig)
Obonyo C., Davis N., & Fickel, L. (2018). New forms of teaching and learning: Examples from one teacher educators’ mobile pedagogical practices. Yn Flexible Learning Association of New Zealand (Gol.), (FLANZ) Conference Handbook (tt. 127-131). Palmerston North, Seland Newydd. (Papur Cyhoeddedig)
Obonyo C., Davis, N., & Fickel, L. H. (2017). Mobile learning practices in initial teacher education: Preparing future teachers. Yn Literacy and Learning Research Symposium Booklet (t. 16). Prifysgol Canterbury, Christchurch, Seland Newydd. (Cyflwyniad llafar)
Obonyo C., Davis N., & Fickel, L. (2017). Mobile learning in initial teacher education. Yn F. Y. Yu et al. (Goln.), Proceedings of the 25th International Conference on Computers in Education (ICCE). (tt. 9-12). Consortia Myfyrwyr Doethurol. Christchurch, Seland Newydd. (Papur Cyhoeddedig)
Obonyo C., Davis N., & Fickel, L. (2017). Mobile learning practices in initial teacher education. Prifysgol Canterbury, Christchurch, Seland Newydd: Arddangosfa Ôl-raddedig – Coleg Addysg, 1 Medi 2017. (Cyflwyniad llafar).
Obonyo C. a Leh ASC. (2015). Facilitating action research in higher education using flipped classroom approach. Yn D. Rutledge & D. Slykhuis (Goln.), Proceedings of SITE 2015—Society for Information Technology & Teacher Education International Conference (tt. 1011-1014). Las Vegas, NV, Unol Daleithiau: Cymdeithas Hyrwyddo Cyfrifiadura mewn Addysg (AACE). (Papur Cyhoeddedig)
Obonyo C. a Leh ASC. (2015). Flipped Classrooms for International Students. 29ain Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol Phi Beta Delta, 23-24 Ebrill 2015. Riverside, CA, Unol Daleithiau. (Cyflwyniad llafar).
Gwybodaeth bellach
- Hydref 2016–Presennol: Gwasanaethu ar fyrddau adolygu’r Cyfnodolion canlynol:
International Review of Research in Open and Distributed Learning (IRRODL).
Journal of Open, Flexible, and Distance Learning (JOFDL). - 2018–2019: Aelod o’r Pwyllgor Moeseg Ddynol Ymchwil Addysgol (ERHEC), Prifysgol Canterbury, Seland Newydd.
- Awst 2018: Adolygais ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol IEEE ar Addysgu, Asesu a Dysgu ar gyfer Peirianneg (TALE).
- Mai 2018: Cydweithiais â’r Athro Nodedig Niki Davis i adolygu cynnig ar gyfer llyfr. Wedi’i gyhoeddi erbyn hyn: Kearney, M., Burden, K., & Schuck, S. (2020). Theorising and implementing mobile learning: Using the iPAC framework to inform research and teaching practice. Springer Nature.
- 2014–2015: Bûm yn mentora ac yn arwain athrawon mewn swydd i wella eu hyfforddi trwy integreiddio technolegau digidol yn eu dosbarthiadau Sbaeneg – Prosiect Ieithoedd a Llenyddiaeth y Byd ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, San Bernardino.
- Gorffennaf–Medi 2014: Cynorthwyydd Ymchwil Graddedig; Prosiect COPE (Gofalu am Eraill fel Profiad Cadarnhaol): Prosiect Ymchwil ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, San Bernardino, UDA. Ariannwyd gan Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol.