Dysgwyr Cyrchfannau Creadigol Coleg Sir Benfro yn Archwilio yr Egin yn PCYDDS
Roedd yn bleser mawr gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) groesawu myfyrwyr Cyrchfannau Creadigol o Goleg Sir Benfro i Ganolfan S4C yr Egin, canolfan greadigol a digidol y Brifysgol yng Nghaerfyrddin, am ddiwrnod blasu i’w hysbrydoli.
Uwch Ddarlithydd Ffilm a’r Cyfryngau Digidol PCYDDS, Dr Brett Aggersberg, a drefnodd y diwrnod blasu a roddodd brofiad uniongyrchol o gyrsiau creadigol amrywiol a chyfleusterau arloesol y Brifysgol i’r myfyrwyr. Archwiliodd myfyrwyr o raglenni Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio, Cynhyrchu Cerddoriaeth, y Cyfryngau Creadigol a Chelf a Dylunio amrywiaeth o weithdai wedi’u teilwra i’w diddordebau.
Rhoddwyd cyfle i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithdai yn y bore a’r prynhawn ar draws disgyblaethau megis Dylunio Modurol, Dylunio Setiau, Gwneud Ffilmiau Antur, Actio, a Pherfformio Cerddorol. Hefyd cawsant gyflwyniad i gyfleusterau o’r radd flaenaf PCYDDS, yn cynnwys yr Ystafell Drochi â thechnoleg cefnlen ddigidol uwch a’r stiwdio Sgrin Werdd yn yr Egin. Hefyd cafodd myfyrwyr gyfle i fynd ar daith o gwmpas y campws, lle gwnaethant ymweld ag adeiladau hanesyddol ar y campws a ddefnyddir yn aml yn setiau ffilmiau, a’r gweithdai dylunio setiau lle roedd comisiynau setiau theatr ar waith.
Meddai Heidi Baker o Goleg Sir Benfro:
“Roedd yr ymweliad â’r Egin yr wythnos ddiwethaf, gyda chefnogaeth costau teithio a drefnwyd, yn llwyddiant ysgubol i’r staff a’r dysgwyr. Mynegodd myfyrwyr Celf a Dylunio eu diolch wrth iddyn nhw adael y bws, gan rannu faint roedden nhw wedi mwynhau’r diwrnod.”
Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr yr Egin:
“Mae’r Egin yn ymwneud â datblygu talent a llwybrau at ddiwydiant, roedd yn wych croesawu Coleg Sir Benfro unwaith eto ac roedd yn wych gweld brwdfrydedd a chreadigrwydd y myfyrwyr wrth iddynt archwilio ac ymgysylltu â’r cyfleusterau o ansawdd uchel sydd ar gael iddynt yma yng Nghaerfyrddin. Roedd yn wych cyflwyno’r myfyrwyr i rwydwaith Gorllewin Creadigol Cymru a thynnu sylw at y cyfleoedd niferus a’r cwmnïau creadigol yn y rhanbarth.”
Ychwanegodd Dr Brett Aggersberg, Uwch Ddarlithydd Ffilm a’r Cyfryngau Digidol PCYDDS:
“Roedd ein diwrnod blasu gyda Choleg Sir Benfro yn llwyddiant mawr diolch i gymorth staff academaidd y Diwydiannau Dylunio a Pherfformio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a’r staff a myfyrwyr o Goleg Sir Benfro oherwydd eu brwdfrydedd ffantastig. Roedd y diwrnod yn llawn o weithgareddau ar y campws gan arddangos ein cyrsiau creadigol pennaf yn cynnwys Actio, Dylunio a Chynhyrchu Setiau, Perfformio, Technoleg Cerddoriaeth, Gwneud Ffilmiau Antur, Ffilm a Theledu, Dylunio Modurol, Theatr Gerddorol a Pherfformio Lleisiol. Rydym wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’w llwybr mewn bywyd a chefnogi datblygiad eu gyrfaoedd.
“Mae diwrnod blasu fel hwn yn helpu myfyrwyr i brofi pwnc fel petaen nhw eisoes yn y Brifysgol. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth eglur iddyn nhw os mai dyma’r pwnc a’r Brifysgol iddyn nhw. Roeddem ni mor falch i gael adborth positif ar y diwrnod, ac ers hynny rydym ni wedi cwrdd â nifer o’r myfyrwyr am gyfweliadau ar gyfer y cyrsiau sydd ar gael. Rydym yn dymuno’n dda iddyn nhw i gyd gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476