Image and intro

Uwch Ddarlithydd mewn Mathemateg Peirianneg
Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru
E-bost: richard.sutton@uwtsd.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Uwch Ddarlithydd mewn Mathemateg Peirianneg
- Rheolwr Rhaglen ar gyfer y rhaglenni Peirianneg â Blwyddyn Sylfaen
- Tiwtor derbyn ar gyfer y rhaglenni Peirianneg â Blwyddyn Sylfaen
- Tiwtor Cyswllt Cymorth ar gyfer yr Ysgol Beirianneg
- Cydlynydd Camymddwyn Academaidd
Cefndir
Cwblheais f’astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, gan ennill gradd B.Sc. (Anrh) yn 2010 a gradd M.Sc. yn 2011. Ffocws f’astudiaethau ôl-raddedig oedd cymhwyso mathemateg yn rhyngddisgyblaethol o fewn Cyfrifiadureg. Roedd fy nhraethawd hir ar gyfer fy ngradd Meistr yn cynnwys dadansoddi, gweithredu a chyfoethogi ystod o algorithmau chwilio am fras-linynnau, gyda ffocws penodol ar eu cymhwyso mewn biowybodeg. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar yr algorithm Bitap, yn ogystal ag algorithmau Needleman–Wunsch a Smith–Waterman, yr oedd y ddau ohonynt yn gofyn am ddefnydd helaeth o dechnegau’n seiliedig ar fatrics. Cymhwyswyd y dulliau a ddatblygwyd i ddynodi dilyniannau DNA niweidiol o fewn samplau biolegol.
Ar lefel israddedig, roedd fy ffocws academaidd ar y sylfeini ystadegol sy’n sail i reoli a gwyddor actiwaraidd. Archwiliai fy nhraethawd hir yn y flwyddyn olaf effaith amodau meteorolegol ar berfformiad busnesau yng Nghymru. Roedd yr astudiaeth hon yn gofyn am ddadansoddiad empiraidd ar raddfa fawr o ddata cyfres amser yn y byd go iawn, gan gynnwys uwch-dechnegau ystadegol megis dad-dymoroli data a dadansoddi cydberthynas.
Aelod o’r canlynol
- Aelod o’r Sefydliad Mathemateg a’i Chymwysiadau (MIMA)
- Aelod o’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (MIET)
- Aelod o IMechE (MIMechE)
Diddordebau Academaidd
Ar hyn o bryd rwy’n addysgu ac yn arwain ar draws ystod o fodylau a ddarperir o fewn graddau amser llawn a rhan-amser:
- Mathemateg Peirianneg
- Dulliau Dadansoddol
- Mathemateg Bellach
- Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth
- Prosiect Integreiddio
- ±Ê°ù´Ç²õ¾±±ð³¦³Ù&²Ô²ú²õ±è;³Ò°ùŵ±è
Hefyd yn flaenorol rwyf wedi cyflwyno modylau Gwyddor Peirianneg a Sgiliau Astudio.
Mae fy mhrif gyfrifoldebau addysgu’n cynnwys dylunio a chyflwyno cynnwys mathemategol i’r Ysgol Beirianneg, gyda ffocws ar gynyddu llythrennedd mathemategol. Hefyd sefydlais sesiynau cymorth mathemateg a gwyddor peirianneg a’u datblygu, ac maent wedi bod yn rhedeg ers eu cychwyn yn 2011.
Rwy’n goruchwylio prosiectau graddau israddedig rhan-amser â phrif ffocws ar brosiectau seiliedig ar ddiwydiant y mae myfyrwyr yn ymgymryd â nhw yn eu hamgylcheddau peirianneg proffesiynol, sy’n golygu cydweithio â chwmnïau megis Tata Steel, Aston Martin a Renishaw.
Diddordebau Ymchwil
Mae fy niddordebau cyfredol yn canolbwyntio ar effaith sesiynau cymorth mathemateg ar lythrennedd mathemategol myfyrwyr a’u cyrhaeddiad academaidd.
Gwybodaeth ychwanegol
Yn flaenorol bûm yn ddarlithydd allanol i Inlingua ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Prifysgol Fetropolitan Abertawe gynt), gan ddarparu modylau â ffocws ar beirianneg ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a oedd hefyd yn gwneud astudiaethau Saesneg.