Cyflwyniad
Mae Athrofa Confucius ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi creu ysgol unigryw yng Nghymru lle mae plant o gefndiroedd Tsieineaidd a Chymreig yn cyfarfod bob dydd Sul yn ystod y tymor i ddysgu Tsieinëeg a chael profiad o ddiwylliant Tsieina.​ Rydym yn croesawu disgyblion o bob cefndir.
Rydym yn Ganolfan Profion Rhyngwladol Caergrawnt ar gyfer cymwysterau TGAU a Lefel AS mewn Mandarin. Rydym hefyd yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer y Prawf Tsieinëeg i Ieuenctid (YCT) a phrawf hyfedredd iaith Tsieinëeg HSK sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae ein staff addysgu hyfforddedig yn deall anghenion dysgu myfyrwyr yn y DU ac yn darparu addysg o’r safon orau.
Mae’r ysgol yn cynnig cwricwlwm sydd wedi’i strwythuro’n ofalus yn sgiliau craidd Siarad, Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu Tsieinëeg - er mwyn cefnogi disgyblion rhwng 5 a 18 oed o lefel dechreuwyr hyd at lefel uwch. Nod y dosbarthiadau yw cefnogi gallu disgyblion ac annog dysgu cyson.

Cyrsiau ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2024 i 2025
Oed yn Fras |
Grŵp Blwyddyn yn yr Ysgol |
Dosbarth yn yr Ysgol Tsieinëeg |
Cymhwyster |
---|---|---|---|
5 i 7 oed |
Blynyddoedd 1 i 2 |
Dosbarth Dechreuwyr A (blwyddyn gyntaf) |
Dim |
6 i 8 oed |
Blynyddoedd 2 i 4 |
Dosbarth 1 (blwyddyn gyntaf) |
YCT |
8 i 10 oed |
Blynyddoedd 2 i 4 |
Dosbarth 2 (blwyddyn gyntaf) |
YCT |
11 i 12 oed |
Blynyddoedd 4 i 6 |
Dosbarth 3 (blwyddyn gyntaf) |
YCT |
12 i 15 oed |
Blynyddoedd 7 i 10 |
Dosbarth 4 TGAU (blwyddyn gyntaf) |
IGCSE |
14 i 18 oed | Blynyddoedd 9 i 13 | Dosbarth 5 HSK 4 uwch Dosbarth 5 HSK 4 is |
HSK 4 |
15 i 18 oed | Blynyddoedd 10 i 13 | Dosbarth 6 Lefel UG (blwyddyn gyntaf) Dosbarth 6 Lefel UG (ail flwyddyn |
HSK 5 |
Dewis Cyrsiau ar Sail Oedran a Gofynion Mynediad.
Os nad ydych yn sicr pa gwrs sy’n addas i’ch plentyn, e-bostiwch cichineseschool@uwtsd.ac.uk neu cysylltwch â Phennaeth yr Ysgol Tsieineaidd, Cindy Chen, yn c.chen@uwtsd.ac.uk . Byddem yn hapus i drefnu cyfarfod i drafod y dosbarth mwyaf addas ar gyfer eich plentyn.
Cofrestru a Thalu Ffioedd
Cofrestru a thalu ar .
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i gwblhau’r taliad ar-lein a chofrestru oherwydd rhwystrau iaith, cysylltwch â:
Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru
Ffôn: 01792469919
E-bost: info@chineseinwales.org.uk
Wechat: Chineseinwales
Dyddiadau Tymor 2024 i 2025
Mae prif ddyddiadau’r tymhorau isod neu lawrlwythwch nhw ar ffurf Dogfen Word. Sylwch fod dosbarth 4C TGAU yn dilyn amserlen wahanol, sydd i’w gweld ar y dudalen hon.
Tymor |
Tymor yn dechrau |
Gwyliau hanner tymor |
Diwedd y Tymor |
Cyfanswm yr wythnosau |
---|---|---|---|---|
Tymor yr Hydref 2023 |
Dydd Sul 3 Medi |
Dydd Sul 29 Hydref |
Dydd Sul 17 Rhagfyr |
15 wythnos |
Tymor y Gwanwyn 2024 |
Dydd Sul 7 Ionawr |
Dydd Sul 11 Chwefror |
Dydd Sul 17 Mawrth |
10 wythnos |
Tymor yr Haf 2024 |
Dydd Sul 14 Ebrill |
Dydd Sul 26 Mai |
Dydd Sul 14 Gorffennaf |
14 wythnos |
Cyfanswm: 39 wythnos
-
Cyfnod
Dechrau
Diwedd
Cyfanswm yr wythnosau Tymor yr Hydref 2024
Dydd Sul 8 Medi
Dydd Sul 22 Rhagfyr
15 wythnos Tymor y Gwanwyn 2025
Dydd Sul 5 Ionawr
Dydd Sul 6 Mawrth
13 wythnos Tymor yr Haf 2025
Dydd Sul 27 Ebrill
Dydd Sul 13 Gorffennaf
11 wythnos Cyfanswm 39 wythnos -
Gwyliau
Dyddiad yr ŵyl
(Dyddiad y digwyddiad i’w gadarnhau)Math o ddigwyddiad
Gŵyl Canol yr Hydref
22/09/2024
Digwyddiad ysgol gyfan
Diwrnod Agored yr Ysgol TsieinëegGŵyl y Gwanwyn
26/01/2025
Digwyddiad ysgol gyfan
Diwrnod Agored yr Ysgol TsieinëegGŵyl Cychod y Ddraig
01/06/2025
Digwyddiad ysgol gyfan
Diwrnod Agored yr Ysgol Tsieinëeg -
Arholiadau
Dyddiad
Nodiadau
YCT
Mai 2024
Dyddiad yr arholiad i’w gadarnhau
TGAU
Prawf llafar: Ebrill 2025
Gwrando, darllen ac ysgrifennu: Mai 2025Dyddiad yr arholiad i’w gadarnhau
HSK4
Mehefin/ Gorffennaf 2025
Dyddiad yr arholiad i’w gadarnhau