ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Profiad Digidol ac Ymgysylltu

Mae’r tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol yno i gefnogi staff a myfyrwyr ar draws pob campws yn PCYDDS o ran defnyddio a gweithredu technoleg drochol.   

P’un a ydym yn ymgorffori realiti rhithwir o fewn dysgu ac addysgu neu’n datblygu cynnwys pwrpasol ar gyfer gweithdy ymgolli, mae’r tîm yn cynnig cyfarwyddyd, ac arddangosiadau i ddangos galluoedd amrywiol a phwerus technoleg drochol.  

Boed hynny drwy ateb cwestiynau neu ddarparu profiadau ymarferol, mae’r tîm yno i sicrhau bod defnyddwyr yn manteisio i’r eithaf ar botensial y cyfleusterau arloesol hyn. 

Staff Profiad ac Ymgysylltu Digidol

Glyn Jenkins
Rheolwr Profiad ac Ymgysylltu Digidol
E-bost: glyn.jenkins@pcydds.ac.uk

Calum Gregory 
Technolegydd Dysgu
E-bost: c.gregory@pcydds.ac.uk

Nathan Chaplin
Arbenigwr Technoleg Realiti Rhithwir
E-bost: n.chaplin@pcydds.ac.uk

Srushti Mande
Datblygwr Cynnwys a Hyfforddwr Realiti Rhithwir
E-bost: s.mande@pcydds.ac.uk

Joel Evans
Datblygwr Cynnwys a Hyfforddwr Realiti Rhithwir
E-bost: joel.evans@pcydds.ac.uk

Digital Experience and Engagement Team

Cyflwyniad

Mae gan y tîm PaYD ddigonedd o sgiliau i’ch helpu i ddatblygu cynnwys unigryw ar gyfer eich cwrs/adran: 

  • Animeiddio 2D a 3D 
  • Delweddu a Fideos 360 
  • °ä¾±±è¾±´Ç&²Ô²ú²õ±è;¹ó´Ú¾±±ô³¾&²Ô²ú²õ±è;¶Ù°ùô²Ô&²Ô²ú²õ±è;
  • Teithiau Rhithwir 
  • Cipio Realiti 
  • Ceisiadau Unreal 
  • Ceisiadau Realiti Rhithwir 

Mae’r tîm yn cefnogi technoleg mewn sawl maes gwahanol, lle mae’r sgiliau hyn yn cynorthwyo gyda mireinio deunydd dysgu ac addysgu, gweithredu cymwysiadau gweithdai, creu deunydd marchnata deniadol a rhagor.

Archwiliwch y meysydd y mae’r tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol yn eu cefnogi.

Ystafell Drochi

Ystafell Drochi

Nod cyfleusterau Ystafelloedd Trochi PCYDDS yw darparu amgylchedd dysgu ac addysgu o’r radd flaenaf, ystafelloedd sydd wedi’u dylunio’n benodol, gan ddefnyddio technoleg i ddarparu profiad addysgol sy’n drochol ac yn rhyngweithiol. 

Mae’r Ystafelloedd Trochi yn cynnwys 3 wal fideo fawr, gan greu amgylchedd digidol amgaeedig. Ynghyd â system sain amgylchynol, nod y mannau hyn yw symbylu nifer o synhwyrau, gan bwysleisio pwysigrwydd profiadau myfyrwyr o fewn addysg, a gwella cyfraddau cadw myfyrwyr, a dealltwriaeth o gysyniadau cymhleth. 

Realiti Rhithwir (VR)

VR being used as part of Immersive Technology

Realiti Rhithwir (VR)

Gyda’r nod o gyfoethogi profiadau trochol, mae’r tîm yn helpu gyda gweithredu ac integreiddio ein hadnoddau Realiti Rhithwir, gan sicrhau defnydd effeithiol o’r dechnoleg flaengar hon.   

Mae gennym fwy nag 80 o bensetiau VR ar gael i’w benthyg, ac maent ar gael ar gyfer unigolion, gweithgareddau grŵp, gweithdai a digwyddiadau.  Mae realiti rhithwir yn galluogi myfyrwyr a staff i archwilio cysyniadau cymhleth, gan gefnogi ymgysylltu, a chodi’r profiad addysgol drwy amgylcheddau a chymwysiadau trochol a rhyngweithiol.

Cynnwys

Cynnwys

Mae’r Tîm Profiadau ac Ymgysylltu Digidol yn dod ag ystod o arbenigedd i gefnogi creu cynnwys deniadol a deinamig ar gyfer dysgu ac addysgu.  Mae’u sgiliau’n cynnwys allbwn amlgyfrwng, yn cynnwys animeiddio 2D a 3D, fideos 360-gradd, a theithiau rhithwir, gan alluogi staff i ddarparu cynnwys sy’n rhyngweithiol ac yn denu’r llygaid, gan gyfoethogi dealltwriaeth ac ymgysylltu.  

At hynny, mae’r tîm yn datblygu profiadau a chymwysiadau Realiti Rhithwir wedi’u teilwra i anghenion addysgol penodol.  Gyda chymorth parhaus rydym yn sicrhau bod syniadau creadigol yn cael eu trawsnewid yn brofiadau digidol sy’n creu effaith, gan alluogi dweud stori mewn modd trochol, a dulliau arloesol ar gyfer addysg.  

Content Creation

Ffrydio

streaming camera

Ffrydio

Mae’r Tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol hefyd yn arbenigo mewn ffrydio ar-lein a darlledu byw, gan alluogi darparu digwyddiadau, darlithoedd, a gweithdai’n ddi-dor ar gyfer cynulleidfaoedd o bell, gan gysylltu ac ymgysylltu â gwylwyr, a sicrhau profiad ar-lein proffesiynol.  

Cysylltu â Ni

°ä²â²õ²â±ô±ô³Ù³Ü&²Ô²ú²õ±è;â&²Ô²ú²õ±è;±·¾±

Mwy o Wybodaeth

  • Ystafell Drochi
  • Realiti Rhithwir
  • Cynnwys
  • Ffrydio 
  • Arwyddion Digidol

Dolenni Defnyddiol