Ffotograffiaeth

MURMUR
“Mae’r isymwybod yn murmur yn ddi-baid, a thrwy wrando ar y murmuron hyn y clywir ei wirionedd.” - Gaston Bachelard, 1971.
Mae’r gair Saesneg murmur yn ysgogi gweledigaethau barddol o grwpiau mawr o ddrudwennod mudol ar eu hadain – adar unigol yn pendilio, yn troelli, yn troi, ac yn chwyrlïo i mewn i sfferau geometrig yn yr awyr wrth iddi nosi. At hynny, mae modd deall murmur fel sain sy’n byw ar ymylon ein canfyddiad – su tawel sy’n esblygu ac yn atseinio po fwyaf o sylw a roddwn iddo.
Mae’r trosiadau hyn yn sylfaen i ddosbarth 2025, lle daw lleisiau artistig unigol at ei gilydd i ffurfio cyfanbeth cyfunol. Mae pob corff o waith ym Murmur yn meddiannu’i le ei hun, gan fynd i’r afael â phryderon cymdeithasol, gwleidyddol, ac amgylcheddol brys, a chyfrannu ar yr un pryd at ddymuniad cyffredin i ffurfio disgwrs cyfoes drwy arfer. Mae’u gweithiau’n herio’r ffiniau rhwng yr hyn a welir a’r hyn nas gwelir, y clywadwy a’r anghlywadwy, gan ein gwahodd i’n cyweirio ein hun i’r amleddau cynnil sy’n ffurfio’r byd o’n cwmpas.
Dymuna staff yr Adran Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, ddiolch i ddosbarth 2025 am y trefnu cydgordiol a’r gweithredu medrus ar gyfer eu sioe raddio, eu llongyfarch fel artistiaid newydd am gynhyrchu gwaith sydd mor ddeniadol, a dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.
Ryan L. Moule
Pennaeth Ffotograffiaeth Israddedig
Coleg Celf Abertawe, PCYDDS.
Ein Gwaith
Trwy archwilio ffantasmagoria amser yn ofalus, gallwn ddod i ddeall ystyr endid. Felly yn y cyflwr canol y ceir realiti diffiniad, y cysur mewn ansicrwydd. Mae A Symphony of Chaos yn annog y gwyliwr i oedi, i ryngweithio â’r gwaith o’i flaen ac i gwestiynu pob agwedd ar ei greadigaeth, i ddatguddio’r negeseuon o’i fewn.
- Gwefan &Բ;

Pan fyddwn ni’n edrych ar awyr y nos, nid dim ond y sêr rydyn ni’n eu gweld; rydyn ni’n gweld amser ei hun. Mae’r prosiect hwn yn archwilio’r berthynas rhwng golau, amser, a chof, gan ddefnyddio hauntology – olion yr hyn a fu ac adleisiau’r gorffennol sy’n aros. Gan ddefnyddio cyanotype, proses sy’n cipio delweddau trwy amlygiad i heulwen, a ffabrig clytwaith, mae’r corff o waith hwn yn adlewyrchu sut rydym yn hel gwybodaeth at ei gilydd trwy hanesion, deunyddiau a phrofiadau tameidiog.
Ar ffurf “arsyllfa” gerfluniol, mae’n gwahodd y gwyliwr i fyfyrio ar ein lle mewn gofod ac amser, yn lleol ac yn gyffredinol. Mae The Sublime yn llenwi’r gofod pendiliol rhwng pellter ac agosrwydd.
- Gwefan

Mae gwaith Childs, a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn ddiweddarach yn ei fywyd, yn cyfleu canfyddiad synhwyrol anweledig y gymuned niwroamrywiol. Trwy gyfathrebu di-eiriau, mae’n myfyrio ar ddelfrydau anghywir o bobl annodweddiadol a’r stigma presennol sy’n ein gadael mewn byd o unigedd ac ansicrwydd. Mae Veil yn hunan-ddogfennu hunaniaeth niwroamrywiol Childs, sy’n byw mewn cymdeithas sy’n ystyried y rhai niwronodweddiadol. &Բ;
Gan ddefnyddio dulliau delweddu sain, mae Veil yn gweithredu yn sianel ar gyfer ymateb y corff i orysgogiad. Gan gyfuno ffrydiau a phroses fyw, mae ffurfiau anghynrychioladol yn amharu ar gwrs bodolaeth pobl niwroamrywiol. Mae Veil yn ymgorffori’r hyn sy’n anweledig, yn allanoli’r hyn sy’n gudd ac sy’n cael ei wgu arno. &Բ;

Kataphraktos
Am y tro cyntaf mewn hanes modern, mae gwahaniaethu a thrais yn erbyn pobl trawsryweddol wedi cael eu derbyn yn eang mewn cymdeithas. Rydym yn byw o dan oruchwyliaeth gyson, gan gael ein gorfodi i gydymffurfio â gwelededd er mwyn negodi ein hawliau dynol, tra dywedir wrthym ei bod hi’n well i’n hunaniaethau, hanfod ein bod, gael eu dileu o fodolaeth. Gweithred o wrthsefyll yw Kataphraktos, lle rwy’n adennill fy hawl i breifatrwydd heb wneud fy hunan yn anweledig. Gan ddefnyddio cyfarpar meddygol a thechnegau maelwisg hynafol, creais ddarnau o arfwisg sy’n symboleiddio hunaniaeth hunanhyderus.

Mae gwaith پ‵ archwilio agweddau hauntological y pwnctwm trwy archifau teuluol a sut mae ffotograffau’n cynnwys ôl gorffennol absennol nad yw’n bodoli mwyach. Caiff delweddau a gafwyd o archifau teuluol personol yr artist eu hargraffu fel cyanotype ar ffabrig. Mae manylion bychain fel llygaid, cegau, a dwylo’n cael eu torri o’r ffabrig a’u harddangos gyferbyn, gan greu tensiwn rhwng y delweddau gwahanedig.

Mae portreadau ‵ amlygu gwerth ethnigrwydd amrywiol i gymdeithas. Mae ‵ osgoi cynrychioliadau gor-syml, gan yn hytrach ddwyn ynghyd a thynnu lluniau o bobl o gefndir gwahanol. Mae’r portread cyfansawdd newydd yn cyflwyno portread hybrid i’r gwyliwr, gan adlewyrchu nodweddion, lliw ac ethnigrwydd amrywiol, gyda’u llais eu hunain, fel cyfres sy’n uno un wyneb dynol ynghyd.
Gan fod y portreadau’n darlunio’r diwylliannau, ethnigrwydd, ac ieithoedd amrywiol sydd wedi’u hymgorffori yn rhai o’r sefydliadau y mae Saba wedi bod ynghlwm â nhw, mae’r prosiect yn bersonol iawn iddi hi. Mae ‵ credu bod Amrywiaeth yn annog empathi a chydweithio rhwng unigolion. Mae ei gwaith gydag Amrywiaeth yn greiddiol i’w gyrfa yn ffotograffydd ac fel ymgyrchydd.

Gan ddefnyddio ei synfyfyrdodau a’i dychymyg o’i phlentyndod ei hunan, mae Nia Jane yn ailddarganfod y rhyddid ysgafngalon o ddilyn mympwy artistig, yn Innate Stellate. Yn y prosiect hwn, mae Jane yn ymdrechu i fodloni rhai o freuddwydion mwy niwlog mympwyon y gorffennol, gan adlewyrchu plentyndod a dreuliwyd yn cydnabod enghreifftiau o ysgogiadau gweledol trwy ymatebion synesthetig. Mae myfyrdodau, gweadau, siapiau a chysgodion i gyd yn ennill ymateb boddhaus; gan amlygu eu hunain yn ddiweddarach yn freuddwydion, gweithiau celf a rhapsodïau parablus. Fodd bynnag, fel nifer o artistiaid, ni fyddai’n gallu cyfleu’r emosiynau hyn yn fanwl gywir trwy ei gwaith tan yn ddiweddarach mewn bywyd – ac felly, ganed Innate Stellate. &Բ;
-
Instagram

Mae Residual Imprints yn archwilio’r ymateb dynol i gysylltiad. Gan edrych ar yr olion y mae perthnasoedd yn eu gadael ar ôl, sut maen nhw’n siapio hunaniaeth trwy eiliadau tameidiog, argraffion emosiynol, ac adleisiau cysylltiad. Mae’r gwaith, sy’n bodoli yn y gwagle rhwng agosatrwydd a phellter, yn cipio presenoldeb hir-barhaol pobl eraill—eu habsenoldeb a’u heffaith barhaol fel ei gilydd. &Բ;
Mae Residual Imprints yn tystio i natur wibiol perthnasoedd, gan gwestiynu sut mae profiadau â phobl eraill yn dod yn rhan annatod ohonom trwy siapio ein harferion, ein gweithredoedd, a’n hymdeimlad ohonom ni ein hunain.

Mae Serena Killen yn ffotograffydd dogfennol sy’n canolbwyntio ar ddatgelu’r agweddau ar y byd sy’n aml yn cael eu hanwybyddu. Mae ei phrosiect “Memory in Pixels” yn archwilio diwylliant cerddoriaeth modern trwy amlygu bandiau llawr gwlad a lleoliadau lleol. Trwy ei lens, mae hi’n cipio bywiogrwydd a phenderfyniad y mannau hyn wrth iddynt wynebu heriau megis costau cynyddol a chludiant cyfyngedig liw nos. Trwy rannu’r straeon hyn, mae Serena’n arddangos gwytnwch y gymuned gerddoriaeth ac yn pwysleisio’r angen am gefnogaeth ar gyfer y lleoliadau hyn. Mae sefydliadau fel The Music Venue Trust yn helpu i ddarparu sicrwydd, gan alluogi lleoliadau i ymdopi ag anawsterau gyda chryfder a gwytnwch.
- Gwefan

Trwy dynnu a datod y cysylltiad rhyngbersonol rhwng harddwch benywaidd ac etifeddiaeth deuluol, mae’r prosiect amlddisgyblaethol Vessels yn eich gwahodd i fyfyrio ar gydymffurfiadau cymdeithasol sydd â gafael pendant dros ein perthnasoedd â’n cyrff. Mae Esme Littlechild wedi cydnabod y pwysau hyn yn natblygiad ei chorff ei hun, wrth ymdrin hefyd â phryderon etifeddol anochel heneiddio corfforol.
Ein cyrff yw’r llestri yr ydym yn byw, yn anadlu, yn symud ac yn profi drwyddynt, sydd wedi’u curadu gan nodweddion y cenedlaethau o’n blaenau yr ydym nawr yn eu mewnbynnu, eu haddasu, eu dadwreiddio a’u dileu, gan greu datgysylltiad a thrawma wrth ymlid cydymffurfiad cyfnewidiol.
- Gwefan

Echoes in silence
Mae Echoes in Silence yn gorff o waith hynod bersonol sy’n archwilio profiad pobl fyddar, gan adlewyrchu taith Cerian ei hun. Trwy’r casgliad hwn, mae hi’n ceisio rhannu cymhlethdodau tyfu i fyny’n fyddar a heriau colli rhywbeth sy’n sylfaenol i gyfathrebu wrth wneud ei ffordd trwy fyd nad yw bob amser yn deall. Mae’r prosiect hwn yn gwahodd gwylwyr i mewn i C_e_r_i_a_n_’s_ _life, gan gynnig cipolwg ar yr eiliadau tawel sy’n pennu profiad person byddar—profiad a gaiff ei anwybyddu neu ei gamddeall yn aml. Mae’n meithrin empathi ac ymwybyddiaeth, gan danio sgwrs ehangach am anawsterau byw heb allu clywed llawn, a dadlau dros gynhwysiant.

Mae gwaith parhaus Rhys Morgan yn myfyrio ar sut mae bodau dynol yn meddiannu, yn addasu, ac yn gadael argraff ar y mannau y maen nhw’n mynd drwyddynt. Wedi’i baru â themâu Hiraeth a materoldeb, mae ei waith celf yn astudio perthynas gysyniadol gwagle a phreswyliad dynol. Gan ddefnyddio materoldeb fel angor gweledol i amlygu cymhlethdod presenoldeb lleoliad. Gan yn naturiol ddefnyddio ardaloedd sydd â chlymau personol sydd yn eu tro’n cael effaith fawr ar ei gyfansoddiad, gan ysgogi deialog rhwng parhauster a phydredd. Sut mae amgylcheddau corfforol yn siapio ein hunaniaethau, a sut mae ein symudiad trwyddynt yn cyflwyno ystyr? Mae hynny’n parhau i gael ei archwilio.

Mae Karsten Obrietan yn artist gweledol wedi’i lleoli yng Nghymru sy’n gweithio gyda’r cyfryngau canlynol ar hyn o bryd - siarcol, paent olew, lliwiau naturiol a dylunio tecstilau. Gwnaed y corff o waith DANCING N01, ac mae’n parhau i esblygu fel prosiect o ddawnsio parhaus. Ni waeth a yw Obrietan yn fodlon â chanlyniad terfynol arbrawf artistig, mae’n parhau i ddawnsio ac mae’r gwaith yn newid gyda phob un o’r dawnsfeydd hynny. Y broses hon o ddawnsio di-baid yw’r hyn sydd wedi arwain at y gwaith a welwch heddiw. Mae pob darn wedi’i dorri, ei liwio, ei wnïo, ei baentio a’i dorri eto mewn proses o adeiladu o ddadadeiladu. Mae pob dawns gyda’r deunyddiau naturiol hyn wedi creu cyfnewid therapiwtig rhwng y deunydd a’r artist. Yn olaf, mae DANCING N01 yn ceisio rhyngweithio â’r hyn y mae’n ei olygu i adael ôl ar y blaned hon, a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol yn y byd materol yr ydym yn byw ynddo.

Mae gwaith yr artist yn archwilio’r cysylltiad rhwng delwedd corff a’r byd naturiol, gan bwysleisio’r pethau cyffelyb rhwng y ffurf ddynol a chylchoedd natur o dwf, pydredd, ac adfywiad. Yn yr un modd ag y mae natur yn gwrthod cael ei gategoreiddio, felly hefyd y mae’r corff, gyda phob ôl a siâp yn y corff yn adrodd stori unigryw.
Trwy gyfuno deunyddiau organig â ffurfiau dynol, y bwriad yw herio’r delfrydau confensiynol o harddwch a dathlu gwytnwch ac amherffeithrwydd y corff. Trwy hyn, y nod yw adennill hunandderbyn a chysylltiad dyfnach â’r corff a’r byd naturiol fel ei gilydd.

Mae arfer ffotograffig Will Steadman yn archwilio’r berthynas gydblethedig rhwng seilwaith dynol ac adfywiad anochel natur. Trwy gipio safleoedd diwydiannol a throshaenu elfennau naturiol a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial, mae ei waith yn darlunio dyfodol lle mae natur yn adennill yr amgylchedd adeiledig. Gan ddefnyddio model deallusrwydd artiffisial wedi’i hyfforddi’n bwrpasol, mae’n integreiddio twf organig yn ddi-dor i’r mannau hyn, gan atgyfnerthu sicrwydd ail-dwf ecolegol.
Mae’r uniad hwn rhwng ffotograffiaeth a deallusrwydd artiffisial yn herio canfyddiadau o oruchafiaeth dechnolegol, gan arddel gwytnwch tawel ond diatal natur. Trwy’r broses hon, mae Steadman yn cyflwyno myfyrdod ar fyrhoedledd, adfywiad, a grym parhaol y byd naturiol i adennill yr hyn a oedd unwaith yn waith dyn.

Bwriad prosiect Joshua Williams, ‘I cope’, oedd mynd i’r afael â materion cymdeithasol sy’n cael eu camgyfleu’n aml. Mae iechyd meddwl yn aml yn bell o’r realiti y mae’r lens yn penderfynu ei bortreadu. Er mwyn cynnig naratif newydd i’r pwnc hwn, mae Joshua’n bwriadu defnyddio prosesau gwahanol er mwyn creu a thynnu lluniau yn ei gorff o waith. Mae Joshua’n gwahodd y gynulleidfa i weld ei anawsterau ag iechyd meddwl ac i fynd y tu hwnt i’r sgyrsiau sefydlog cyfredol ynghylch y pwnc hwn trwy natur gymhleth a thoredig ei waith. Mae’n cydnabod bod dioddefaint seicolegol parhaus yn nodweddu ein profiadau cyfunol.

Mae gwaith Williams yn archwilio’r corff dynol gan adlewyrchu anawsterau dysmorffia’r corff. Gan gael trafferthion â’i delwedd corff, mae Williams yn creu cyfres o ddelweddau sy’n adlewyrchu’r syniad hwn. Mae’r gwaith o’i safbwynt hi ac mae’n edrych trwy’r anawsterau personol y mae’n eu hwynebu. Mae’n canolbwyntio ar y corff a’r manylion sy’n sefyll allan fwyaf. Mae ei gwaith hefyd yn archwilio sut mae menywod yn aml yn cael eu rhywioli, gan arwain at y teimladau hyn am ein hedrychiad.
